Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am adeiladu ffordd osgoi a chyflwyno system unffordd, i wella amseroedd teithio, cynyddu diogelwch a lleihau llygredd.

Statws:
Wedi ei gynllunio
Rhanbarth / Sir:
Sir Gaerfyrddin
Dyddiad dechrau:
Hydref 2017
Dyddiad gorffen:
Amcangyfrif hydref 2031
Cost:
Amcangyfrif o £88 miliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r prosiect hwn yn dal i fod yn y camau cynllunio. 

Rydym yn dilyn y camau a amlinellir yng Nghanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).

Nid yw'r cynllun yn sicr o fynd yn ei flaen eto. 

Rydym am wneud y canlynol:

  • adeiladu ffordd osgoi newydd i ddatrys materion trafnidiaeth yn Llandeilo a Ffair-fach
  • creu system unffordd yn Stryd Rhosmaen i wneud mwy o le i gerddwyr 
  • ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio
  • ei gwneud yn haws cael mynediad at wasanaethau bws a threnau presennol
  • gwella'r gallu i wrthsefyll llifogydd

Camau nesaf

Byddwn yn:

  • penodi ymgynghorwyr i helpu i reoli'r cam nesaf
  • datblygu achos busnes llawn (WelTAG cam 3)
  • datblygu'r dyluniad
  • cyhoeddi unrhyw orchmynion drafft sydd eu hangen, er enghraifft: prynu tir yn orfodol
  • ymgynghori â'r cyhoedd a phartneriaid lleol ar orchmynion drafft, gyda chyfleoedd i ddarparu cefnogaeth neu fynegi gwrthwynebiadau

Os daw gwrthwynebiadau i law i gynigion drafft, efallai y bydd angen Ymchwiliad Cyhoeddus. 

Byddai unrhyw Ymchwiliad Cyhoeddus yn cael ei reoli gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, a fyddai'n penodi arolygydd cynllunio annibynnol.

Nid yw symud ymlaen i'r cam gorchmynion drafft yn gwarantu y bydd cynllun yn mynd yn ei flaen. 

Er mwyn symud ymlaen i'r cam cyflawni (WelTAG cam 4), rhaid i arolygydd cynllunio annibynnol ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y mater, gan argymell bod y gorchmynion drafft yn cael eu derbyn. Yna bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu a ddylid cyhoeddi'r gorchmynion drafft.

Amserlen

2024: 

  • cyhoeddwyd ein llwybr a ffefrir ar gyfer y cynllun
  • cyhoeddwyd crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad cam 2 WelTAG
  • cyhoeddwyd cynllun TR111, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi gwybod i ni am geisiadau cynllunio o fewn 67m y naill ochr a’r llall i'r llwybr a ffefrir gennym

 2020:

  • cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar 4 opsiwn posibl (WelTAG cam 2)
  • adolygwyd ymatebion i'r ymgynghoriad a chynhaliwyd dadansoddiad pellach
  • gweithio gyda'r Panel Adolygu Annibynnol, awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru

2019:

  • cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus 
  • lleihawyd y rhestr o opsiynau posibl o 11 i 4

2017:

  • gweithio i ddeall materion trafnidiaeth yn Llandeilo a Ffair-fach (WelTAG cam 1)
  • crëwyd rhestr hir o 11 ateb posibl

Hysbysiadau diweddaraf

Cyhoeddiadau a hysbysiadau

Ymgyngoriadau

Ymgyngoriadau yw un o’r ffyrdd i ni gael adborth ar brosiect

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau