Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig

Rydym yn cynnig:

  • bod awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru, ynghyd ag awdurdodaethau Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn cael eu trosglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, a’u trefnu’n siambrau fel y dangosir yn Ffigur 1
  • y dylid ystyried trosglwyddo awdurdodaethau ymhellach, boed yn rhai sy’n bodoli eisoes neu’n rhai a gaiff eu creu gan ddeddfwriaeth yn y dyfodol, fesul achos
  • y dylid trefnu Tribiwnlys Apêl Cymru yn siambrau fel y bo'n briodol ac wrth i awdurdodaethau apêl gael eu trosglwyddo iddo, ac wrth i faint y gwaith apêl ddatblygu.

Cyflwyniad

51. Mae’r Bennod hon yn nodi pa rai o awdurdodaethau’r tribiwnlysoedd datganoledig ddylai drosglwyddo i’r system dribiwnlysoedd newydd pan gaiff ei sefydlu. Ym Mhennod 2 rydym wedi nodi’r “tribiwnlysoedd datganoledig” sydd yn ein barn ni yn rhan o gwmpas ein cynigion i greu system dribiwnlysoedd unedig, ac ym Mhennod 3 rydym wedi nodi strwythur arfaethedig y system unedig honno sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru

52. Bydd angen rheoli’n ofalus y broses o drosglwyddo awdurdodaethau tribiwnlysoedd datganoledig unigol i Dribiwnlys Haen Gyntaf newydd Cymru. Yn gyntaf, rhaid i’r broses o uno’r tribiwnlysoedd sy’n bodoli eisoes i’r tribiwnlys newydd osgoi tarfu ar weithrediad a busnes y tribiwnlysoedd hynny wrth iddynt drosglwyddo. Yn ail, rhaid i’r ffordd caiff y tribiwnlys newydd ei drefnu adlewyrchu arbenigedd pob awdurdodaeth a rhoi buddiannau defnyddwyr tribiwnlysoedd, a’u mynediad at gyfiawnder, wrth galon y gwaith diwygio.

Tribiwnlysoedd Cymru

53. Mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai Tribiwnlysoedd Cymru a ddiffinnir gan adran 59 o Ddeddf Cymru 2017 (Pennod 2: Cwmpas ein diwygiadau, paragraffau 22 a 23) gael eu cyfuno mewn un tribiwnlys unedig. Rydym wedi nodi pam y mae angen diwygio ( Pennod 1: Cyflwyniad, paragraffau 12 i 14) ac mae ein cynigion ar gyfer system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol i Gymru wedi’u llywio gan gorff sylweddol o waith (Pennod 1: Cyflwyniad, paragraff 10). Cyn belled yn ôl â 2010, nod argymhellion Pwyllgor Cymru y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd ar gyfer diwygio mewn perthynas â thribiwnlysoedd sy’n gweithredu yng Nghymru oedd “...hyrwyddo system fwy integredig sy’n canolbwyntio’n well ar ddefnyddwyr” (Y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Pwyllgor Cymru 2010 - Adolygiad o Dribiwnlysoedd sy'n Gweithredu yng Nghymru, tudalen 3). Rydym yn cytuno â Chomisiwn y Gyfraith y dylid trosglwyddo Tribiwnlysoedd Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 4

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Tribiwnlys Prisio Cymru

54. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad, yn absenoldeb rhwystrau a phroblemau ymarferol sy’n dangos bod angen gweithredu’n wahanol, y dylid trosglwyddo awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

55. Rydym yn cytuno â Chomisiwn y Gyfraith y dylid ymgorffori Tribiwnlys Prisio Cymru yn y system dribiwnlysoedd newydd. Nid yw natur ei awdurdodaeth yn golygu ei bod yn wahanol iawn i Dribiwnlysoedd Cymru nac yn cyfiawnhau ei fod yn parhau fel tribiwnlys annibynnol ar wahân.

