Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd heddiw (18 Mai).
Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at gadeiryddion y byrddau iechyd yn datgan ei gwerthfawrogiad o’r camau enfawr ymlaen sydd wedi’u cymryd gan weithwyr y GIG i glirio rhestrau aros, gyda 96% o’r llwybrau ar restrau aros yn llai na dwy flynedd bellach, ond mae wedi pwysleisio bod angen gwneud mwy i ddileu’r amseroedd aros hiraf.
Mae’r amseroedd aros dwy flynedd wedi gostwng 55% ers gosod y targed, o 70,417 ym mis Mawrth 2022 i 31,726 ym mis Mawrth eleni.
Mae’r rhan fwyaf o’r amseroedd aros hynny, sef 86%, mewn saith maes arbenigol, a gafodd eu cydnabod fel rhai anodd eu clirio pan osodwyd y targedau uchelgeisiol flwyddyn yn ôl. Y meysydd hynny yw Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol, Offthalmoleg, Wroleg, Gynaecoleg, Orthopaedeg a’r Clust, yr Trwyn a’r Gwddf.
Mae GIG Cymru yn parhau i weld galw eithriadol uchel, gydag 1.4m o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau ysbyty yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – sy’n cyfateb i bron i hanner poblogaeth Cymru.
Roedd yr atgyfeiriadau dyddiol ar gyfartaledd ym mis Mawrth eleni yr uchaf ar gofnod a 14% yn uwch na 12 mis ynghynt.
Mae’r ystadegau heddiw yn dangos gwelliant mewn amseroedd ymateb ambiwlansys, gyda’r perfformiad gorau gan ambiwlansys ar gyfer cleifion sy’n wynebu bygythiad uniongyrchol i fywyd ers bron i flwyddyn.
Hefyd cynyddodd y byrddau iechyd nifer y bobl sy’n cael eu trin am ganser, tra bo 14,230 o bobl wedi derbyn newyddion i’w groesawu eu bod yn glir o ganser, cynnydd o 11.8% ar y mis blaenorol.
Flwyddyn ers gosod targedau newydd ar gyfer y GIG, fel rhan o’r rhaglen adfer yn dilyn y pandemig, mae’r byrddau iechyd wedi dangos rhywfaint o welliant ond mae’n amrywio ledled Cymru.
Dangosir hyn yn awr yn yr adroddiadau ystadegol sy’n cael eu cyhoeddi, lle gellir monitro perfformiad pob bwrdd iechyd. Gall pobl hefyd gael gwell syniad o ble maen nhw ar restr aros eu bwrdd iechyd drwy fynd i’r tudalennau gofal wedi’i gynllunio ar y wefan 111.
Dywedodd y Gweinidog:
Rydw i wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd i fynegi fy siom nad ydyn nhw wedi cyrraedd y targed ar gyfer pobol sy’n aros dros ddwy flynedd am driniaeth.
Rydw i eisiau gweld mwy o arloesi, fel yn Ysbyty Gwynedd, lle mae mwy na 90% o lawdriniaethau canser y fron yn cael eu cwblhau fel achosion dydd, gan alluogi i gleifion gael eu rheoli’n fwy effeithlon a gwella’n fwy cyfforddus ac yn gynt gartref.
Mae’n rhaid i’r achosion mwyaf brys gael eu blaenoriaethu o hyd, ond rydw i’n disgwyl i fyrddau iechyd weithio drwy eu rhestrau aros yn gyflymach. Mae hyn yn cynnwys drwy drin pawb yn eu tro; cynyddu'n sylweddol nifer yr amseroedd aros hiraf sy’n cael sylw drwy fwy o achosion dydd; darparu gwelyau gofal wedi'i gynllunio penodol wedi'u neilltuo; defnydd mwy effeithlon o theatrau; a lleihau nifer yr achosion o ganslo, dechrau'n hwyr a gorffen llawdriniaethau yn gynnar.
Flwyddyn ers lansio ein Rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng, mae arwyddion o anogaeth yn ffigurau gofal brys ac argyfwng heddiw, er ein bod yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud o hyd.
Mae ein gwasanaeth ambiwlans yn parhau i dderbyn lefelau hanesyddol uchel o alwadau coch ac rydym wedi gweld cynnydd o 99% yn nifer y galwadau mwyaf difrifol yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Roedd nifer y galwadau ambiwlans coch a gafodd sylw o fewn y targed o wyth munud 5.6 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth, ac atebwyd 83% o alwadau coch o fewn 15 munud. Roedd yr ymateb ar gyfartaledd i gleifion oren ym mis Ebrill bron i 40 munud yn gyflymach na'r mis blaenorol.
Yr amser a dreuliwyd ar gyfartaledd gan gleifion mewn Adrannau Achosion Brys oedd ychydig o dan 2 awr 40 munud, gwelliant ar y mis diwethaf. Roedd gostyngiad hefyd o 11% yn nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Er fy mod yn siomedig bod y byrddau iechyd wedi methu cyrraedd eu targed o ran y rhestrau aros dwy flynedd, rydw i’n falch o weld bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud a byddaf yn parhau i ddal y byrddau iechyd i gyfrif.