System dribiwnlysoedd newydd i Gymru: Papur gwyn - Pennod 5: Annibyniaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru er mwyn creu un system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol a fydd yn cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cynnig
Rydym yn cynnig:
- y dylai pawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru fod o dan ddyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
- creu corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.
Cyflwyniad
86. Annibyniaeth farnwrol yw’r egwyddor sy’n llywio’r ffordd y mae sefydliadau barnwrol yn cael eu cefnogi ac a fydd yn parhau i gael eu cefnogi yng Nghymru. Er bod ein dull o weinyddu Tribiwnlysoedd Cymru drwy Uned Tribiwnlysoedd Cymru wedi datblygu dros amser, mae’r Uned yn dal yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae diogelu annibyniaeth farnwrol a rhoi rhagor o annibyniaeth strwythurol i weinyddu cyfiawnder yn un o amcanion allweddol y diwygiadau strwythurol yr ydym yn eu cynnig i foderneiddio ein system dribiwnlysoedd yng Nghymru.
Dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth
87. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith ddyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth y tribiwnlysoedd datganoledig (gweler Atodiad 2, argymhelliad 52 Comisiwn y Gyfraith). Roedd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (“Comisiwn Thomas”) o’r farn ei bod hi’n hanfodol bod gan y farnwriaeth a sefydliadau eraill berthynas annibynnol â Llywodraeth Cymru a’r Senedd, ac y dylai dyletswydd statudol o ran annibyniaeth fod ar waith (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 12.177). Mae Statud yn gwneud darpariaeth sydd wedi’i dylunio i sicrhau annibyniaeth farnwrol barhaus ar lefel y DU, ond nid oes amddiffyniad statudol ar hyn o bryd ar gyfer annibyniaeth sy’n berthnasol ar draws y tribiwnlysoedd datganoledig. Rydym o’r farn bod dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth yn gyson â datblygiad parhaus ein system o dribiwnlysoedd datganoledig fel conglfaen system gyfiawnder eginol Cymru.
88. Rydym yn cynnig y gallai dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth farnwrol fod yn berthnasol i bawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder gan fod hynny’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig ac i aelodau’r tribiwnlysoedd newydd. Felly, gallai’r ddyletswydd fod yn berthnasol o bosibl i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol ac unrhyw unigolion eraill sy’n cyflawni cyfrifoldeb mewn cysylltiad â’r tribiwnlysoedd newydd.
89. Dylai’r ddyletswydd gynnwys dyletswydd i roi sylw i’r angen i roi’r lefel angenrheidiol o gymorth i aelodau’r tribiwnlysoedd i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau.
90. Gallai’r ddyletswydd hefyd fod yn berthnasol i bob Aelod o’r Senedd, gan mai’r Senedd sy’n bennaf gyfrifol am drefniadau cyfansoddiadol Cymru ac am benderfyniadau ar wariant cyhoeddus, gan gynnwys lefel y cyllid a fyddai ar gael ar gyfer gweithredu’r tribiwnlysoedd. Nodwn fod dyletswydd debyg yn berthnasol i Aelodau o Senedd yr Alban. Fodd bynnag, er ein bod yn gobeithio y byddai bob Aelod o’r Senedd yn cefnogi annibyniaeth y farnwriaeth, mae cwestiynau dilys y gellid eu gofyn am oblygiadau ymarferol dyletswydd o’r fath ac a allai effeithio ar ryddid mynegiant yn ystod trafodion y Senedd. Felly, byddem yn credu mai cyfrifoldeb Comisiwn y Senedd fyddai ystyried a fyddai’n briodol cynnwys dyletswydd o’r fath.
Llw barnwrol
91. Mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai pob aelod yn y system dribiwnlysoedd newydd orfod tyngu llw neu gadarnhad barnwrol (gweler Atodiad 2, argymhelliad 53 Comisiwn y Gyfraith).
92. Ar hyn o bryd, dim ond Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru sy’n gorfod tyngu’r llw teyrngarwch a’r llw barnwrol fel y nodir yn adrannau 2 a 4 o Ddeddf Llwon Addewidiol 1868 (paragraff 14 o Atodlen 5 i Ddeddf Cymru 2017). I’r gwrthwyneb, mae gofynion cyfreithiol tebyg yn berthnasol i holl aelodau Tribiwnlysoedd yr Alban (paragraff 11 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd (yr Alban) 2014) ac i Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd, ac i holl aelodau Tribiwnlys yr Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlys y DU (paragraff 11 o Atodlen 1, paragraff 9 o Atodlen 2, paragraff 10 o Atodlen 3 a pharagraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007). Mae ffurf y llw barnwrol yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon (Adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2002).
93. Mae gan lwon arwyddocâd hanesyddol a symbolaidd clir ar draws systemau cyfiawnder y DU. Mae ganddynt hefyd arwyddocâd ymarferol o ran y canfyddiad o annibyniaeth farnwrol. Wedi dweud hynny, mae dadl resymegol na ddylai system gyfiawnder fodern ddibynnu ar ddeiliaid swyddi’n tyngu llwon i gadarnhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau priodol o dan arweiniad egwyddorion cydraddoldeb, triniaeth deg a rheolaeth y gyfraith. Byddai gofynion ar unigolion i weithredu mewn ffyrdd penodol yn fwy clir o ran bod yn draddodadwy pe baent wedi’u hysgrifennu’n uniongyrchol mewn statud neu’n fater o gontract a ymgorfforir gan delerau ac amodau penodiad unigolyn fel aelod o’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru.
94. Fodd bynnag, os bydd yn rhaid i holl aelodau’r system dribiwnlysoedd newydd dyngu llw neu gadarnhad er mwyn gwella canfyddiad y cyhoedd o annibyniaeth farnwrol, credwn y bydd llunio ffurf fodern ar lw neu gadarnhad yn gydnaws ag ethos system dribiwnlysoedd fodern newydd Cymru. Gallai llw neu gadarnhad o’r fath fod yn debyg i’r canlynol yn fras:
Yr wyf i .… yn tyngu [neu yn cadarnhau’n ddifrifol ac yn ddiffuant ac yn gywir] y byddaf yn gwasanaethu’n gymwys ac yn ffyddlon yn swydd .… ac y byddaf yn delio’n gywir â phob math o bobl heb ofn na ffafr, na hoffter na drwgdeimlad, yn unol â chyfreithiau ac arferion y deyrnas hon.
Annibyniaeth strwythurol
95. Mae ailfodelu gweinyddiaeth ein system gyfiawnder eginol yng Nghymru yn rhan angenrheidiol o’r daith tuag at adeiladu seilwaith cyfiawnder i Gymru sy’n gallu mabwysiadu awdurdodaethau a thyfu ac esblygu dros amser.
96. Daeth Comisiwn Thomas a Chomisiwn y Gyfraith i’r casgliad nad yw’r trefniadau presennol ar gyfer gweinyddu Tribiwnlysoedd Cymru, lle mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru, sydd wedi’i gwreiddio yn Llywodraeth Cymru ac sy’n rhan ohoni, yn darparu gwasanaethau cymorth gweinyddol, yn sefydlu’r canfyddiad o annibyniaeth farnwrol yn ddigonol.
97. Roedd hi’n well gan Gomisiwn Thomas weld cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu tribiwnlysoedd datganoledig yn cael ei ddiwygio ar sail model Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraffau 12.162 i 12.165) sy’n gorff corfforedig a sefydlwyd drwy statud. Argymhellodd y Comisiwn y dylai Uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn strwythurol annibynnol ar Lywodraeth Cymru (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraffau 6.58 i 6.59).
98. Hefyd, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith annibyniaeth strwythurol ar gyfer gweinyddu system y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol (gweler Atodiad 2, argymhelliad 51 Comisiwn y Gyfraith). Er bod Comisiwn y Gyfraith yn cynnig rhai egwyddorion cyffredinol i lywio’r gwaith o ddylunio a sefydlu corff, nid oedd Comisiwn Thomas na Chomisiwn y Gyfraith yn cynnig unrhyw argymhellion manwl ynghylch strwythur, cyfansoddiad a swyddogaethau’r corff (er iddynt fynegi barn ar ei statws, a drafodir ymhellach isod).
99. Rydym yn cytuno bod yn rhaid i’r farnwriaeth fod yn annibynnol ar ganghennau gweithredol a deddfwriaethol y llywodraeth, a bod hynny i’w weld yn glir. Y cwestiwn sylfaenol i’w ateb felly yw ai’r peth gorau ar gyfer annibyniaeth y system dribiwnlysoedd newydd yw bod swyddogaethau gweinyddu’r system yn rhan o Lywodraeth Cymru ynteu ar wahân iddi.
100. Mae dau brif fodel y gellid eu defnyddio i weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd, gan ddarparu ar gyfer rhagor o annibyniaeth strwythurol hefyd:
- Gellid gwneud trefniadau gweinyddol, er enghraifft drwy ddogfen fframwaith. Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF), er enghraifft, wedi’i sefydlu mewn statud. Caiff ei ddisgrifio’n gyffredin fel asiantaeth weithredol sy’n gyfrifol am swyddogaethau gweinyddol llysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, ac mae’n rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae GLlTEF bellach yn cael ei reoli ar y cyd gan y weithrediaeth a’r farnwriaeth gydag Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yn eistedd ar y bwrdd, gan gryfhau’r annibyniaeth farnwrol wrth weinyddu tribiwnlysoedd (Caiff GLlTEF ei rheoli gan ddogfen fframwaith sy’n nodi trefniadau partneriaeth rhwng yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd).
- Fel arall, gellid pennu lefel yr annibyniaeth drwy statud. Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban yn enghraifft o gorff corfforedig statudol (Rhan 4 ac Atodlen 3 Deddf y Llysoedd a’r Farnwriaeth (yr Alban) 2008) sy’n annibynnol ar Lywodraeth yr Alban, ac sydd â’r swyddogaeth o ddarparu cymorth gweinyddol i lysoedd a thribiwnlysoedd yr Alban.
101. Wrth gynnig model, ein hamcan yw creu gwahaniad strwythurol rhwng cyfrifoldeb dros swyddogaethau gweithredol a gweinyddol y system dribiwnlysoedd newydd (gyda lefel briodol o gyfranogiad barnwrol yn hynny o beth), a swyddogaethau gweithredol a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn y drefn honno. Er bod y swyddogaethau gweithredol a gweinyddol hyn yn rhai gweithredol yn hytrach na barnwrol, ar y cyfan credwn ei bod hi’n briodol bod y swyddogaethau hyn yn cael mwy o wahaniad oddi wrth y llywodraeth nag y gellir ei ddarparu os ydynt yn parhau i gael eu cyflawni gan gangen o lywodraeth, er enghraifft gan asiantaeth weithredol.
