Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Rhaid i unrhyw un sy'n gyfrifol am wartheg ddilyn y gofynion a bennir gan y Rheoliadau Adnabod Gwartheg.
‘Ceidwad gwartheg’ yw unrhyw berson sy’n gyfrifol am wartheg, boed yn barhaol neu dros dro. Mae hyn yn cynnwys wrth gludo gwartheg neu mewn man crynhoi. Nid y ceidwaid o reidrwydd fydd perchenogion yr anifeiliaid a gallant fod yn:
- ffermwyr
- pobl sy’n rhedeg marchnadoedd a mannau crynhoi da byw
- cludwyr
- delwyr sy’n cadw anifeiliaid
- pobl sy’n rhedeg lladd-dai a gwalfeydd
- pobl sy’n cadw gwartheg fel anifeiliaid anwes
Mewn dogfennau swyddogol, mae’r term ‘gwartheg’ bob tro’n golygu’r tair rhywogaeth (gwartheg, bison a byfflo) os na ddywedir yn wahanol.
Mae yna bethau yn ôl y gyfraith y mae gofyn i geidwaid gwartheg eu gwneud, cyn ac ar ôl i’r anifail ddod o dan eu gofal.