Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • dull cydlynol o benodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • wrth wneud penodiadau, dylid ystyried yr angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir yn aelodau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • bod y telerau a’r amodau, gan gynnwys taliadau cydnabyddiaeth, yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru
  • system ar gyfer neilltuo aelodau tribiwnlysoedd yn effeithiol ar draws y system dribiwnlysoedd newydd.

Cyflwyniad

129. Rydym wedi nodi ym Mhennod 5 ein cynigion i gefnogi annibyniaeth farnwrol yn y system dribiwnlysoedd newydd. Gydag annibyniaeth daw atebolrwydd, ac nid yw’r rhain yn gynigion anghydnaws. Mae’r Bwrdd Gweithredol Barnwrol wedi crynhoi atebolrwydd barnwrol fel a ganlyn:

Mae barnwyr unigol yn ddarostyngedig i system gref o atebolrwydd mewnol mewn perthynas â chamgymeriadau cyfreithiol ac ymddygiad personol...[ac] yn atebol i’r cyhoedd yn yr ystyr bod eu penderfyniadau yn gyhoeddus yn gyffredinol ac yn cael eu trafod, yn aml yn feirniadol, yn y cyfryngau a gan grwpiau buddiant ac adrannau o’r cyhoedd y maent yn effeithio arnynt. Yn yr un modd, mae’r farnwriaeth yn atebol yn sefydliadol mewn perthynas â phenderfyniadau cyntaf a phenderfyniadau apeliadol.

Nid yw barnwyr unigol na’r farnwriaeth, ac ni ddylent fod, yn atebol i gangen weithredol y wladwriaeth oherwydd mae hynny’n groes i’r annibyniaeth farnwrol sy’n ofyniad angenrheidiol i farnwyr gyflawni eu cyfrifoldeb craidd i ddatrys anghydfodau yn deg ac yn ddiduedd. (The Accountability of the Judiciary)

130. Mae annibyniaeth ac atebolrwydd barnwrol yn gweithredu mewn cydbwysedd. Er bod y penodiadau ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru ar hyn o bryd yn dilyn prosesau dethol tryloyw, mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer penodiadau yn anghyson. Bydd dull cydlynol o benodi aelodau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, sy’n deillio o brosesau dethol clir a thryloyw, yn cyfrannu at y cydbwysedd hwn. Felly, mae ein cynigion ar gyfer penodi i’r system dribiwnlysoedd newydd yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  1. dylai prosesau a gweithdrefnau ddiogelu annibyniaeth aelodau tribiwnlysoedd a’r system dribiwnlysoedd newydd
  2. dylai’r awdurdod penodi fod yn gyson er mwyn sicrhau tegwch
  3. dylai penodiadau fod yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw.

Cwestiwn ymgynghori 26

Ydych chi’n cytuno â’n hegwyddorion arweiniol ar gyfer penodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru?

Y trefniadau ar gyfer penodi ar hyn o bryd

131. Mae’r cyfrifoldeb dros benodi aelodau i dribiwnlysoedd datganoledig, a’r broses o wneud hynny, yn anghyson. Dyma un o ganlyniadau datblygiad tameidiog Tribiwnlysoedd Cymru ac mae wedi codi nid oherwydd penderfyniadau polisi i drin penodiadau ar draws tribiwnlysoedd mewn ffyrdd gwahanol, ond yn bennaf oherwydd treigl amser a gan fod y safbwyntiau ynghylch natur farnwrol tribiwnlysoedd wedi datblygu. Mae gweithdrefnau gwahanol eto yn berthnasol i aelodau Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion.

132. Mae’r trefniadau presennol ar gyfer penodiadau i’r tribiwnlysoedd datganoledig, gan gynnwys ar gyfer swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, wedi’u nodi yn y tabl isod:

Penodiadau

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Deddfwriaeth: Adran 60 o Ddeddf Cymru 2017 ac Atodlen 5 iddi

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Brif Ustus, ymgyngoreion - Yr Arglwydd Ganghellor, Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn).

Panel Dyfarnu Cymru

Deddfwriaeth: Adran 75 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

Awdurdod penodi: Gweinidogion Cymru

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru

Deddfwriaeth: Adran 73 o Atodlen 9 i Ddeddf Amaethyddiaeth 1947

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor

Tribiwnlys Addysg Cymru

Deddfwriaeth: Adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Awdurdod penodi: Mae’r Arglwydd Ganghellor yn penodi: y Llywydd, y panel cadeirydd cyfreithiol.

Gweinidogion Cymru yn penodi panel lleyg gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Llywydd.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru

Deddfwriaeth: Adran 65 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac Atodlen 2 iddi

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

Deddfwriaeth: Adran 229 o Ddeddf Tai 2004, adran 173 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2022 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977

Awdurdod penodi: Yr Arglwydd Ganghellor yn penodi aelodau cyfreithiol. Gweinidogion Cymru yn penodi: aelodau cyffredinol, Is-lywydd, Llywydd o blith y sawl a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor.

Tribiwnlys y Gymraeg

Deddfwriaeth: Adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac Atodlen 11 iddo

Awdurdod penodi: Gweinidogion Cymru

Tribiwnlys Prisio Cymru

Deddfwriaeth: Rheoliadau 9, 11 a 12 o Reoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 ac Atodlen 2 iddynt

Awdurdod penodi:

Panel Penodi Cyngor Llywodraethu’r Tribiwnlys:

  • Aelodau
  • Cadeiryddion

Etholiad drwy bleidlais gan holl aelodau’r Tribiwnlys:

  • Llywydd

Nodyn: Mae gan Weinidogion Cymru bwerau diofyn os na wneir y penodiadau uchod o fewn tri mis i’r dyddiad pan ddaw’r swydd yn wag.

Derbyn i ysgol

Deddfwriaeth: Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Awdurdod penodi: Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu benodi naill ai 3 neu 5 aelod i bob panel apêl

Gwahardd o’r ysgol

Deddfwriaeth: Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003

Awdurdod penodi: Rhaid i awdurdod lleol benodi naill ai 3 neu 5 aelod i bob panel apêl

133. Gydag eithriadau cyfyngedig (gweler Pennod 6: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, paragraff 112), nid oes gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru gyfrifoldebau dros benodiadau i Dribiwnlysoedd Cymru. Mae’r cyfraniad a’r oruchwyliaeth farnwrol gyfyngedig ar gyfer penodiadau i dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd yn cyferbynnu â’r sefyllfa yn system Cymru a Lloegr ac yn yr Alban, a’r swyddogaethau a roddir yn y drefn honno i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd (Troednodyn 1) ac i Arglwydd Lywydd a Llywydd y Tribiwnlysoedd (Troednodyn 2).

Y trefniadau arfaethedig ar gyfer penodi

134. Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio’r prosesau penodi cyfredol yn cynnig awdurdodau penodi newydd ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru (gweler Atodiad 2, argymhellion Comisiwn y Gyfraith 31 i 37). Gellir crynhoi'r rhain fel a ganlyn:

  1. ac eithrio Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau, aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i’w penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru
  2. Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru i’w penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

135. Rydym yn cytuno ag egwyddor cynigion Comisiwn y Gyfraith.  Gellid rhoi cyfrifoldebau’r awdurdod penodi i Weinidogion Cymru, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, neu i weinidog penodol megis y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol. O dan y trefniadau ar hyn o bryd, mae’r cyfrifoldebau penodi ar gyfer rhai o Dribiwnlysoedd Cymru yn perthyn i weinidog penodol (yr Arglwydd Ganghellor) sydd â dyletswyddau statudol penodol mewn perthynas ag annibyniaeth y farnwriaeth. Yn gyffredinol, nid yw swyddogaethau’n cael eu rhoi i Weinidogion unigol Cymru.