56. Fodd bynnag, bydd angen delio â materion ymarferol sy’n gysylltiedig â chysoni Tribiwnlys Prisio Cymru â Thribiwnlysoedd Cymru yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Mae’r model ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau, er enghraifft, yn wahanol yn Nhribiwnlys Prisio Cymru o’i gymharu â Thribiwnlysoedd Cymru. Mae paneli’r Tribiwnlys Prisio wedi’u strwythuro mewn ffordd debyg i’r ynadaeth leyg ac maent yn cynnwys aelodau lleyg a gynghorir gan glerc arbenigol. Ar ben hynny, gwirfoddolwyr yw’r aelodau lleyg hynny ac nid ydynt yn cael tâl, yn wahanol i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru sydd i gyd bron yn cael ffi (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder Judicial Daily Sitting Fees - mewn grym ers 1 Ebrill 2022 - a Judicial Daily Sitting Fees for Sitting in Retirement Posts - mewn grym ers 1 Ebrill 2022 - yn cynnwys cyfraddau i aelodau o Dribiwnlysoedd Cymru). Hefyd, bydd angen asesu unrhyw rwymedigaethau a allai godi o drosglwyddo Tribiwnlys Prisio Cymru i’r system dribiwnlysoedd newydd (proses yr ydym wedi’i dechrau), ynghyd â’r goblygiadau i staff yn sgil cynigion yn y papur gwyn hwn i greu un corff hyd braich i weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd.

57. Credwn ei bod hi’n bosibl delio â’r materion ymarferol hyn. Mae’n bosibl, fel y dywedodd Comisiwn y Gyfraith, y gellid ymgorffori model cyfredol Tribiwnlys Prisio Cymru ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf pan gaiff ei sefydlu a gellid ystyried yr angen i’w ddiwygio yn y dyfodol fel rhan o ddatblygiad parhaus cyfiawnder tribiwnlysoedd yng Nghymru. Ond bydd angen inni weithio drwy’r materion i benderfynu a oes unrhyw rai yn dirymu’r bwriad i drosglwyddo’r Tribiwnlys Prisio i’r system dribiwnlysoedd newydd neu’n awgrymu y byddai’n well pe bai hynny’n digwydd yn ddiweddarach. 

58. Pe na bai awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael ei throsglwyddo i’r system dribiwnlysoedd newydd pan gaiff ei sefydlu, a chyn ei drosglwyddo i’r strwythur yn y dyfodol, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai, serch hynny, fod yn destun goruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yr ydym yn cynnig y bydd ganddo ddyletswyddau a swyddogaethau statudol newydd. Bydd hyn yn cryfhau annibyniaeth farnwrol, yn cynyddu cydlyniant â’r system tribiwnlysoedd datganoledig ehangach, ac yn cynrychioli buddiannau’r tribiwnlys yn y Senedd. Rydym yn cytuno. Yn y sefyllfa hon, byddai’n rhaid ystyried perthynas y Llywydd â Chyngor Llywodraethu’r Tribiwnlys Prisio.

Cwestiwn ymgynghori 5

Ydych chi’n cytuno y dylid, mewn egwyddor, trosglwyddo awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Cwestiwn ymgynghori 6

Ydych chi’n cytuno, os na fydd awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael ei throsglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, y dylai ddal i fod yn destun goruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?

Paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

59. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Roedd hyn yn dilyn argymhelliad tebyg gan Bwyllgor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Cymru a oedd, yn ei adroddiad yn 2016 ar y dirwedd cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, wedi argymell (Cyfiawnder gweinyddol: sylfaen cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, argymhelliad 24, tudalen 12) y dylai Llywodraeth Cymru archwilio rhinweddau ymestyn awdurdodaeth Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar y pryd, sef Tribiwnlys Addysg Cymru bellach, i fod yn dribiwnlys cenedlaethol ar gyfer apeliadau derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion.

60. Dywedodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, (“Comisiwn Thomas”) hefyd:

Mae'n bryder gennym nad yw paneli apêl derbyniadau i ysgolion a gwaharddiadau o ysgolion yn gweithredu heb unrhyw fath o graffu barnwrol, ar wahân i'r achosion prin iawn hynny lle bydd gwaharddiad yn arwain at gais am adolygiad barnwrol. Mae rôl barnwyr yn y gwaith o ddyfarnu ar anghydfodau'n ymwneud ag addysg disgyblion wedi cynyddu'n raddol dros amser wrth i swyddogaethau cyrff cyhoeddus gynyddu. Credwn fod angen arfarniad trwyadl o'r ffordd y gweithredir paneli apêl awdurdodau lleol, a goruchwyliaeth gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru o'u prosesau gwneud penderfyniadau. (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 6.47, tudalen 287)"

61. Rydym yn cytuno â’r argymhellion hyn ac yn cynnig y dylai awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion gael ei throsglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac y dylid dyfarnu arni fel rhan o system tribiwnlysoedd annibynnol Cymru. Nid ydym yn credu mai ar chwarae bach mae’r rhai sy’n ymwneud â gwahardd plentyn o ysgol yn ystyried y penderfyniadau hynny, ond mae canlyniadau gwahardd o’r ysgol i blentyn ac i ysgol o’r arwyddocâd mwyaf. Mae’n hanfodol bod y broses o wneud penderfyniadau yn gyson ac yn gwbl annibynnol.

Cwestiwn ymgynghori 7

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Paneli apêl derbyniadau i ysgolion

62. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad, am y tro o leiaf, y dylai paneli apêl derbyniadau i ysgolion, fel y disgrifir yn Atodiad 3, aros y tu allan i’r system dribiwnlysoedd unedig newydd a chael eu gweinyddu gan awdurdodau derbyn. 

63. Wrth ddod i’r casgliad hwn, tynnodd Comisiwn y Gyfraith sylw at wybodaeth leol a chyfnodau brig tymhorol mewn llwyth achosion fel y ffactorau sy’n pennu. Roedd hefyd yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd y dull hwn yn cadw’r system mewn sefyllfa is-optimaidd o ran annibyniaeth ar gyfer apeliadau derbyniadau i ysgolion, sy’n nodwedd ddylunio allweddol mewn tribiwnlysoedd eraill. Yn rhannol, ac i liniaru goblygiadau’r sefyllfa hon, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai apeliadau o baneli apêl derbyniadau i ysgolion fod ar gael ar bwynt cyfreithiol i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.

64. Rydym wedi cyfeirio at y corff o waith sydd wedi argymell diwygio paneli apêl derbyniadau i ysgolion a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion(gweler paragraff 60 o’r Bennod hon o’r Papur Gwyn). Rydym hefyd yn nodi’r cymhlethdodau logistaidd a nodwyd gan Gomisiwn y Gyfraith o ran trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion.

65. Ein casgliad yw y dylai awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion, yn yr hirdymor, gael ei hymgorffori yn y system dribiwnlysoedd newydd yn y pen draw. Bwriad y strwythur yr ydym yn ei gynnig ar gyfer ein system dribiwnlysoedd yw bod yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion. Fodd bynnag, mae’n bwysig ar sail ymarferol bod y broses o gronni awdurdodaethau newydd yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn cael ei chyflwyno’n raddol a bod rhywfaint o flaenoriaethu, yn seiliedig ar bwysigrwydd y pwnc a’r cymhlethdod logistaidd ymysg ffactorau eraill. Felly, rydym yn cytuno ag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith y dylai paneli apêl derbyniadau i ysgolion barhau i gael eu gweinyddu gan awdurdodau derbyn ar hyn o bryd, ond y dylid cael hawl i apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ar bwyntiau cyfreithiol.

Cwestiwn ymgynghori 8

Ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion barhau i gael ei gweinyddu gan awdurdodau derbyn am y tro?

Cwestiwn ymgynghori 9

Ydych chi’n cytuno y dylai apeliadau o baneli apêl derbyniadau i ysgolion fod ar gael ar bwynt cyfreithiol i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Trefnu gwaith Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru

66. Ym Mhennod 3 rydym wedi cynnig y dylid trefnu gwaith y ddau dribiwnlys newydd yn siambrau. Bydd strwythur y siambr yn darparu ar gyfer yr awdurdodaethau sy’n trosglwyddo i’r system dribiwnlysoedd newydd. Felly, mae angen eu hadeiladu’n ofalus i ddarparu ar gyfer natur arbenigol pob awdurdodaeth. Dylid cyfuno awdurdodaethau mewn siambrau unigol lle mae synergedd a lle mae’n briodol gwneud hynny’n ymarferol ac yn weithredol.

67. Mae ein strwythur arfaethedig ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd wedi’i ddylunio gyda digon o hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer trosglwyddo awdurdodaethau, creu siambrau newydd a dyrannu’r gwaith rhwng siambrau. Ein bwriad, gan weithio gyda Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac uwch gyd-weithwyr barnwrol y Llywydd yn y system dribiwnlysoedd newydd, yw parhau i adolygu trefniadaeth y system dribiwnlysoedd newydd. Mae hyn yn golygu y bydd lle i ychwanegu awdurdodaethau sy’n bodoli eisoes yn ddiweddarach os nad ydynt yn cael eu trosglwyddo pan gaiff y system newydd ei sefydlu, i greu siambrau newydd ac i newid dyraniad y gwaith rhwng siambrau.

68. Ar ben hynny, rydym yn cynnig y bydd yr hyblygrwydd sydd wedi’i ddylunio fel rhan o’r system dribiwnlysoedd newydd i ddarparu ar gyfer awdurdodaethau yn gallu ymgorffori awdurdodaethau yn y system gyfiawnder yng Nghymru a allai godi yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’r Comisiwn ar Ddyfodol y DU (y cyfeirir ato’n gyffredin fel Comisiwn Brown) a sefydlwyd gan Blaid Lafur y DU wedi argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru (A New Britain: Renewing our Democracy and Rebuilding our Economy. Gweler “Enhancing Wales’ powers of self-government” ac argymhelliad 24, tudalennau 112 -113). Mewn sawl ffordd, gallai lleoliad tribiwnlys fod yn well na llys ar gyfer materion cyfiawnder ieuenctid, gan fod tribiwnlysoedd yn ddull mwy anffurfiol o ddyfarnu ar faterion o’u cymharu â llysoedd. Felly, rydym yn cynnig parhau i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a sut byddai’n gweddu i’r system dribiwnlysoedd newydd, er enghraifft plethu cyfiawnder ieuenctid ag ystod ehangach o faterion sy’n ymwneud â’r plentyn gan gynnwys lles, iechyd ac addysg.

69. Rydym yn cynnig y dylid nodi’r strwythur siambr cychwynnol ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru mewn deddfwriaeth sy’n sefydlu’r system dribiwnlysoedd newydd. Mae’r strwythur siambr cychwynnol yr ydym yn ei gynnig wedi’i amlinellu yn Ffigur 1 isod.

Strwythur siambr cychwynnol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru

  • Tribiwnlys Tir Amaethyddol a Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru yn symud i Eiddo
  • Panel Dyfarnu Cymru yn symud i Safonau
  • Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn symud i Iechyd Meddwl
  • Tribiwnlys y Gymraeg yn symud i'r Gymraeg
  • Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig a Thribiwnlys Apêl Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig, Tribiwnlys Addysg Cymru, Paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion, Apeliadau ar bwyntiau cyfreithiol gan baneli apêl derbyniadau i ysgolion yn symud i Addysg
  • Tribiwnlys Prisio Cymru yn symud i Trethu
  • Ni chynigir trosglwyddo unrhyw awdurdodaethau sy’n bodoli eisoes ond cynigir creu siambr hollgynhwysfawr i’w sefydlu eisoes ac sy’n gallu ymgorffori awdurdodaethau eraill nad ydynt yn cyd-fynd â’r Siambrau eraill, e.e. diogelu data a materion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 - yn symud i Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol.

