Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, rwy’n cyhoeddi dogfennau hollbwysig sy’n ymwneud â’r diwygiadau ailgylchu i fusnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Bydd y diwygiadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn yr un modd ag y mae mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud. Mae’r diwygiadau yn ffurfio elfen hanfodol o gam gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Maent hefyd yn rhan allweddol o osod y sylfeini tuag at economi gryfach a gwyrddach wrth inni symud ymlaen tuag at ddatgarboneiddio, fel yr ymrwymwyd iddo yn ein Rhaglen Lywodraethu.
Mae’r dogfennau yn grynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgyngoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Tachwedd a Chwefror ynghylch y Cod Ymarfer drafft Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru, y dull gorfodi a’r sancsiynau arfaethedig Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, a’r asesiad o’r gystadleuaeth Cynyddu ailgylchu mewn gweithleoedd: asesiad o’r effeithiau ar gystadleuaeth.
Roedd yr ymgyngoriadau yn nodi’r gofynion a fwriedir ar gyfer ailgylchu yn y gweithlu gan gynnwys holl safleoedd busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Y prif ganlyniadau oedd:
- Bod yr ymatebwyr yn cytuno â’r egwyddorion yr oedd y cynigion yn ceisio’u cyflawni yn y dogfennau ymgynghori ar y cod ymarfer a’r prosesau gorfodi a sancsiynau;
- Bod angen eglurder pellach ar rai sectorau a busnesau ynglŷn â rhai adrannau o’r Cod a gofynnwyd am ragor o fanylion ynghylch sut y bydd y drefn gorfodi a’r sancsiynau yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol; a
- Bod pryderon wedi’u codi am barodrwydd y sector i gyflawni erbyn y dyddiad dod i rym gwreiddiol sef mis Hydref 2023.
Yn dilyn ystyried yr adborth yn ofalus, ac yn amodol ar ewyllys y Senedd, byddaf yn estyn dyddiad dod i rym y ddeddfwriaeth i 6 Ebrill 2024. Bydd hyn yn caniatáu 6 mis yn ychwanegol ar gyfer cyflawni’r paratoadau angenrheidiol cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf. Rwyf felly yn annog y rhai hynny sydd eto i fwrw ati â’r gwaith paratoi i ddilyn esiampl y rhieni sydd eisoes wedi rhoi’r newidiadau ar waith i sicrhau bod deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn cael eu gwahanu a’u casglu. Mae hyn yn gam hanfodol o ran y camau gweithredu sydd eu hangen, nid yn unig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur ond hefyd i wireddu manteision yr economi gylchol.
Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau y gallwn ganfod cyflenwad cadarn o ddeunyddiau o ansawdd uchel sydd wedi’u hailgylchu, y gellir wedyn eu dychwelyd yn ôl i’n heconomi. Yn ei dro, bydd hyn o gymorth i ddatgloi manteision yr economi gylchol a chefnogi cadernid busnesau wrth bontio i economi wedi’i datgarboneiddio. Gan adeiladu ar lwyddiant ailgylchu yn ein cartrefi, mae’r diwygiadau hyn yn cynrychioli cam arwyddocaol arall tuag at economi sy’n fwy cylchol a Chymru sero net.
Atodiad
- Crynodeb o ymatebion - Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru
- Crynodeb o ymatebion - Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
- https://www.llyw.cymru/cynyddu-ailgylchu-mewn-gweithleoedd-asesiad-or-effeithiau-ar-gystadleuaeth