136. Rydym yn ystyried y bydd dull gweithredu cydlynol ar gyfer penodiadau ar draws y system dribiwnlysoedd newydd, yn enwedig y rôl ehangach i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yn cyfrannu at annibyniaeth farnwrol. O dan y cynigion hyn, ni fydd modd gwneud unrhyw benodiadau heb gyfraniad barnwrol, a hynny ar ffurf y Llywydd yn gweithredu fel awdurdod penodi neu’n cydsynio i benodiadau lle bo Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel awdurdod penodi.

137. Wrth gwrs, pwy bynnag yw’r awdurdod penodi, yr elfen bwysicaf yw y dylai penderfyniadau penodi fod yn seiliedig ar argymhellion sy’n deillio o brosesau dethol clir a thryloyw. Mae’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn gorff statudol ac yn gyfrifol am ddewis pobl ar gyfer penodiadau barnwrol i Dribiwnlysoedd Cymru lle mai’r Arglwydd Ganghellor yw’r awdurdod penodi ar hyn o bryd. Lle mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi, y Comisiwn Penodiadau Barnwrol sy’n rheoli’r prosesau dethol o dan delerau trefniant o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

138. Rydym yn cynnig y dylai penodiadau barhau i fod yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw. Ar y cyd â'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol a Llywodraeth y DU, rydym yn archwilio’r ystyriaethau ymarferol o gadw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol i ymgymryd â phrosesau dethol ac i wneud argymhellion ar gyfer penodi aelodau i’r system dribiwnlysoedd newydd.

139. Canlyniad derbyn y cynigion hyn fyddai na fyddai’r Arglwydd Ganghellor yn cadw rôl fel awdurdod penodi yn y system dribiwnlysoedd unedig newydd. Ymddengys i ni fod hyn yn briodol: mae’r Arglwydd Ganghellor yn gyfrifol am farnwriaeth awdurdodaeth Cymru a Lloegr, a gedwir yn ôl, ac nid oes ganddo swyddogaethau cymesur mewn perthynas â’r farnwriaeth mewn sefydliadau datganoledig, megis llysoedd yr Alban, fel arfer.

Cwestiwn ymgynghori 27

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer awdurdod penodi aelodau’r tribiwnlysoedd newydd:

  1. ac eithrio Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau, bydd aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cael eu penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru
  2. bydd Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Meini prawf ar gyfer penodi

140. Un o ganlyniadau pellach datblygiad tameidiog y tribiwnlysoedd datganoledig yw bod diffyg cydlyniaeth yn y meini prawf ar gyfer penodi aelodau tribiwnlysoedd y mae’n rhaid i ddarpar ymgeiswyr eu bodloni, a’u bod yn amrywio o dribiwnlys i dribiwnlys, yn hytrach na bod yn gyson ar draws y system. Ar hyn o bryd, er enghraifft, ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru dim ond drwy statud y mae’r amod cymhwysedd penodiad barnwrol (Adran 50(5) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007) yn berthnasol i rolau cyfreithiol yn Nhribiwnlys y Gymraeg, Tribiwnlys Addysg Cymru a Thribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru.

141. Mae’r amod cymhwysedd penodiad barnwrol yn gosod gofyniad statudol ar gyfer o leiaf 5 neu 7 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso ac mae’n nodi’r cymhwyster cyfreithiol perthnasol y mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu arno ar gyfer penodiad i rôl gyfreithiol. Mae’r cymwysterau hynny’n cynnwys, er enghraifft, bargyfreithiwr, cyfreithiwr, neu Gymrawd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’r rhai sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol yn gymwys i wneud cais am ystod fwy cyfyngedig o rolau cyfreithiol yn awdurdodaeth ehangach Cymru a Lloegr o’u cymharu â’r rhai sydd wedi cymhwyso fel bargyfreithiwr neu gyfreithiwr. Rydym yn nodi'r hyblygrwydd sydd ar gael i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd, a gaiff benodi barnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf hyd yn oed os nad yw'r person hwnnw'n bodloni amod cymhwysedd y penodiad barnwrol (Paragraff 2(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007).

142. Mae rolau cyffredinol yn cwmpasu ystod ehangach ac amrywiol o feysydd. Ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru, mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl, amaethyddiaeth a safonau moesegol llywodraeth leol, ymysg eraill. Felly, mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rolau cyffredinol yn amrywio lle bo hynny’n briodol, yn dibynnu ar awdurdodaeth y tribiwnlys y mae rôl gyffredinol yn berthnasol iddo.

143. Mae meini prawf clir a chyson ar gyfer penodi yn un rhan o’r hafaliad ar gyfer adeiladu a chynnal corff yr aelodau ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd. Rhan arall yw amrywiaeth. Dywedodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, (“Comisiwn Thomas”):

Mae gan bobl Cymru hawl i gael system gyfiawnder sy'n diwallu eu hanghenion penodol ac yn ystyried demograffeg, daearyddiaeth, amrywiaeth a chydraddoldeb. (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 12.3.2, tudalen 466)

144. Mae’r ystadegau swyddogol blynyddol ar amrywiaeth farnwrol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2022, sy’n cwmpasu’r farnwriaeth bresennol, penodiadau barnwrol a phroffesiynau cyfreithiol, yn dangos, er enghraifft, bod tua hanner barnwyr tribiwnlysoedd yn ferched, ond bod y gyfran yn is ym marnwriaeth y llysoedd, yn enwedig mewn rolau uwch. Ar ben hynny, ar gyfer penodiadau barnwrol, roedd y cyfraddau argymell o’r gronfa gymwys ar gyfer ymgeiswyr ethnig leiafrifol 37% yn is nag ar gyfer ymgeiswyr gwyn, gwahaniaeth a ddisgrifir yn yr ystadegau swyddogol fel un ystadegol arwyddocaol (Diversity of the judiciary: Legal professions, new appointments and current post-holders - 2022 Statistics).

145. Nodwn fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynigion i ehangu’r rolau cyfreithiol sydd ar gael i weithwyr cyfreithiol sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol i gynnwys Barnwr Uwch Dribiwnlys Cymru a Lloegr, ymysg eraill (Datganiad Llywodraeth y DU i’r wasg, 11 Mai 2023). Bydd ehangu’r gronfa y gellir gwneud penodiadau ohoni yn hybu rhagor o amrywiaeth yn y farnwriaeth dros amser. Roedd Comisiwn Thomas o’r farn bod Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol yn cynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, gyda thua 75 y cant o’i aelodau’n ferched a 70 y cant o’i aelodau dan 44 oed (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 9.20, tudalen 391). Mae’n cynnig llwybr mwy hygyrch at gymhwyster i lawer yng Nghymru:

Mae llwybr at gymhwyso fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol yn fwy hygyrch, hyblyg a fforddiadwy... Mae'n darparu llwybr nad yw drwy'r brifysgol i gyflawni cam academaidd yr hyfforddiant cyfreithiol. Gall myfyrwyr astudio, yn aml ar sail rhan amser, drwy golegau lleol neu drwy ddysgu o bell ac ar gyflymder o'u dewis; gallant fod mewn cyflogaeth berthnasol wrth wneud hynny. Mae'r Sefydliad yn amcangyfrif ei bod yn costio llai na £10,000 ar gyfartaledd i rywun gymhwyso fel Gweithredydd Cyfreithiol Siartredig sef llai o lawer na chost cymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, paragraff 9.45, tudalen 401)

146. Ar hyn o bryd, dim ond mewn perthynas â phenodiadau i un o Dribiwnlysoedd Cymru y mae’n ofynnol i’r awdurdod penodi roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir. Tribiwnlys y Gymraeg yw’r tribiwnlys hwnnw, a Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi (Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) OS 2013 Rhif 3139 (Cy.312), Rheoliad 4.). Yn yr un modd, rydym yn ystyried y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir.

147. Rydym hefyd yn credu y dylai’r gronfa o ymgeiswyr sy’n gymwys i gael eu penodi fod yn un eang er mwyn annog pobl sydd â’r profiad, y cymwysterau a’r sgiliau priodol, gan gynnwys, er enghraifft, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sy’n meddu ar gymhwyster Sefydliad y Gweithredwyr Proffesiynol, i ymgeisio i ymuno â’r system dribiwnlysoedd newydd. Bydd casglu data ar ddangosyddion perfformiad allweddol a’u monitro yn un o swyddogaethau Bwrdd y corff hyd braich newydd. Credwn y dylai hyn gynnwys dangosyddion ar amrywiaeth aelodau tribiwnlysoedd a’r Gymraeg ar draws y system dribiwnlysoedd.

Cwestiwn ymgynghori 28

Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir?

Cwestiwn ymgynghori 29

Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir?

Telerau ac amodau penodi

148. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i osod y telerau a’r amodau, gan gynnwys taliad cydnabyddiaeth, ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru o dan y gwahanol fframweithiau deddfwriaethol sy’n llywodraethu pob un ohonynt. Rydym yn cynnig bod gan Weinidogion Cymru bŵer cyfatebol mewn perthynas â holl aelodau’r tribiwnlysoedd newydd, gan ei gwneud hi’n bosib rhoi sylw i wneud telerau ac amodau’n gyffredin, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol, ar draws yr amrywiol awdurdodaethau, yn ogystal â hwyluso trawsneilltuo.

Cwestiwn ymgynghori 30

Ydych chi’n cytuno y dylai Gweinidogion Cymru osod telerau ac amodau penodi ar gyfer aelodau o’r gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd?

Neilltuo

149. Mae trawsneilltuo, neu drawsdocynnu, yn ddull sy’n galluogi aelod o un o Dribiwnlysoedd Cymru i eistedd a gwrando ar achosion yn un o Dribiwnlysoedd Cymru ar wahân i’r un y penodwyd yr aelod iddo (Adran 62 o Ddeddf Cymru 2017). Mae hon yn ffordd hyblyg o neilltuo adnoddau i ddiwallu anghenion Tribiwnlysoedd Cymru sy’n bodoli eisoes. Nid yw’r system hon o neilltuo adnoddau’n hyblyg yn berthnasol ar draws yr holl dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ar hyn o bryd.

150. Gellir hefyd trawsneilltuo rhwng Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlys y DU, ac fel arall, os yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yn cytuno (Adran 63 o Ddeddf Cymru 2017).

151. Er mwyn hwyluso’r gwaith o leoli aelodau tribiwnlysoedd yn effeithiol ar draws y system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru ac ar draws y system ehangach o dribiwnlysoedd a gedwir, rydym yn cynnig y dylai system o drawsneilltuo aelodau barnwrol, cyfreithiol a chyffredinol weithredu yn y system dribiwnlysoedd newydd a’r system dribiwnlysoedd sydd ar waith yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Dylai fod yn amodol ar gymeradwyaeth briodol gan yr uwch arweinwyr barnwrol ar gyfer pob system dribiwnlysoedd. Yng Nghymru, ar Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru fydd y cyfrifoldeb hwn.

152. Rydym yn cynnig bod pwerau trawsneilltuo wedi’u cyfyngu i neilltuo i dribiwnlysoedd ar yr un lefel, ac felly, er enghraifft, gellid neilltuo barnwr neu aelod arall o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i safle cyfatebol mewn awdurdodaeth wahanol i awdurdodaeth y Siambr y mae wedi’i benodi iddi, ond ni ellir eu trawsneilltuo i Dribiwnlys Apêl Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 31

Ydych chi’n cytuno y dylid parhau â system o drawsneilltuo ar gyfer aelodau barnwrol, cyfreithiol a chyffredinol yn y system dribiwnlysoedd newydd?

Penodi Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

153. Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn benodiad gan yr Arglwydd Brif Ustus ac mae’r Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion Cymru yn ymgyngoreion yn hynny o beth. Mae gan yr Arglwydd Ganghellor swyddogaethau mewn perthynas â diswyddo’r Llywydd hefyd (Adran 60 a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 5 i Ddeddf Cymru 2017).

154. Rydym wedi ystyried y rhesymeg sy’n sail i’r trefniadau presennol ac a ydynt yn dal yn ddelfrydol ar gyfer swydd y Llywydd yn y system dribiwnlysoedd newydd. Rydym yn cynnig yn y paragraffau isod, mewn perthynas â phenodi aelodau tribiwnlysoedd, na ddylid cadw swyddogaethau awdurdod penodi presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â’r tribiwnlysoedd yn y system dribiwnlysoedd unedig newydd. Yn yr un modd, rydym yn cynnig na ddylid cadw swyddogaethau presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â phenodi’r Llywydd ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd.

155. Ein rhesymeg dros y cynnig hwn yw mai swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw’r barnwr uchaf yn system y tribiwnlysoedd datganoledig. Dylai’r swyddogaeth weithredol yn y broses o benodi’r Llywydd, sef cadarnhau cytundeb i’r Arglwydd Brif Ustus benodi person i’r swydd, gael ei harfer gan Weinidogion Cymru yn unig, sef ar y cyd â’r Cwnsler Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidogion yw Llywodraeth Cymru, gweithrediaeth Cymru.

156. Rydym o’r farn y dylid cael synergedd a chydlyniaeth rhwng prosesau penodi a disgyblu, fel y nodir yn y paragraffau isod. Felly, rydym yn cynnig na ddylid cadw swyddogaethau presennol yr Arglwydd Ganghellor mewn perthynas â diswyddo’r Llywydd ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd.

157. Fel y nodwyd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yw'r awdurdod penodi ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. O fewn hierarchaeth barnwyr, mae'n rhesymegol bod Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn eistedd o dan yr Arglwydd Brif Ustus, gan gynnwys o fewn system y tribiwnlysoedd datganoledig. Mae hefyd yn rhesymegol bod gan yr Arglwydd Brif Ustus rôl ym mhenodiad y Llywydd ac mewn materion sy'n ymwneud â disgyblaeth, yn enwedig o ran diswyddo. Ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Llywydd o reidrwydd gael ei benodi gan yr Arglwydd Brif Ustus. Felly, yn y system dribiwnlysoedd newydd, gallai’r trefniadau o ran awdurdod penodi'r Llywydd barhau fel y maent, neu gellid cael awdurdod penodi Cymreig.

158. Croesawn eich sylwadau ar y broses ar gyfer penodi Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac a ddylai a sut y dylai ddatblygu fel rhan o’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru.

Cwestiwn ymgynghori 32

Ydych chi’n meddwl y dylai’r prosesau penodi ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael eu newid mewn unrhyw ffordd fel rhan o’r diwygiadau arfaethedig a nodir yn y papur gwyn?

Troednodiadau

1. Gweler, er enghraifft, adran 4 a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, sy’n rhoi’r swyddogaeth i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd benodi aelodau cyffredin ac aelodau cyfreithiol Tribiwnlys Haen Gyntaf y DU. Yn ôl i destun.

2. Gweler, er enghraifft, adrannau 22 a 32 a pharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Tribiwnlysoedd (Yr Alban) 2014. Gweinidogion yr Alban yw’r awdurdod penodi ar gyfer penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf yr Alban a rhaid iddynt: ymgynghori â’r Arglwydd Lywydd cyn penodi Llywyddion Siambrau; a phenodi Dirprwy Lywyddion y Siambr os gofynnir iddynt wneud hynny gan Lywydd y Tribiwnlysoedd. Yn ôl i destun.