Cwestiwn ymgynghori 10

Ydych chi’n cytuno â’r strwythur siambr cychwynnol yr ydym yn ei gynnig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

Yr egwyddor ar gyfer llwybrau apêl mewn deddfwriaeth Gymreig ddatganoledig

70. Un o egwyddorion allweddol y system dribiwnlysoedd newydd i Gymru yw y bydd yn gallu addasu i ofynion sy’n newid heb fod angen rhagor o ddeddfwriaeth sylfaenol. Er ein bod yn cynnig y bydd y strwythur ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd pan gaiff ei sefydlu yn cael ei roi ar waith gan y ddeddfwriaeth sy’n creu’r system newydd, darperir ar gyfer natur ac amseriad newidiadau i’r system yn y dyfodol yn y strwythur yr ydym wedi’i nodi ym Mhennod 3.

71. Dywedodd Comisiwn Thomas nad yw tribiwnlysoedd Cymru wedi cael eu defnyddio’n ddigonol fel ffordd o orfodi deddfwriaeth Cymru (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 16, tudalen 13). Ym marn y Comisiwn:

Dylai tribiwnlysoedd Cymru gael eu defnyddio i ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud â deddfwriaeth Gymreig yn y dyfodol. Bu tuedd yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad iddi nodi y dylid mynd ati i ddatrys anghydfodau yn y Llys Sirol neu yn y llysoedd a'r tribiwnlysoedd nad ydynt wedi'u datganoli. Ystyriwn fod hyn yn anghyson pan fo tribiwnlysoedd arbenigol yn bodoli yng Nghymru sydd â'r cymhwysedd a'r gallu i ddyfarnu ar anghydfodau. (Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru, paragraff 6.59.2, tudalen 291)

72. Rydym yn cynnig mai ein hegwyddor arweiniol yw y dylid gwrando ar anghydfodau sy’n deillio o gyfraith Cymru mewn sefydliad barnwrol yng Nghymru fel rheol gyffredinol, oni bai fod amgylchiadau sy’n mynnu fel arall wedi’u nodi gan ddadansoddiad llawn a manwl o bob cynnig.

73. Yn ogystal ag awdurdodaethau’r tribiwnlysoedd datganoledig yr ydym wedi’u nodi ym Mhennod 2, mae nifer o lwybrau apêl i lysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, er enghraifft i Dribiwnlys Haen Gyntaf y DU. Yn unol â’n hegwyddor arweiniol, rydym o’r farn y dylid symud llwybrau apêl o’r fath yn raddol i’r system newydd yng Nghymru. Er enghraifft, gwneir apeliadau sy’n ymwneud â threthi datganoledig (y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi) i Dribiwnlys Haen Gyntaf y DU (Siambr Dreth) ac i Uwch Dribiwnlys y DU (Siambr Dreth a Siawnsri), ac yn fan yno y gwrandewir arnynt, cyn mynd ymlaen i’r Llys Apêl perthnasol. Rydym yn bwriadu edrych yn fanwl ar drosglwyddo’r awdurdodaethau hyn i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, o bosibl Siambr Drethi Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, fel rhan o sefydlu’r system dribiwnlysoedd unedig yng Nghymru. Mae nifer yr achosion sy’n dod gerbron tribiwnlysoedd y DU ar hyn o bryd yn gyfyngedig ac felly rydym yn cynnig ystyried y mater hwn maes o law. Bydd ystyriaethau mewn perthynas â’r llwybr apêl ar gyfer unrhyw drethi Cymreig yn y dyfodol yn cael eu hystyried fesul achos.

