Cytundeb cydweithredu rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae gweithrediadau busnesau bwyd ac ymddygiadau prynwyr wedi esblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r UE, y pandemig COVID-19, a digwyddiadau mewn rhannau eraill o’r byd. Mae datblygiadau technolegol, arloesi ym myd busnes, a datblygiadau digidol yn newid y dirwedd busnesau bwyd yn barhaus, gan greu heriau rheoleiddio newydd.
Rolau a chyfrifoldebau
Mae gan Senedd Cymru y cymhwysedd deddfwriaethol i basio cyfreithiau (Deddfau) mewn perthynas â’r rhan fwyaf o agweddau ar fwyd a diod.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn gyfrifol am ddatblygu polisïau, neu helpu i ddatblygu polisïau, sy’n ymwneud â hylendid a diogelwch bwyd a phorthiant, safonau a chyfansoddiad bwyd, a buddiannau perthnasol eraill y prynwr megis labelu bwyd. Mae’n gwneud hyn drwy roi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru, swyddogion Llywodraeth Cymru, a thrwy roi cyngor, gwybodaeth neu gymorth i awdurdodau cyhoeddus megis awdurdodau lleol.
Mae awdurdodau lleol yn gweithio i ddiogelu’r cyhoedd yn lleol, gan weithredu polisïau a deddfwriaeth genedlaethol sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a phorthiant er mwyn diogelu a hyrwyddo iechyd y cyhoedd, llesiant, a ffyniant. Maent yn darparu rheolaethau swyddogol ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau bwyd, ac yn gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gydgysylltu a chefnogi gweithgarwch ar draws awdurdodau lleol.
Sicrhau bod y drefn rheoleiddio bwyd yn addas ar gyfer y dyfodol
Er mwyn sicrhau bod trefniadau rheoleiddio’n addas ar gyfer eu diben, ac yn gallu diwallu anghenion deinamig prynwyr a busnesau bwyd, rhaid i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd weithio yn ysbryd Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol Cymru. Mae hynny’n golygu gweithio mewn partneriaeth sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar bob ochr, ac sy’n cydnabod gwerth a chyfreithlondeb rôl pob corff, gan gydbwyso’r anghenion i gyd-gynllunio, cyd-gynhyrchu, ac ymgynghori.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi creu’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau i ystyried sut y gellid gweithredu’r drefn rheoleiddio busnesau bwyd mewn modd mwy trylwyr ac effeithiol.
Cafodd y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau ei chreu ym mis Ionawr 2020 ar ôl adolygu’r rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol, sef y rhaglen y mae’n ei disodli. Mae wedi cael ei chynllunio yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd o weithredu’r rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol, ac ar yr angen i weithio ar y cyd. Er mwyn gwneud hynny, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol, busnesau, a phartneriaid eraill i sicrhau bod cydweithredu a chyd-gynhyrchu yn digwydd ar draws y sector. Mae gan Bwyllgor Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru rôl allweddol i’w chwarae o ran hwyluso’r gwaith hwn.
Mae’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn esblygu gyda nifer o brosiectau’n cael eu treialu a’u gwerthuso fel sail i ystyried dichonoldeb ac effeithiolrwydd newidiadau tymor hir, a sut y gellid eu gweithredu. Mae ABC yn cynnwys tair ffrwd waith, a gallwch ddod o hyd i'r manylion ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Amcanion ar gyfer Cymru
Nod y rhaglen hon yw ei gwneud yn haws i fusnesau ddarparu bwyd diogel y gellir ymddiried ynddo ar gyfer y prynwyr, ac i dargedu adnoddau rheoleiddio mewn modd mwy effeithlon yn seiliedig ar risg gan wella cydymffurfiaeth ar draws y system (drwy sicrhau bod partneriaid rheoleiddio a busnesau yn cydweithio’n agosach). Mae partneriaid y cytundeb hwn wedi cytuno i sicrhau’r canlynol:
- Bod cynigion yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn dangos eu bod yn gwella sut y rheoleiddir busnesau bwyd yng Nghymru, a’u bod yn sicrhau bod asiantaethau partneriaeth yn cydweithio mewn modd mwy cydweithredol, effeithiol ac effeithlon.
- Bod y safonau uchel presennol ar gyfer diogelwch bwyd, a hyder y cyhoedd, yn cael eu diogelu.
- Bod hygrededd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a hyder y prynwr ynddo yn cael eu cynnal.
- Bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol y mae un system reoleiddio yn eu cael ar un arall yn cael eu nodi a’u lliniaru.
- Bod ymdrech i sicrhau cysondeb ar draws y DU lle bo hynny’n ymarferol, a lle nad yw dull gweithredu sy’n benodol i Gymru yn cael ei ddefnyddio.
- Bod cynaliadwyedd yn ganolog i unrhyw newidiadau a gynigir, a’u bod yn gydnaws ag uchelgeisiau tymor hir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
- Bod angen ymchwilio i’r posibiliadau o ran gweithredu system gofrestru neu drwyddedu mwy effeithiol ar gyfer busnesau bwyd cyn eu cymeradwyo, yn hytrach na bod hawl i gofrestru, fel rhan o’r rhaglen.
- Bod gweithgarwch ymgysylltu ac ymgynghori yn cael ei gynnal gyda’r rhanddeiliaid perthnasol.
- Bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhoi i Weinidogion er mwyn adrodd ar gynnydd yn erbyn y prif amcanion.
- Bod cymeradwyaeth Weinidogol yn cael ei cheisio cyn cyflwyno unrhyw newidiadau gweithredol.