Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny
  • y dylid ychwanegu at rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy roi swyddogaethau a dyletswyddau statudol newydd i’r swydd.

Cyflwyniad

117. Cafodd swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ei chreu gan Ddeddf Cymru 2017. Mae dwy ran i swyddogaethau’r Llywydd o dan y Ddeddf (Adran 60(5) o Ddeddf Cymru 2017). Yn gyntaf, mae’r Llywydd yn gyfrifol am gynnal y tribiwnlysoedd (Adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 - gweler hefyd Pennod 2: Cwmpas ein diwygiadau) gyda’r adnoddau sydd ar gael gan Weinidogion Cymru. Mae hyn yn ymestyn i hyfforddiant, arweiniad a lles aelodau’r tribiwnlysoedd hynny. Yn ail, mae’r llywydd yn gyfrifol am gynrychioli barn aelodau’r tribiwnlysoedd i Weinidogion Cymru ac i’r Senedd. Gwnaeth Syr Wyn Williams, Llywydd cyntaf Tribiwnlysoedd Cymru, hyn yn rhannol drwy ei adroddiadau blynyddol a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol, ac a osodwyd gerbron y Senedd.

118. Nid yw Deddf Cymru yn diffinio dyletswyddau, swyddogaethau a phwerau’r Llywydd yn llwyr, ac mae rhai ohonynt yn ymhlyg. Er enghraifft, derbynnir yn gyffredin mai’r Llywydd yw'r ffigwr barnwrol uchaf o fewn y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, gyda rôl oruchwylio ategol dros y tribiwnlysoedd y mae gan y Llywydd swyddogaethau statudol mewn cysylltiad â hwy. Fodd bynnag, mae'r swyddogaethau hynny wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd i faterion hyfforddiant, canllawiau a lles.

119. Mae rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi’i chymhlethu gan natur y fframweithiau deddfwriaethol cyfredol ar gyfer y tribiwnlysoedd o dan oruchwyliaeth y Llywydd. Y rheswm am hyn yw bod Deddf Cymru 2017 wedi cael ei gosod ar draws deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes ac sy’n rhychwantu’r cyfnodau cyn ac ar ôl datganoli. Ar ben hynny, mae tribiwnlysoedd datganoledig o fewn cwmpas ein cynigion nad ydynt o fewn cwmpas rôl y Llywydd.

120. Credwn fod swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn elfen allweddol o’n system o dribiwnlysoedd datganoledig. Mae angen yr uwch arweinyddiaeth farnwrol y mae’r swydd yn ei darparu wrth i’n system dribiwnlysoedd newydd gael ei chreu ac wrth iddi ddatblygu yn y dyfodol. Ond rydym yn credu bod potensial i ychwanegu at swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, potensial y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddeall hefyd wrth wneud Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn awdurdod penodi ar gyfer swyddfeydd eistedd mewn ymddeoliad ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru. Fodd bynnag, mae unrhyw benodiadau o’r fath yn dal i fod angen cytundeb yr awdurdod penodi ar gyfer y swydd farnwrol wreiddiol, sef naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Arglwydd Ganghellor (Adran 124 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022).

Rôl farnwrol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru

121. Mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny (gweler Atodiad 2, argymhellion 17 ac 18 Comisiwn y Gyfraith). 

122. Nid yw Deddf Cymru 2017 yn rhoi rôl farnwrol yn benodol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru eistedd fel barnwr yn Nhribiwnlysoedd Cymru. Mae’r swydd hon yn wahanol i rolau arwain uwch cyfatebol y tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban, lle mae gan Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd a Llywydd Tribiwnlysoedd yr Alban rolau barnwrol a ragnodir mewn statud (Adrannau 4(1)(c) a 5(1)(a) o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 ac adran 17(5) o Ddeddf Tribiwnlysoedd (Yr Alban) 2014). Gwnaeth Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, sylwadau am rôl farnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn ei adroddiad blynyddol cyntaf:

Er nad yw Ddeddf Cymru 2017 yn trafod y pwynt, ymddengys yn glir fod gan y Llywydd, fel uwch farnwr, hawl i eistedd fel cadeirydd cyfreithiol pob un o Dribiwnlysoedd Cymru. Wedi dweud hynny, rwyf fi o’r farn na ddylai’r Llywydd eistedd fel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys oni bai fod Arweinydd Barnwrol y Tribiwnlys hwnnw a’r Llywydd yn cytuno bod amgylchiadau achos penodol yn ei gwneud yn amhriodol i’r Arweinydd Barnwrol wneud hynny. (Adroddiad Blynyddol Cyntaf Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru tudalen 3)”

123. Ar hyn o bryd, er ei bod ymhlyg y gall Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru eistedd fel barnwr yn un o’r tribiwnlysoedd sydd o fewn cylch gwaith y Llywydd, nid oes mecanwaith cydnabyddedig ar gyfer y trefniant hwn yn ymarferol, nac unrhyw ddarpariaeth mewn cyfarwyddiadau na rheolau gweithdrefnol sy’n nodi’r ymarfer a’r weithdrefn o ran sut y dylai’r Llywydd eistedd.

124. Rydym o’r farn bod manteision ymarferol clir i wneud darpariaeth statudol benodol ar gyfer rôl farnwrol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru. Yn gyntaf, bydd yn egluro sail gyfreithiol bresennol rôl farnwrol y Llywydd. Yn ail, ynghyd â rheolau gweithdrefnol addas, bydd yn rhoi sicrwydd ynghylch yr ymarfer a’r weithdrefn i’w dilyn ar yr adegau hynny y bydd y Llywydd yn eistedd fel barnwr. Yn drydydd, bydd yn sicrhau bod adnoddau barnwrol uwch ar gael i system gyfiawnder eginol Cymru, yn enwedig pan fydd materion yn codi sy’n ymwneud â chymhwyso deddfwriaeth ddatganoledig ar draws y tribiwnlysoedd yn gyffredinol. Yn bedwerydd, bydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i’r Llywydd ar weithrediad y tribiwnlysoedd a’r dyraniad o adnoddau ar eu traws. Yn olaf, bydd rôl farnwrol benodol i’r Llywydd yn cynyddu atyniad y swydd i ddarpar ddeiliaid swydd yn y dyfodol.

125. Er eglurder, rydym hefyd yn cynnig darpariaeth statudol benodol sef y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 24

Ydych chi’n cytuno y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny?

Dyletswyddau a swyddogaethau statudol newydd

126. Rydym wedi trafod y darpariaethau statudol sy’n sail i swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a natur a chwmpas cyfyngedig swyddogaethau’r Llywydd ar hyn o bryd. Er bod swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi ychwanegu gwerth sylweddol iawn at y system cyfiawnder tribiwnlysoedd yng Nghymru ers ei sefydlu o dan Ddeddf Cymru 2017, rydym o’r farn y dylid ychwanegu at y swydd a rhoi rhagor o sylwedd iddi.

127. Yn ogystal â darpariaeth statudol benodol sy’n sail i rôl farnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, rydym o’r farn y dylai swyddogaethau a dyletswyddau statudol pellach gael eu rhoi i’r swydd i gryfhau ei rôl arwain ar draws y tribiwnlysoedd newydd, ac er budd annibyniaeth farnwrol. Trafodir llawer o’r dyletswyddau a’r swyddogaethau hyn ym mhenodau eraill y Papur Gwyn hwn. Maent wedi’u nodi’n gryno yn y tabl isod:

Dyletswyddau a swyddogaethau arfaethedig

  • Goruchwyliaeth farnwrol o strwythur sefydliadol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 3
  • Goruchwyliaeth farnwrol o gynigion i ychwanegu awdurdodaethau at y system dribiwnlysoedd newydd - Pennod 3
  • Aelod barnwrol neu Gadeirydd Bwrdd Tribiwnlysoedd Cymru (“Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” yw enw gwaith y corff statudol newydd y bwriadwn ei greu – gweler Pennod 5: Annibyniaeth), y corff corfforedig newydd, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd - Pennod 5
  • Awdurdod penodi ar gyfer aelodau cyfreithiol a chyffredinol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru - Pennod 7
  • Goruchwyliaeth a chydsyniad barnwrol ar gyfer penodiadau Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, ac aelodau Tribiwnlys Apêl Cymru, gan Weinidogion Cymru - Pennod 7
  • Awdurdodi trawsneilltuo aelodau tribiwnlysoedd ar draws Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 7
  • Dyfarnu ar gwynion am aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru - Pennod 8
  • Goruchwyliaeth a chydsyniad barnwrol ar gyfer dyfarniadau ar gwynion am aelodau Tribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 8
  • Cadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Cymru, y cyfrifoldeb dros benodi aelodau i’r Pwyllgor a dros wneud rheolau gweithdrefnol ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru - Pennod 9

128. Nid yw’r rhestr o ddyletswyddau a swyddogaethau arfaethedig a nodir uchod yn hollgynhwysfawr. Rydym yn bwriadu sicrhau bod swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn seiliedig ar fframwaith statudol sy’n arfogi’r Llywydd i ddarparu arweinyddiaeth farnwrol ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd wrth iddi gael ei chreu ac wrth iddi ddatblygu yn y dyfodol.

Cwestiwn ymgynghori 25

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion i ychwanegu at swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy gyflwyno dyletswyddau, swyddogaethau a phwerau statudol i’r swydd, fel y nodir yn y papur gwyn hwn?