74. Y pŵer yr ydym yn ei gynnig i Weinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i drefnu gwaith Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru yn siambrau yw’r mecanwaith y gellir ei ddefnyddio i addasu’r system dribiwnlysoedd newydd i ymgorffori llwybrau apêl ychwanegol dros amser. I ddechrau, efallai y bydd llwyth gwaith Tribiwnlys Apêl Cymru yn golygu na fydd angen siambrau ar wahân.

Cwestiwn ymgynghori 11

Ydych chi’n cytuno, fel egwyddor arweiniol, y dylid gwrando ar anghydfodau sy’n deillio o gyfraith Cymru mewn sefydliad barnwrol yng Nghymru?

Cwestiwn ymgynghori 12

A oes unrhyw fathau penodol o anghydfod o dan gyfraith ddatganoledig sydd, yn eich barn chi, yn arbennig o addas i gael eu datrys gan dribiwnlys?

Tribiwnlys Apêl Cymru

75. Elfen allweddol o strwythur unedig a chydlynol y system dribiwnlysoedd newydd arfaethedig yw Tribiwnlys Apêl Cymru, y corff apeliadol cyntaf yng Nghymru yn ei hanes cyfreithiol. Rydym yn ystyried Tribiwnlys Apêl Cymru yn gyfrwng i ddatblygu cyfraith ddatganoledig Cymru mewn ffordd gydlynol ac unigryw i Gymru.

76. Mae’r llwybrau apêl cyfredol o’r tribiwnlysoedd datganoledig wedi datblygu’n dameidiog dros amser ac maent i raddau helaeth yn gynnyrch datblygiad hanesyddol y tribiwnlysoedd datganoledig, yn hytrach na chynnyrch dull gweithredu cydlynol ar gyfer system Cymru o dribiwnlysoedd datganoledig, y mae llwybrau apêl yn rhan annatod ohonynt. Yn ei ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith, dywedodd Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y pryd:

... nid oes unrhyw gyfiawnhad rhesymol dros apeliadau o rai tribiwnlysoedd (lleiafrif) yn mynd i’r Uchel Lys tra bo apeliadau o’r tribiwnlysoedd sy’n weddill (y mwyafrif) yn mynd i Uwch Dribiwnlys Cymru a Lloegr. Yn fy marn i, mae’r llwybrau apêl presennol yn ganlyniad i ddatblygiadau hanesyddol a gynhaliwyd fesul tipyn a heb gyfeirio at yr amcan cyffredinol o gael strwythur tribiwnlysoedd cydlynol ar waith, gyda llwybrau apêl yn rhan annatod ohonynt. (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 4.12, tudalen 60)

77. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid creu Tribiwnlys Apêl i Gymru (gweler Atodiad 2, argymhellion 11 Comisiwn y Gyfraith) ac y dylid ychwanegu awdurdodaethau at y Tribiwnlys Apêl dros amser. Hefyd, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai’r mecanwaith ar gyfer hyn fod yn bŵer i Weinidogion Cymru, drwy offeryn statudol, sefydlu siambrau’r Tribiwnlys Apêl a throsglwyddo awdurdodaethau apeliadol iddo dros amser (gweler Atodiad 2, argymhellion 12 Comisiwn y Gyfraith).

78. Ond roedd Comisiwn y Gyfraith hefyd yn cydnabod mai lleoliad priodol apeliadau o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru oedd un o’r pynciau anoddaf a gafodd sylw yn ei adolygiad. Gan gyfeirio at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ganddo i lywio ei argymhellion, dywedodd Comisiwn y Gyfraith:

Mae nifer o arweinwyr presennol tribiwnlysoedd adran 59 wedi ymateb i’r ymgynghoriad gan egluro bod eu llwybr apêl presennol yn gweithio’n dda i’w tribiwnlys, ac y dylid ei gadw. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso’r awydd hwn i gadw llwybrau apêl cyfredol yn erbyn yr angen i sicrhau bod y system yn gydlynol ac yn gweithio’n dda yn ei chyfanrwydd; ei bod yn gallu datblygu a darparu ar gyfer llwybrau apêl newydd. (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 4.47, tudalen 69)

79. Mae safbwyntiau ar ddiogelu’r llwybrau presennol ar gyfer apeliadau pellach hefyd wedi cael eu cyfleu i ni yn y trafodaethau yr ydym wedi’u cynnal ag Arweinwyr Barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru. Mae’r rhain yn amlwg yn safbwyntiau sydd wedi cael eu hystyried yn ofalus ac maent wedi’u gwneud gan arweinwyr barnwrol sydd â phrofiad sylweddol.

80. Ym marn Comisiwn y Gyfraith, mae cyflwyno Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig yn creu ysgogiad cryf ar gyfer un llwybr apêl i Dribiwnlys Apêl Cymru. Dywedodd Comisiwn y Gyfraith:

Yn ddiau, mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i greu system sy’n syml, yn reddfol ac yn gydlynol, tra bod creu llwybrau apelio gwahanol o’r cychwyn yn peryglu’r amcan hwnnw. (Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru, paragraff 4.47, tudalen 69)

81. Er bod Comisiwn y Gyfraith yn argymell deddfu i greu Tribiwnlys Apêl i Gymru, mae’n dweud y dylem wneud hynny:

…gyda’r bwriad o ddod â’r darpariaethau hynny i rym a sefydlu tribiwnlys pan fydd gan Lywodraeth Cymru ddarlun cliriach o sut mae’r system dribiwnlysoedd yn debygol o ddatblygu. Dylai’r ddeddfwriaeth gynnwys pwerau i drosglwyddo awdurdodaethau i’r Tribiwnlys Apêl… Byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn gallu dod â Thribiwnlys Apêl Cymru i fodolaeth a’i roi ar waith pan fydd hynny’n briodol.

82. Rydym yn cytuno ag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith i greu Tribiwnlys Apêl i Gymru a’r ffordd y dylid trosglwyddo awdurdodaethau i’r Tribiwnlys Apêl, a’u trefnu’n siambrau. Ein dyhead, os yw’n bosibl, fyddai i Dribiwnlys Apêl Cymru fod yn weithredol mewn o leiaf rhai awdurdodaethau o’r un adeg y daw Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru i fodolaeth.

83. Er amlygrwydd y rhai sy’n mynegi barn groes, nid ydym wedi ein hargyhoeddi y bydd hi’n synhwyrol yn y pen draw cael llwybrau apelio gwahanol o wahanol siambrau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Gallai hyn danseilio cydlyniaeth a hygyrchedd y system, a statws a hygrededd y sefydliadau newydd, yn ogystal ag apêl y rolau ynddynt. Yn ein barn ni, Tribiwnlys Apêl Cymru ddylai fod y corff apeliadol ar gyfer apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru oni bai fod rhesymau eithriadol sy’n mynnu bod darpariaeth wahanol yn cael ei gwneud.

84. Ond wrth gwrs mae’n hanfodol nad yw Tribiwnlys Apêl Cymru yn ymgymryd â swyddogaethau nad yw’r farnwriaeth yn hyderus ei fod wedi’i baratoi’n briodol ar eu cyfer. Felly, rydym yn cynnig y dylai pŵer Gweinidogion Cymru i drosglwyddo awdurdodaethau i Dribiwnlys Apêl Cymru drwy is-ddeddfwriaeth fod gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Cwestiwn ymgynghori 13

Ydych chi’n cytuno y dylid cael Tribiwnlys Apêl i Gymru?

Cwestiwn ymgynghori 14

Ydych chi’n cytuno mai Tribiwnlys Apêl Cymru ddylai fod y corff apeliadol ar gyfer apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru oni bai fod rhesymau eithriadol sy’n mynnu bod darpariaeth wahanol yn cael ei gwneud?

Cwestiwn ymgynghori 15

Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau i Dribiwnlys Apêl Cymru dros amser ac y dylid eu trefnu’n siambrau drwy is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?