Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn cadw ei system ad-dalu cyllid decach a blaengar, er gwaethaf newidiadau yn Lloegr.
Yn hanesyddol, mae system Cymru ar gyfer ad-dalu cymorth myfyrwyr wedi bod yn gydnaws â system Lloegr, ond byddai mabwysiadu system newydd Lloegr yn golygu bod myfyrwyr Cymru yn ad-dalu benthyciadau dros gyfnod hirach, gyda’r rhai sy’n ennill cyflogau uwch yn ad-dalu llai, a’r rhai sy’n ennill cyflogau canolig ac is yn ad-dalu mwy nag ar hyn o bryd.
Y llynedd, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu’n wreiddiol ei bod ond am gadw’r system fenthyciadau bresennol i fyfyrwyr dros dro, ar gyfer y flwyddyn academaidd yn unig, er mwyn asesu’r newidiadau yn Lloegr.
Erbyn hyn, mae Jeremy Miles wedi penderfynu cadw’r system decach, fwy blaengar sydd ar waith i’r dyfodol, gan ei hadolygu’n flynyddol i sicrhau ei bod yn dal yn gynaliadwy.
Mae’r system flaengar bresennol ar gyfer cyllid myfyrwyr yn golygu bod gan israddedigion Cymru lai i’w ad-dalu, ar gyfartaledd, na’u cyfoedion yn Lloegr, wrth inni barhau i ddarparu grantiau nad oes rhaid eu had-dalu, ac maent yn derbyn lefel wedi’i gwarantu o gymorth cynhaliaeth, beth bynnag yw incwm eu haelwyd.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae diwygiadau Llywodraeth y DU yn cymryd cam yn ôl, gan helpu’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf a gwaethygu sefyllfa’r graddedigion sy’n ennill cyflogau canolig ac is.
“Er bod system ad-dalu Cymru wedi bod yn gydnaws â Lloegr yn hanesyddol, dw i ddim o’r farn bod system newydd Lloegr yn gynnig da.
“Mae’r diwygiadau yn helpu’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf ac yn gwaethygu sefyllfa’r graddedigion sy’n ennill cyflogau canolig ac is. Maen nhw hefyd yn effeithio’n anghymesur ar fenywod.
“Yn sicr, ddylen ni ddim bod yn gofyn i athrawon, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol dalu mwy, tra bo’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf yn talu llai.
“Mi alla i gyhoeddi heddiw, felly, na fyddwn ni’n symud i’r system sydd wedi’i mabwysiadu yn Lloegr, ond y byddwn ni’n cadw’r system bresennol. Mae hyn yn golygu mai 30 mlynedd fydd cyfnod ad-dalu graddedigion Cymru o hyd, yn hytrach na 40 mlynedd fel yn Lloegr.”