Heddiw, mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd £70 miliwn o gyllid ar gael i gefnogi’r cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru
Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd pob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin, sy’n mynychu ysgol a gynhelir, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.
Hyd yn hyn, mae bron i bum miliwn o brydau ychwanegol wedi’u gweini am ddim ledled Cymru ers mis Medi 2022.
Bydd y cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd yn dechrau ym mis Medi 2023, a’r nod yw cynyddu’r cynnig i’r rhan fwyaf o ddysgwyr ym mlynyddoedd tri a phedwar. Bydd y cynllun wedyn yn ehangu ymhellach ym mis Ebrill 2024, gan gyrraedd blynyddoedd pump a chwech. Pan fo awdurdodau lleol yn gallu cyrraedd y grwpiau blwyddyn hyn cyn y cerrig milltir uchod, maen nhw wedi’u hariannu i wneud hynny.
Mae £260 miliwn wedi’i ymrwymo i weithredu’r cynllun dros dair blynedd. Roedd hyn yn cynnwys £60 miliwn o arian cyfalaf i awdurdodau lleol ei fuddsoddi dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn gwelliannau i gyfleusterau cegin ysgolion, gan gynnwys prynu offer a diweddaru systemau digidol.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gwneud cynnydd ardderchog yn ystod y cam cyntaf. Mae’r cam hwn wedi canolbwyntio ar feithrin gallu ysgolion i gyflwyno’r cynnig cynyddol ac maen nhw wedi llwyddo i wneud hynny’n gyflym. Ers dechrau tymor yr haf, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr ledled Cymru yn y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 wedi elwa ar brydau ysgol am ddim.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Rydyn ni’n gweithio ar gyflymder i sicrhau bod pob plentyn ysgol gynradd yn elwa ar bryd ysgol maethlon ac nad oes yr un plentyn yn llwgu.
Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw hi i deuluoedd ar hyn o bryd yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae’r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i deuluoedd, gan ddarparu pryd maethlon i helpu plant i ganolbwyntio ar ddysgu.
Hoffwn ddiolch i dimau awdurdodau lleol ledled Cymru sy’n gweithio’n galed i gyflwyno’r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn gyflym.
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:
Rydyn ni wedi darparu miliynau o brydau ysgol am ddim ers dechrau cyflwyno’r cynllun hwn sy’n newid bywydau. Cynllun sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed.
Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cyhoeddi rhagor o fanylion ynglŷn ag ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2024, gan ddangos sut mae cydweithio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Rydyn ni’n sicrhau nad oes yr un plentyn yn llwgu, yn ogystal â rhoi cymorth i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.
Rwyf am ddiolch i’n hawdurdodau lleol a’n hysgolion am ein helpu i gyflawni hyn.