102. Felly, rydym yn cynnig deddfu i greu corff corfforedig fel endid cyfreithiol ar wahân, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd. Credwn y bydd y model hwn yn darparu’r gwahaniad strwythurol a’r annibyniaeth oddi wrth y Llywodraeth sy’n cyd-fynd â’r egwyddor arweiniol o annibyniaeth farnwrol, a chryfder y farn a fynegwyd gan Gomisiwn Thomas a Chomisiwn y Gyfraith.
Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales
103. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, “Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” yw ein henw ar gyfer y corff statudol arfaethedig. Bydd ei enw’n cael ei ystyried a’i gadarnhau’n ffurfiol maes o law.
104. Wrth gwrs, bydd perthynas barhaus rhwng Tribiwnlysoedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a bydd ei natur yn seiliedig ar y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei sefydlu.
105. Pwrpas Tribiwnlysoedd Cymru fydd ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol dros y gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd drwy arfer y swyddogaethau a’r pwerau a roddir iddo gan ddeddfwriaeth sylfaenol o fewn y gyllideb a bennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fframweithiau deddfwriaethol a llywodraethu a roddir ar waith yn diffinio i ba raddau y mae Gweinidogion Cymru yn atebol dros Dribiwnlysoedd Cymru.
106. Mae ein strwythur a’n trefn lywodraethu arfaethedig ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru wedi’u nodi yn Nhabl 1 isod. Yn wahanol i’r trefniadau presennol, rydym yn cynnig ei fod yn cael ei lywodraethu gan fwrdd. Byddai gan y Bwrdd gyfuniad o aelodau gweithredol, anweithredol a barnwrol. Ei brif swyddogaeth fyddai goruchwylio’r gwaith o lywodraethu a gweithredu’r corff.
107. Mae ein cynigion yn cynnwys gofyniad i’r Bwrdd gynhyrchu cynllun corfforaethol a chyhoeddi adroddiad a chyfrifon blynyddol, fel sy’n cael ei ystyried yn arfer gorau yn gyffredinol. Byddai disgwyl i’r adroddiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am berfformiad gweithredol y tribiwnlysoedd a’u siambrau – gan gynnwys mesurau sy’n ymwneud â’r effeithlonrwydd gweithredu a pha mor aml mae penderfyniadau pob siambr yn cael eu hapelio neu eu newid ar sail adolygiad mewnol. Byddem hefyd yn disgwyl i’r adroddiad gynnwys mesurau boddhad defnyddwyr (lle bo hynny’n bosibl).
108. Mae creu Bwrdd sy’n cynnwys goruchwyliaeth farnwrol o’r system dribiwnlysoedd newydd yn darparu’r sylfaen ar gyfer casglu gwybodaeth perfformiad allweddol am weithrediad y system. Byddai mesurau perfformiad allweddol i’w monitro gan y Bwrdd yn cael eu pennu maes o law. Rydym yn ystyried bod y rhain yn cynnwys materion fel defnyddio’r Gymraeg yn y system dribiwnlysoedd, profiadau gwahaniaethol defnyddwyr tribiwnlysoedd o wahanol gefndiroedd, ac amrywiaeth aelodau tribiwnlysoedd.
109. Mae’r cynigion yn Nhabl 1 yn cynnwys pŵer cyfyngedig i Lywodraeth Cymru bennu gofynion ar gyfer y Bwrdd; er enghraifft, gallai’r rhain gynnwys darpariaethau y mae’r llywodraeth yn credu y byddai’n ddefnyddiol eu cynnwys yn ei adroddiad blynyddol.
110. Adroddiadau blynyddol yw un o’r ffyrdd y cynhelir deialog rhwng gwahanol ganghennau’r llywodraeth – ond nid dyma’r unig ffordd y byddem yn disgwyl i’r ddeialog honno barhau. Er enghraifft, mae’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cwrdd yn rheolaidd â Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a byddem yn disgwyl i hynny barhau. Mae’n bwysig cyfnewid gwybodaeth yn rheolaidd am weithrediad y gyfraith ac effaith penderfyniadau’r llywodraeth.
111. Yn yr un modd, er nad yw’r rhain oll yn faterion i’r llywodraeth, rydym wedi croesawu’r arfer o wahodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rheolaidd i ymddangos gerbron un o Bwyllgorau’r Senedd i drafod ei adroddiad blynyddol, ac o drafod yr adroddiad hwnnw yn y Senedd. Byddem yn croesawu arfer tebyg yn datblygu mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol Tribiwnlysoedd Cymru.
112. Un pwynt penodol i dynnu sylw ato yw ein bod yn cynnig y dylai Cadeirydd Bwrdd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn aelod anweithredol a ddewisir drwy broses benodi gyhoeddus agored a theg. Yn ei sesiwn dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 13 Mawrth 2023, dywedodd Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y pryd, ei fod yn ffafrio barnwr yn gweithredu fel Cadeirydd oherwydd byddai hynny, o ran canfyddiad, yn sicrhau bod annibyniaeth yn cael ei chynnal (Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, paragraff 15).
113. Mae’r ddwy enghraifft yn bodoli mewn mannau eraill ym maes arweinyddiaeth sefydliadol cyrff cyfiawnder. Cadeirydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban yw’r Arglwydd Lywydd, y barnwr uchaf yn yr Alban. Mae cadeirydd GLlTEF yn anweithredol ond yn unigolyn sydd wedi dal swyddi busnes uwch ac wedi arwain sefydliadau (wedi’i ddewis drwy gystadleuaeth agored sy’n canolbwyntio ar sgiliau cadeirio ac arwain, yn hytrach na’r broses lle dewisir uwch farnwyr sydd o reidrwydd yn rhoi pwys sylweddol ar ffactorau eraill).
Statws Tribiwnlysoedd Cymru
114. Bydd annibyniaeth strwythurol Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei sicrhau drwy ei sefydlu mewn statud a’r swyddogaethau, y dyletswyddau a’r pwerau a roddir iddo gan y statud hwnnw, fel y nodir yn Nhabl 1.
115. Mae gan bob corff cyhoeddus statws hefyd, ac mae dau brif statws i gyrff statudol datganoledig yng Nghymru. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, nad yw’r naill fodel na’r llall yn fwy annibynnol na’r llall yn ei hanfod. Ar wahân i’r nodweddion o ran a yw eu staff yn weision sifil ai peidio, mae’n ymddangos i ni fod y ddau fodel isod yn gydnaws â’r trefniadau yn Nhabl 1.
- Y model posibl cyntaf yw y gellid sefydlu Tribiwnlysoedd Cymru fel Adran Anweinidogol. Dyma’r model a argymhellwyd gan Gomisiwn Thomas a Chomisiwn y Gyfraith. Gweision sifil yw staff Adrannau Anweinidogol. Un enghraifft yng Nghymru yw Awdurdod Cyllid Cymru.
- Model posibl arall yw Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae nifer o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac un enghraifft sy’n gweithredu yn y maes cyfiawnder yw Tribiwnlys Prisio Cymru (“y Tribiwnlys Prisio”). Sefydlwyd y Tribiwnlys Prisio a’i Gyngor Llywodraethu drwy is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru (heoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru OS 2010 Rhif 713 Cy.69). Mae dogfen fframwaith (Dogfen Fframwaith Tribiwnlys Prisio Cymru) yn nodi’r fframwaith eang y mae’r Tribiwnlys Prisio yn gweithredu oddi tano ac yn darparu manylion y telerau a’r amodau y mae Gweinidogion Cymru yn eu dilyn wrth ddarparu cyllid iddo. Mae ei staff yn weision cyhoeddus ond nid yn weision sifil.
116. Fel y nodwyd uchod, mae’n ymddangos i ni fod gan y ddau fodel hyn y potensial i ddarparu annibyniaeth strwythurol ddigonol. Y brif effaith rydym wedi’i phennu yn sgil penderfynu rhwng y ddau opsiwn yw’r goblygiadau ar gyfer rheoli’r sefydliad ac ar gyfer ei staff. Gallai penderfyniad ar y model i’w ddilyn effeithio ar staff Uned Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Prisio Cymru, ac ar y gallu i ddenu a gwobrwyo staff yn y dyfodol. Felly, mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn am oblygiadau’r penderfyniad hwn ac yn wir a oes ffyrdd eraill o ddarparu annibyniaeth strwythurol sydd â manteision y tu hwnt i’r ddau fodel hyn. Bwriadwn ddefnyddio’r cyfnod ymgynghori i ymgysylltu â staff ac undebau llafur, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth inni ddatblygu deddfwriaeth ar gyfer diwygio.
Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales, corff corfforedig hyd braich arfaethedig: strwythur a threfniadau llywodraethu arfaethedig
Maes:
- Sefydlu
- Pwrpas
- Bwrdd
- Staff
- Cyllid
- Llywodraethu corfforaethol
- Trosglwyddo staff
- Trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau
- Materion canlyniadol
Sefydlu
Darpariaeth statudol: Ymgorffori
Corff corfforedig o’r enw “Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” (enw arfaethedig at ddibenion gwaith yn unig). Yn creu corff statudol â phersonoliaeth gyfreithiol.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Wedi’i bennu gan y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru.
Darpariaeth statudol: Statws
Fel egwyddor gyffredinol, daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad y dylai gweinyddiaeth y system dribiwnlysoedd gael ei staffio gan weision sifil, sef statws staff a gyflogir gan Adran Anweinidogol fel arfer. Rydym yn ymgynghori ar opsiynau.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Bydd Gweinidog Cymru’r portffolio yn atebol i’r Senedd, ynghyd â’r Ysgrifennydd Parhaol, y Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y Bwrdd.
Pwrpas
Darpariaeth statudol: Amcan
Ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd ac arfer ei swyddogaethau i ddarparu gwasanaethau i sicrhau bod Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu gweinyddu’n effeithiol, ac i gefnogi aelodau i gyflawni eu swyddogaethau.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Yn creu gwahaniad strwythurol rhwng cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd, sy’n perthyn i Dribiwnlysoedd Cymru, a swyddogaethau polisi, sy’n perthyn i Lywodraeth Cymru.
Darpariaeth statudol: Swyddogaethau a phwerau
Statud i fanylu ar swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru a’i bwerau cyffredinol ac ategol.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Atebol am berfformiad cyffredinol Tribiwnlysoedd Cymru.
Darpariaeth statudol: Polisi’r llywodraeth
Dyletswydd ar Dribiwnlysoedd Cymru i arfer ei swyddogaethau i roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi Llywodraeth Cymru ac i unrhyw faterion eraill yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Nid cyfrifoldeb Gweinidogion fydd y weinyddiaeth o ddydd i ddydd. Nid yw hyn yn bŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau penodol i Dribiwnlysoedd Cymru ynghylch arfer ei swyddogaethau.
Darpariaeth statudol: Cyngor i Weinidogion Cymru
Dyletswydd i roi cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru yn ôl y gofyn; pŵer i gynnig cyngor ar faterion polisi sy’n ymwneud â materion lle mae Tribiwnlysoedd Cymru yn arfer swyddogaethau neu weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Mecanwaith i Weinidogion Cymru ddefnyddio arbenigedd perthnasol Tribiwnlysoedd Cymru ac iddo allu cynnig cyngor i Weinidogion yn unol â’i swyddogaethau.
Darpariaeth statudol: Pŵer diofyn
Pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru pan fo Gweinidogion o’r farn bod y corff yn methu cyflawni ei swyddogaethau i gyflawni ei ddiben, neu’n gwneud hynny mewn modd sy’n creu risg sylweddol i weithrediad y system dribiwnlysoedd.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Yn cyfateb i adran 70 o Ddeddf y Llysoedd a’r Farnwriaeth (yr Alban) 2008.
Bwrdd
Darpariaeth statudol: Cadeirydd
Cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru, neu Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Rôl Gweinidogion Cymru wrth benodi cadeirydd os nad yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn dal swydd y cadeirydd yn rhinwedd ei swydd.
Darpariaeth statudol: Aelodau
Aelodau barnwrol
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd (os nad yw’n Gadeirydd); un aelod barnwrol o’r system dribiwnlysoedd newydd ar gyfer Cymru a ddewisir gan y Llywydd.
Aelodau anfarnwrol
Dim llai na thri a dim mwy na chwe unigolyn arall a benodir gan Weinidogion Cymru.
Aelodau gweithredol
Prif Swyddog Gweithredol yn rhinwedd ei swydd; un aelod arall o staff a benodir gan y Prif Swyddog Gweithredol.
(Mae hyn yn creu Bwrdd sy’n cynnwys rhwng 8 ac 11 unigolyn).
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Gweinidogion Cymru i fod o dan ddyletswydd “rhoi sylw i” er mwyn sicrhau bod gan y rhai a benodir brofiad o faterion sy’n berthnasol i bwrpas a swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru, a sicrhau amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ymysg yr aelodau (ee unigolyn sy’n cynrychioli defnyddwyr tribiwnlysoedd, neu gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sydd â phrofiad o dribiwnlysoedd datganoledig).
Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn gorff rheoleiddiedig gyda phenodiadau iddo yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.
Darpariaeth statudol: Deiliadaeth (ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a lywodraethir gan ddeddfwriaeth ar wahân)
Pedair blynedd. Yn gymwys i gael ei ailbenodi. Mae angen darpariaeth ar gyfer ymddiswyddiadau a diswyddo hefyd.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Sicrhau bod penodiadau’n bodloni’r Cod Ymarfer, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar ailbenodiadau.
Darpariaeth statudol: Taliad cydnabyddiaeth
Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a threuliau i aelodau o’r Bwrdd, ac i unrhyw aelodau cyfetholedig o bwyllgorau.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau.
Darpariaeth statudol: Pwyllgorau
Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru sefydlu pwyllgorau a chyfethol unigolion i eistedd arnynt.
Darpariaeth statudol: Trafodion
Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru reoleiddio ei drafodion, ei gworwm (gan gynnwys pwyllgorau), ei ddull pleidleisio ac ati.
Darpariaeth statudol: Dirprwyo
Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaeth i aelod, pwyllgor, cyflogai neu unrhyw unigolyn, corfforaeth neu endid statudol arall, ond peidio â gwaredu ei gyfrifoldeb dros y swyddogaeth a ddirprwyir.
Staff
Darpariaeth statudol: Prif Swyddog Gweithredol
Y Prif Swyddog Gweithredol cyntaf i’w benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y maent yn penderfynu eu bod yn briodol.
Bydd Prif Swyddogion Gweithredol dilynol yn cael eu penodi gan Fwrdd Tribiwnlysoedd Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y mae, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu eu bod yn briodol.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Gweinidogion Cymru sy’n penodi Prif Swyddog Gweithredol am y tro cyntaf ac mae’n ofynnol iddynt gymeradwyo telerau ac amodau’r penodiad hwnnw a phenodiadau dilynol.
Darpariaeth statudol: Staff arall
Gall Tribiwnlysoedd Cymru benodi staff fel y credir y bo’n briodol i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. Os yw’n Adran Anweinidogol, bydd hyn yn amodol ar Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau. Sicrhau bod y Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd yn cael eu recriwtio o dan y Cod Ymarfer.
Cyllid
Darpariaeth statudol: Cyllid
Ffynonellau cyllid ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru: incwm o ffioedd; a chymorth grant gan Weinidogion Cymru o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau ac yn ddarostyngedig i amodau y mae gweinidogion yn eu hystyried yn briodol.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru wedi’i ategu gan ddogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol sy’n nodi prosesau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru, a lywodraethir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog Senedd Cymru. Gweinidogion yn gyfrifol am benderfynu ar ddyraniad y gyllideb.
Tribiwnlysoedd Cymru i gydweithredu â gweinidogion drwy ddarparu’r holl gymorth, gwybodaeth a rhagolygon cyllidebol angenrheidiol i lywio penderfyniadau cynllunio cyllideb y llywodraeth.
Dyraniadau cyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol i’w cadarnhau mewn llythyr cylch gwaith blynyddol.
Darpariaeth statudol: Swyddog Cyfrifyddu
Y Prif Swyddog Gweithredol i fod yn Swyddog Cyfrifyddu Tribiwnlysoedd Cymru gyda chyfrifoldeb am neilltuo adnoddau yn unol ag amodau cyllido a bennir gan Weinidogion Cymru, gan lofnodi’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol ac ati.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi rolau a chyfrifoldebau’r Prif Swyddog Gweithredol fel Swyddog Cyfrifyddu, a’r Ysgrifennydd Parhaol fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru.
Darpariaeth statudol: Archwilio
Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yr archwilydd allanol gyda’r pŵer i archwilio economeg, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau, ond nid i gwestiynu rhinweddau amcanion Tribiwnlysoedd Cymru.Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yr archwilydd allanol gyda’r pŵer i archwilio economeg, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau, ond nid i gwestiynu rhinweddau amcanion Tribiwnlysoedd Cymru.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am faterion sy’n ymwneud ag archwilio mewnol ac archwilio allanol.
Llywodraethu corfforaethol
Darpariaeth statudol: Cynllun Corfforaethol
Tribiwnlysoedd Cymru i baratoi cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru ac y mae’n rhaid i’r corff wedyn ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Senedd. Rhaid iddo nodi amcanion strategol y corff ar gyfer y cyfnod cynllunio a’r mesurau perfformiad y gellir eu defnyddio i fesur cyflawniad yr amcanion.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi’r fframwaith cynllunio ar gyfer llywodraethu corfforaethol: Llythyr cylch gwaith Tymor Llywodraethu (yn amodol ar broses ar gyfer addasu os bydd blaenoriaethau’r llywodraeth yn newid); cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol; cynllun busnes blynyddol; cyfrifon ac adroddiad blynyddol.
Gellid rhagnodi’r cyfnod cynllunio y mae’n rhaid i’r cynllun corfforaethol roi sylw iddo mewn deddfwriaeth sylfaenol (ee cyfnodau o dair blynedd yn dechrau ar ddyddiad penodol) neu mewn is-ddeddfwriaeth gyda phŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod fel y maent yn ei ystyried yn briodol.
Darpariaeth statudol: Cyfrifon ac adroddiad blynyddol
Tribiwnlysoedd Cymru i gadw cofnodion cyfrifyddu priodol a pharatoi datganiad blynyddol o gyfrifon yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion y gofynion adrodd a chyfrifyddu statudol.
Darpariaeth statudol: Darparu gwybodaeth
Tribiwnlysoedd Cymru i gyflenwi Gweinidogion Cymru ag unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r corff, yn amodol ar gyfrinachedd gwybodaeth sy’n ymwneud â cheisiadau i’r tribiwnlysoedd.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am fynediad Gweinidogion Cymru at wybodaeth sy’n cael ei dal gan Dribiwnlysoedd Cymru.
Trosglwyddo staff
Darpariaeth statudol: Cynllun trosglwyddo i staff
Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo staff a gyflogir ganddynt i Dribiwnlysoedd Cymru.
Pŵer i Weinidogion Cymru secondio staff i Dribiwnlysoedd Cymru.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Gweinidogion Cymru sy’n atebol am staffio Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau.
Trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau
Darpariaeth statudol: Cynllun trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau
Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo a rhwymedigaethau i Dribiwnlysoedd Cymru.
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru
Gweinidogion Cymru sy’n atebol am eiddo a rhwymedigaethau Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau.
Materion canlyniadol
Darpariaeth statudol: Diwygio deddfwriaeth
Bydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei gynnwys mewn atodlenni perthnasol fel corff cyhoeddus, gan gynnwys, ee:
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
- Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019
Tabl 1: Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales, corff corfforedig hyd braich arfaethedig: strwythur a threfniadau llywodraethu arfaethedig
Maes | Darpariaeth statudol | Manylion | Atebolrwydd Gweinidogion Cymru |
---|---|---|---|
Sefydlu | Ymgorffori | Corff corfforedig o’r enw “Tribiwnlysoedd Cymru / Tribunals Wales” (enw arfaethedig at ddibenion gwaith yn unig). Yn creu corff statudol â phersonoliaeth gyfreithiol. | Wedi’i bennu gan y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru. |
Statws | Fel egwyddor gyffredinol, daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad y dylai gweinyddiaeth y system dribiwnlysoedd gael ei staffio gan weision sifil, sef statws staff a gyflogir gan Adran Anweinidogol fel arfer. Rydym yn ymgynghori ar opsiynau. | Bydd Gweinidog Cymru’r portffolio yn atebol i’r Senedd, ynghyd â’r Ysgrifennydd Parhaol, y Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd y Bwrdd. | |
Pwrpas | Amcan | Ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd ac arfer ei swyddogaethau i ddarparu gwasanaethau i sicrhau bod Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu gweinyddu’n effeithiol, ac i gefnogi aelodau i gyflawni eu swyddogaethau. | Yn creu gwahaniad strwythurol rhwng cyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd, sy’n perthyn i Dribiwnlysoedd Cymru, a swyddogaethau polisi, sy’n perthyn i Lywodraeth Cymru. |
Swyddogaethau a phwerau | Statud i fanylu ar swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru a’i bwerau cyffredinol ac ategol. | Atebol am berfformiad cyffredinol Tribiwnlysoedd Cymru. | |
Polisi’r llywodraeth | Dyletswydd ar Dribiwnlysoedd Cymru i arfer ei swyddogaethau i roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi Llywodraeth Cymru ac i unrhyw faterion eraill yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru. | Nid cyfrifoldeb Gweinidogion fydd y weinyddiaeth o ddydd i ddydd. Nid yw hyn yn bŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau penodol i Dribiwnlysoedd Cymru ynghylch arfer ei swyddogaethau. | |
Cyngor i Weinidogion Cymru | Dyletswydd i roi cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru yn ôl y gofyn; pŵer i gynnig cyngor ar faterion polisi sy’n ymwneud â materion lle mae Tribiwnlysoedd Cymru yn arfer swyddogaethau neu weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. | Mecanwaith i Weinidogion Cymru ddefnyddio arbenigedd perthnasol Tribiwnlysoedd Cymru ac iddo allu cynnig cyngor i Weinidogion yn unol â’i swyddogaethau. | |
Pŵer diofyn | Pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru pan fo Gweinidogion o’r farn bod y corff yn methu cyflawni ei swyddogaethau i gyflawni ei ddiben, neu’n gwneud hynny mewn modd sy’n creu risg sylweddol i weithrediad y system dribiwnlysoedd. | Yn cyfateb i adran 70 o Ddeddf y Llysoedd a’r Farnwriaeth (yr Alban) 2008. | |
Bwrdd | Cadeirydd | Cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru, neu Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd. | Rôl Gweinidogion Cymru wrth benodi cadeirydd os nad yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn dal swydd y cadeirydd yn rhinwedd ei swydd. |
Aelodau |
Aelodau barnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn rhinwedd ei swydd (os nad yw’n Gadeirydd); un aelod barnwrol o’r system dribiwnlysoedd newydd ar gyfer Cymru a ddewisir gan y Llywydd. Aelodau anfarnwrol Dim llai na thri a dim mwy na chwe unigolyn arall a benodir gan Weinidogion Cymru. Aelodau gweithredol Prif Swyddog Gweithredol yn rhinwedd ei swydd; un aelod arall o staff a benodir gan y Prif Swyddog Gweithredol. (Mae hyn yn creu Bwrdd sy’n cynnwys rhwng 8 ac 11 unigolyn). |
Gweinidogion Cymru i fod o dan ddyletswydd “rhoi sylw i” er mwyn sicrhau bod gan y rhai a benodir brofiad o faterion sy’n berthnasol i bwrpas a swyddogaethau Tribiwnlysoedd Cymru, a sicrhau amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ymysg yr aelodau (ee unigolyn sy’n cynrychioli defnyddwyr tribiwnlysoedd, neu gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sydd â phrofiad o dribiwnlysoedd datganoledig). Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn gorff rheoleiddiedig gyda phenodiadau iddo yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. |
|
Deiliadaeth (ac eithrio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a lywodraethir gan ddeddfwriaeth ar wahân) | Pedair blynedd. Yn gymwys i gael ei ailbenodi. Mae angen darpariaeth ar gyfer ymddiswyddiadau a diswyddo hefyd. | ESicrhau bod penodiadau’n bodloni’r Cod Ymarfer, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar ailbenodiadau. | |
Taliad cydnabyddiaeth | Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a threuliau i aelodau o’r Bwrdd, ac i unrhyw aelodau cyfetholedig o bwyllgorau. | Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau. | |
Pwyllgorau | Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru sefydlu pwyllgorau a chyfethol unigolion i eistedd arnynt. | ||
Trafodion | Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru reoleiddio ei drafodion, ei gworwm (gan gynnwys pwyllgorau), ei ddull pleidleisio ac ati. | ||
Dirprwyo | Pŵer i Dribiwnlysoedd Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaeth i aelod, pwyllgor, cyflogai neu unrhyw unigolyn, corfforaeth neu endid statudol arall, ond peidio â gwaredu ei gyfrifoldeb dros y swyddogaeth a ddirprwyir. | ||
