Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn unol â’r cytundeb ar gysylltiadau rhyngsefydliadol, hoffem eich hysbysu bod cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig wedi’i gynnal ar 17 Ebrill 2023.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Mark Spencer AS y DU, y Gweinidog Bwyd, Ffermio a Physgodfeydd. Hefyd yn bresennol yr oedd Alistair Jack, AS y DU, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban; James Davies AS y DU, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru; Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Diwygio Tir a’r Ynysoedd; Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, yr Economi Gylchol a Bioamrywiaeth; a Norman Fulton, y Dirprwy Ysgrifennydd Bwyd, Grŵp Ffermio DAERA yn absenoldeb y Gweinidog dros Ogledd Iwerddon a’r Ysgrifennydd Parhaol.
Rydym am fynegi unwaith eto ein siom a’n rhwystredigaeth nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn bresennol. Mae ei diffyg presenoldeb wedi gostwng ansawdd y cysylltiad rhyngom dros y chwe mis diwethaf, felly rydym wedi rhoi gwybod i’r cyfarfod na fydd Llywodraeth Cymru yn bresennol yn yr un nesaf os na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn bresennol.
Trafodwyd y Cynllun Dychwelyd Ernes. Roeddem wedi disgwyl diweddariad gan Defra ar hynt cais Llywodraeth yr Alban am gael eu heithrio o Ddeddf y Farchnad Fewnol, ond ni chafwyd mohono. Pwysodd Llywodraeth yr Alban fod yr eithriad yn fater o frys.
Trafodwyd wedyn y gwaith sy’n mynd rhagddo ar Gyfraith yr UE a Ddargedwir a phwysleisiwyd yr angen am drafodaeth drylwyr a phroses gydsynio gytûn.
Yna siaradwyd am y prinderau bwyd diweddar a phroblemau ynghylch diogelu cyflenwadau bwyd. Er bod y cyflenwadau yn ôl fel roedden nhw, mae gennym bryderon o hyd ynghylch diogelwch cyflenwadau yn yr hirdymor oherwydd y pwysau ar y farchnad lafur, y rhyfel yn Wcráin a’r newid yn yr hinsawdd. Cytunwyd i barhau i gydweithio ar hyn tua’r dyfodol.
Yna cawsom ddiweddariad gan Defra ar Fframwaith Windsor a sut y byddai’n effeithio ar ein portffolio. Gwnaethon ni drafod pryderon ynghylch y ffaith bod angen i fusnesau wneud newidiadau erbyn 1 Hydref.
Yn olaf, roedd nifer o eitemau o dan ‘unrhyw fater arall’ gan gynnwys Partneriaeth Amaeth y DU, y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel, y cytundeb fframwaith pysgodfeydd diweddar ag Ynysoedd Ffaro a chynllun Lloegr ar gyfer tagio gwartheg.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 22 Mai.
Caiff hysbysiad am y cyfarfod ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs. (Saesneg yn Unig).