Diweddariad 2 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy - Arloesi
Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
21. Rhanddirymiad Rheoleiddiol yng Nghymru gydag Ofgem
Argymhelliad
Byddwn yn galw ar Ofgem i ddatblygu rhanddirymiad rheoleiddiol yng Nghymru i alluogi arloesedd modelau busnes ynni i gefnogi argymhellion ehangach yr Ymchwiliad Dwfn Ynni Adnewyddadwy. Dylai amcanion y rhanddirymiad gynnwys:
- Cyflymu graddfa ynni adnewyddadwy yng Nghymru
- Galluogi arloesi modelau busnes ynni
- Gwireddu manteision a chyd-fanteision ehangach ynni adnewyddadwy (o safbwynt Cymru a systemau ynni)
- Datgloi gwerth y system ynni, fel y gwerth o hyblygrwydd galw cwsmeriaid a defnyddwyr rhwng cyfoedion i fasnachu a chyflenwi trydan lleol
- Ymgysylltu'n well a diogelu buddiannau dinasyddion Cymru.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Rydym wedi gweithio gyda’r tîm sy’n dod â rhaglen arloesi ynni FLEXIS i ben ac wedi nodi meysydd lle gallwn gydweithio ynddyn nhw â’r byd academaidd, timau ynni rhanbarthol a busnesau. Nid ydym wedi gweld prosiect eto allai elwa ar randdirymiad.
Mae’r Rhaglen ôl-osod wedi’i Optimeiddio yn treialu prosiectau o gwmpas modelau busnes arloesol ac yn gwireddu gwerth systemau. Rydym yn parhau i fonitro a pharatoi ar gyfer rhannu syniadau allweddol.
Camau nesaf at gwblhau
Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae ein blaenoriaethau am y 6 mis nesaf yn cynnwys:
- Defnyddio cynlluniau ynni lleol (argymhelliad 2) i ddatgelu’r heriau i’r drefn reoleiddio a chyllido fel tystiolaeth i’w chyflwyno i Ofgem ar gyfer ateb credadwy. Gyda’r cynlluniau i ddod i ben ym mis Mawrth 2023, rhagwelir y caiff y gwaith hwn ei wneud yn ddiweddarach y flwyddyn honno.