Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cwmpas ar brosiect peilot blwyddyn o hyd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gwmnïau cydweithredol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.
Bydd y prosiect hwn yn ategu rhaglenni presennol sy’n cefnogi ‘Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith’ (Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith) fel elfen drawsgwricwla o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith yn elfen hanfodol a thrawsbynciol o’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed, a dylai ysgolion ei gwneud yn bosibl i’w dysgwyr gael profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith a gyrfaoedd, gan ddatblygu gwybodaeth am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy gydol eu hoes. Bydd y dysgu hwn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu llwybrau gyrfaoedd.
Bydd y prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei ddarparu gan Cwmpas, i ymgysylltu ag ysgolion a datblygu adnoddau a deunyddiau dysgu, a fydd ar gael yn ddwyieithog ac yn ddigidol. Bydd y prosiect ar gael i bob ysgol yng Nghymru a bydd yn canolbwyntio ar ddeall rôl cwmnïau cydweithredol o fewn yr economi. Bydd cynnwys ychwanegol yn canolbwyntio ar faterion fel effaith gymdeithasol, iechyd a llesiant, gwaith teg, ac amgylchedd mwy gwyrdd.