Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cael mwy o bobl i ymwneud â gwleidyddiaeth. Rhai o’r ffyrdd a ddefnyddir i wneud hyn yw trefnu sgyrsiau rhwng plant ysgol â gwleidyddion a chynnal gweithdai i bobl fyddar am sut y gall democratiaeth weithio’n well iddyn nhw.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 11 prosiect drwy ei Grant Ymgysylltu â Democratiaeth, sy’n targedu’r rhai sy’n llai tebygol o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio o helpu pobl i gofrestru i bleidleisio, i’w hannog i gymryd rhan gyda chyrff etholedig democrataidd megis Cynghorau Tref a Chymuned.
Bydd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (Cymru) yn cael ei chefnogi i gyflwyno gweithdai pwrpasol mewn gwahanol ganolfannau, clybiau a grwpiau i bobl fyddar yng Nghymru gyda’r nod o rymuso pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwleidyddiaeth i gymryd rhan.
Sefydliad arall a fydd yn cael ei gefnogi fydd y Prosiect Gwleidyddiaeth, i barhau i gynnal eu sesiynau ‘Deialog Ddigidol’ mewn ysgolion. Mae’r sesiynau hyn yn dod â myfyrwyr ac aelodau etholedig at ei gilydd i drafod yr hyn sydd bwysicaf iddynt.
Mae prosiectau eraill yn cynnwys Innovate Trust, sy’n galluogi pobl ag anableddau dysgu a’u hawdurdodau lleol i ddod at ei gilydd i greu cynnwys digidol ar beth i’w ddisgwyl pan fyddant yn mynd i orsaf bleidleisio.
Dywedodd Nick French, Prif Swyddog Gweithredol Innovate Trust:
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cyllid gan Grant Ymgysylltu â Democratiaeth Llywodraeth Cymru. Mae llawer ohonom yn cymryd y gallu i bleidleisio yn ganiataol. Ac eto, mae pobl ag anableddau dysgu yn wynebu rhwystrau di-rif o ran cofrestru i bleidleisio, gwybod dros bwy i bleidleisio a sut i gyflwyno eu pleidlais yn hyderus. Gyda’r cyllid hwn, byddwn yn chwalu’r rhwystrau hyn i hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd ymhlith y bobl rydym yn eu cefnogi drwy ddarparu rhaglen o sesiynau hygyrch, llawn gwybodaeth am y broses ddemocrataidd yn ei chyfanrwydd.”
Bydd Clwb Bechgyn a Merched Cymru hefyd yn cael cyllid i gynnal gweithdai Pitsa a Gwleidyddiaeth a phrosiectau Coda Dy Lais, gyda phwyslais ar y rhai sydd ar gyrion democratiaeth ar hyn o bryd - gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, pobl ifanc LHDTC+, pobl anabl, a’r rhai sydd ag iechyd meddwl gwael.
Dywedodd Grant Poiner, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Bechgyn a Merched Cymru:
“Bydd y grant hwn yn cael effaith sylweddol ar bobl ifanc nad ydynt fel arfer yn ymwneud â gwleidyddiaeth. Trwy weithdai arloesol dan arweiniad Gweithwyr Ieuenctid hyfforddedig, bydd y prosiect yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i bobl ifanc allu arfer eu hawl ddemocrataidd o allu pleidleisio yn 16 oed mewn etholiadau yng Nghymru.”
Mae’r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw wedi cadarnhau’r cyllid mewn datganiad i’r Senedd heddiw. Amlinellodd hefyd fwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar gyfer dyletswydd gyfreithiol a fyddai’n gwella amrywiaeth drwy ddarparu cymorth i gael gwared ar rwystrau i gymryd rhan, gan adeiladu ar fentrau blaenorol fel y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig a gafodd ei threialu gyda chymorth Anabledd Cymru.
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cryfhau democratiaeth Cymru, gan gynnwys rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed yn ogystal ag i ddinasyddion tramor cymwys.
“Bydd y prosiectau rydym yn eu cefnogi drwy ein Grant Ymgysylltu â Democratiaeth yn parhau â’r ymdrechion hyn i wella cyfranogiad yn ein democratiaeth.
“Mae ein camau gweithredu ni’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r hyn a welwn gan Lywodraeth y DU. Yr hyn sy’n digwydd dros y ffin yw ymdrechion bwriadol iawn i’w gwneud hi’n anoddach i bleidleisio. Nid yw’r cyfreithiau cardiau adnabod newydd gan Lywodraeth y DU yn ddim llai nag ymosodiad ar ddemocratiaeth. Nid yn unig rydym yn gwrthod hyn mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru, ond rydym yn mynd ati’n weithredol i wella ymgysylltiad â democratiaeth a’i gwneud yn haws i bobl bleidleisio.”
Daw’r cyllid wrth i raglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio etholiadau yng Nghymru barhau i gyflymu. Mae’r rhaglen yn cynnwys cynllun peilot cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, rydym yn gweithio arno gydag awdurdodau lleol, a chymorth ariannol ychwanegol i MySociety sy’n darparu cymorth er mwyn cymryd rhan yn ystyrlon mewn democratiaeth a chael mynediad at wybodaeth wleidyddol, gan gynnwys They Work For You.