Staff | Prif Swyddog Gweithredol |
Y Prif Swyddog Gweithredol cyntaf i’w benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y maent yn penderfynu eu bod yn briodol. Bydd Prif Swyddogion Gweithredol dilynol yn cael eu penodi gan Fwrdd Tribiwnlysoedd Cymru yn unol â’r telerau ac amodau y mae, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu eu bod yn briodol. |
Gweinidogion Cymru sy’n penodi Prif Swyddog Gweithredol am y tro cyntaf ac mae’n ofynnol iddynt gymeradwyo telerau ac amodau’r penodiad hwnnw a phenodiadau dilynol. |
Staff arall | Gall Tribiwnlysoedd Cymru benodi staff fel y credir y bo’n briodol i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. Os yw’n Adran Anweinidogol, bydd hyn yn amodol ar Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. | Mae Gweinidogion Cymru yn dyrannu cyllid drwy gymorth grant blynyddol o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i Dribiwnlysoedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau. Sicrhau bod y Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd yn cael eu recriwtio o dan y Cod Ymarfer. | |
Cyllid | Cyllid | Ffynonellau cyllid ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru: incwm o ffioedd; a chymorth grant gan Weinidogion Cymru o’r swm y mae gweinidogion yn ei ystyried yn briodol i’r corff gyflawni ei swyddogaethau ac yn ddarostyngedig i amodau y mae gweinidogion yn eu hystyried yn briodol. |
Atebolrwydd Gweinidogion Cymru wedi’i ategu gan ddogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol sy’n nodi prosesau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru, a lywodraethir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog Senedd Cymru. Gweinidogion yn gyfrifol am benderfynu ar ddyraniad y gyllideb. Tribiwnlysoedd Cymru i gydweithredu â gweinidogion drwy ddarparu’r holl gymorth, gwybodaeth a rhagolygon cyllidebol angenrheidiol i lywio penderfyniadau cynllunio cyllideb y llywodraeth. Dyraniadau cyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol i’w cadarnhau mewn llythyr cylch gwaith blynyddol. |
Swyddog Cyfrifyddu | Y Prif Swyddog Gweithredol i fod yn Swyddog Cyfrifyddu Tribiwnlysoedd Cymru gyda chyfrifoldeb am neilltuo adnoddau yn unol ag amodau cyllido a bennir gan Weinidogion Cymru, gan lofnodi’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol ac ati. | Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi rolau a chyfrifoldebau’r Prif Swyddog Gweithredol fel Swyddog Cyfrifyddu, a’r Ysgrifennydd Parhaol fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru. | |
Archwilio | Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yr archwilydd allanol gyda’r pŵer i archwilio economeg, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd o adnoddau, ond nid i gwestiynu rhinweddau amcanion Tribiwnlysoedd Cymru. | Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am faterion sy’n ymwneud ag archwilio mewnol ac archwilio allanol. | |
Llywodraethu Corfforaethol | Cynllun Corfforaethol | Tribiwnlysoedd Cymru i baratoi cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru ac y mae’n rhaid i’r corff wedyn ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Senedd. Rhaid iddo nodi amcanion strategol y corff ar gyfer y cyfnod cynllunio a’r mesurau perfformiad y gellir eu defnyddio i fesur cyflawniad yr amcanion. |
Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi’r fframwaith cynllunio ar gyfer llywodraethu corfforaethol: Llythyr cylch gwaith Tymor Llywodraethu (yn amodol ar broses ar gyfer addasu os bydd blaenoriaethau’r llywodraeth yn newid); cynllun corfforaethol ar gyfer cyfnod penodol; cynllun busnes blynyddol; cyfrifon ac adroddiad blynyddol. Gellid rhagnodi’r cyfnod cynllunio y mae’n rhaid i’r cynllun corfforaethol roi sylw iddo mewn deddfwriaeth sylfaenol (ee cyfnodau o dair blynedd yn dechrau ar ddyddiad penodol) neu mewn is-ddeddfwriaeth gyda phŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod fel y maent yn ei ystyried yn briodol. |
Cyfrifon ac adroddiad blynyddol | Tribiwnlysoedd Cymru i gadw cofnodion cyfrifyddu priodol a pharatoi datganiad blynyddol o gyfrifon yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru. | Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion y gofynion adrodd a chyfrifyddu statudol. | |
Darparu gwybodaeth | Tribiwnlysoedd Cymru i gyflenwi Gweinidogion Cymru ag unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r corff, yn amodol ar gyfrinachedd gwybodaeth sy’n ymwneud â cheisiadau i’r tribiwnlysoedd. | Dogfen fframwaith/cytundeb rhyngadrannol i nodi manylion am fynediad Gweinidogion Cymru at wybodaeth sy’n cael ei dal gan Dribiwnlysoedd Cymru. | |
Trosglwyddo staff | Cynllun trosglwyddo i staff |
Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo staff a gyflogir ganddynt i Dribiwnlysoedd Cymru. Pŵer i Weinidogion Cymru secondio staff i Dribiwnlysoedd Cymru. |
Gweinidogion Cymru sy’n atebol am staffio Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau. |
Trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau | Cynllun trosglwyddo eiddo a rhwymedigaethau | Pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo a rhwymedigaethau i Dribiwnlysoedd Cymru. | Gweinidogion Cymru sy’n atebol am eiddo a rhwymedigaethau Tribiwnlysoedd Cymru i ddechrau. |
Materion canlyniadol | Diwygio deddfwriaeth |
Bydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei gynnwys mewn atodlenni perthnasol fel corff cyhoeddus, gan gynnwys, ee:
|