Diweddariad 2 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy - Grid
Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
5. Trafod ag Ofgem
Argymhelliad
Byddwn yn cynyddu ein trafodaethau ag Ofgem er mwyn sefydlu anghenion buddsoddi Cymru, gan ganolbwyntio ar gadw gwerth o fewn Cymru. Byddwn yn sefydlu grŵp cydweithio i edrych ar opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid newydd, hyblyg ar gyfer atebion adnewyddadwy a storio ynni.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Y prif uchafbwyntiau ers Hydref 22:
- Parhau i ymgysylltu, gan gynnwys trwy ymweliad GEMA Bwrdd Ofgem â Chymru ac â safleoedd i weld tystiolaeth o broblemau â’r grid yng Nghymru.
- Bwrw ymlaen â phrosiect Gridiau Cymru’r Dyfodol gan gynnwys gweithdai gyda swyddogion y rhwydwaith i ddeall egwyddorion newydd, ar weminar gyhoeddus;
- Trafod â’r Grid Cenedlaethol am hynt eu hopsiynau ar gyfer datblygu’r cysylltiad trawsyrru arfaethedig rhwng y de a’r gogledd.
Camau nesaf at eu cwblhau
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y 6 mis nesaf yn cynnwys:
- Cyhoeddi adroddiad terfynol prosiect Gridiau Cymru’r Dyfodol ym mis Mai a phenderfynu ar y camau nesaf;
- Parhau i drafod datblygiad y cysylltiad trawsyrru arfaethedig rhwng y de a’r gogledd;
- Gweithio gyda rhwydweithiau ynghylch cyfleoedd i arloesi a digideiddio yn y sector.
6. Pensaer Systemau Ynni Cymru
Argymhelliad
Gan adeiladu ar Brosiect Grid Ynni'r Dyfodol, byddwn ni'n pwyso ar Ofgem i greu Pensaer System Ynni Cymru i oruchwylio:
- Hyblygrwydd ochr y galw, domestig, annomestig a phenodedig, gan gynnwys storio ynni
- Mapio cartrefi tlawd o ran tanwydd (a thrafnidiaeth) yn erbyn parthau rheoli cyfyngiadau Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) cyfredol ac a ragwelir (lle y mae gan ymateb/hyblygrwydd ochr y galw y gwerth mwyaf i'r system) gyda'r bwriad o ddefnyddio technolegau hyblygrwydd carbon isel i'r cartrefi a'r aelwydydd hyn
- Datrysiadau smart ar gyfer trawsyrru a dosbarthu gan gynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wneud y gorau o'r defnydd o'r rhwydwaith presennol. Gan gynnwys datblygu gofynion, cyllid ac agor y farchnad i arloesi. Angen ymgysylltu â mewnbynnau o bob rhan o ddiwydiant.
- Cefnogi achosion busnes i gynllunio'r system gyfan a dod â chynlluniau ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru at ei gilydd
- Cystadleuaeth i adeiladu rhwydwaith i leihau costau a chyflymu amseroedd adeiladu
- Datblygu cynllun system gyfan manwl sy'n cwmpasu trawsyrru a dosbarthu
- Dyluniad rhwydwaith ar y Môr Celtaidd ac atgyfnerthiadau ar y tir.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Rydym wedi gweithio gydag aelodau’r archwiliad dwfn i ddatblygu cysyniad y Pensaer Systemau Ynni (WESA). Yn dilyn cyhoeddi Gweithredwr System y Dyfodol (FSO) ar gyfer system Prydain Fawr, gwnaethon ni gytuno bod llawer o’r swyddogaethau y gwnaethon ni eu rhagweld ar gyfer WESA yn debygol o fynd i’r corff hwn, gan esblygu o’r ESO. Rydym yn gweithio ar y cynigion fel ein bod yn canolbwyntio’n meddyliau ar y meysydd blaenoriaeth sy’n weddill.
Rydym wedi gwneud gwaith mawr â chynlluniau ynni lleol yn dilyn penodi contractwyr cyflawni ym mhob rhanbarth. Disgwylir cwblhau’r cynlluniau erbyn Mawrth 2024 ac rydym yn ystyried eu cyfuno â gwaith arall i ddatblygu’r Cynllun Ynni Cenedlaethol.
Rydym yn gweithio gyda rhwydweithiau a busnesau i’w digideiddio er mwyn cynyddu’r defnydd arnynt.
Camau nesaf at eu cwblhau
Deall yn well yr angen am ragor o gapasiti er mwyn gallu datblygu gymaint â phosibl y defnydd o atebion smart ac o asedau hyblygrwydd. Y nod yw creu systemau lleol smart sy’n cadw’r buddion yn yr ardal. Bydd hyn yn cau’r bylchau sy’n weddill yng Nghymru wrth i’r FSO gael ei sefydlu
Chwilio am gyfleoedd trwy’r rhaglen cynllunio ynni i ddatblygu prosiectau treialu arloesol o gwmpas systemau ynni smart.