Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Mae Cynllun Gweithredu Seiber Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer seiber yng Nghymru. Mae’n dwyn ynghyd ddatganiad o uchelgais ar y cyd ar draws sectorau er mwyn i Gymru allu ffynnu drwy seibergadernid, doniau ac arloesi. Mae’r Cynllun yn amlinellu ein pedwar maes blaenoriaeth i gyflawni’r weledigaeth hon; datblygu ein hecosystem seiber, creu llif o dalent seiber, cryfhau ein seibergadernid a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, fe wnaethom ymrwymo i gyflawni’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, sy’n ceisio gwella bywydau pobl Cymru drwy gydweithio, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell. Yn y strategaeth honno, fe wnaethom ddisgrifio ein bwriad i gyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Seiber.
Mae gwir drawsnewid digidol yn seiliedig ar ymddiriedaeth yn y dechnoleg a’r gwasanaethau digidol rydym yn eu defnyddio. Mae’r ymddiriedaeth honno’n cael ei meithrin drwy ymwybyddiaeth ac mae camau y gall pawb ohonom eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaethau digidol rydym yn eu defnyddio mor ddiogel a chadarn ag y gallant fod. Serch hynny, ni ellir gwneud unrhyw system yn gwbl ddiogel rhag y bygythiad cynyddol o ymosodiad seiber. Gan hynny, mae’n hanfodol bod busnesau, sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus yn cymryd camau i leihau’r risgiau ac i baratoi ar gyfer digwyddiadau seiber, delio â nhw ac adfer ar eu hôl.
Fodd bynnag, mae ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Seiber yn ymwneud â mwy na diogelwch a chadernid. Mae’n ymwneud â sut gall seiber, fel diwydiant y dyfodol, gefnogi twf ein heconomi. Mae’n ymwneud â chael y doniau iawn yng Nghymru i gefnogi diwydiant, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus gyda’r sgiliau seiber sydd eu hangen arnynt.
Mae seiber eisoes yn un o gryfderau mawr Cymru a chredwn fod gennym un o’r ‘ecosystemau’ seiber cryfaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan geisio manteisio ar y cyfleoedd trawsbynciol sy’n deillio o weithio’n agos mewn partneriaeth. Mae sylfaen a llwyddiant y Cynllun hwn ynghlwm wrth ei ryngddibyniaethau - mae twf mewn un maes yn ategu cynnydd un arall. Er enghraifft, mae arloesi yn gwneud Cymru yn lle deniadol i weithio ym maes seiber neu i adeiladu busnesau yn y diwydiant. Yn ogystal â chreu cyfleoedd a swyddi, mae’n ysgogi datblygiad sgiliau seiber sydd, yn ei dro, yn gwneud ein busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus yn fwy gwydn yn erbyn bygythiadau seiber.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth mewn seiber yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi £3 miliwn yn y Ganolfan Arloesi Seiber sy’n dod â phartneriaid yn y diwydiant, llywodraeth, amddiffyn a’r byd academaidd at ei gilydd i dyfu sector seiberddiogelwch Cymru. Mae’n creu dull cydlynol o ymdrin â sgiliau, arloesi a menter newydd.
Ar ben hynny, rydym wedi ymrwymo dros £12 miliwn yn y gorffennol i gefnogi’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymelwa Digidol (NDEC) fel Canolfan Ragoriaeth Seiberddiogelwch a £3.5 miliwn arall ar gyfer darparu ResilientWorks sy’n eistedd ochr yn ochr â’r NDEC i ffurfio Campws Technoleg Thales Glynebwy.
Er bod y gwaith hwn eisoes yn darparu manteision i Gymru, mae’r Cynllun Gweithredu Seiber yn ceisio manteisio i’r eithaf ar ein buddsoddiadau a’r partneriaethau cryf rydym wedi eu sefydlu i sicrhau gwell canlyniadau i Gymru.
Mae’r Cynllun yn adlewyrchu’r ymdrechion cydgysylltiedig a’r dull cydweithredol a ddefnyddiwyd wrth ei ddatblygu ac mae wedi cael ei fireinio drwy ymgysylltu ar draws amrywiaeth o sectorau. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cyhoeddus, diwydiant, y byd academaidd, sgiliau, addysg, gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ac eraill.
Bydd y sgyrsiau hyn yn parhau wrth i ni symud tuag at gyflawni’r Cynllun. Pan fyddwn yn tynnu meysydd blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Seiber at ei gilydd ac yn gweithio ar y cyd, byddwn yn sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru drwy gydnerthedd, doniau ac arloesi.
Mae’r Cynllun Gweithredu Seiber ar gael drwy ddilyn y ddolen a ganlyn: Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru