Data am hysbysiadau cosb benodedig, achosion llys, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru, a phrofion anadl ar gyfer 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Troseddau moduro
Mae'r rhan fwyaf o ystadegau yn y datganiad hwn yn cyfeirio at 2022, gyda rhai yn cyfeirio at 2021. Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) effaith sylweddol ar draffig ffyrdd a chofnododd yr heddlu ddamweiniau ac anafusion ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2020 a 2021 wrth i gyfyngiadau gael eu rhoi ar waith ynghylch sut, ble a pham y gallai unigolion deithio sy'n debygol o fod wedi effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn. Lle bo'n bosibl, rydym wedi cymharu data â'r flwyddyn flaenorol yn ogystal â 2019 i roi syniad o dueddiadau cyn y pandemig.
Hysbysiadau cosb benodedig
- Yn 2022 dyfarnwyd cyfanswm o 69,200 o hysbysiadau cosb benodedig yng Nghymru. Mae hyn yn ostyngiad o 7% o’i gymharu â 2019 a 2021.
- Troseddau yn ymwneud â therfynau cyflymder oedd yn gyfrifol am 83% o’r hysbysiadau cosb benodedig a ddyfarnwyd yn 2022.
- Ers 2012, mae nifer yr hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi’u rhoi yng Nghymru wedi gostwng ar y cyfan o nifer uchel o 112,400.
Achosion llys
- Erlynwyd 59,688 o droseddwyr moduro yng Nghymru yn 2022, sy’n gynnydd o 9% o’i gymharu â 2021 ac sy’n 37% yn uwch na’r nifer yn 2019.
Damweiniau’n gysylltiedig ag yfed a gyrru (data 2021)
- Yn 2021 amcangyfrifwyd bod 7% o’r holl ddamweiniau a gafodd eu cofnodi yn cynnwys o leiaf un gyrrwr yr amharwyd arno gan alcohol.
- Amcangyfrifwyd bod 23% o’r holl anafusion angheuol yn 2021 o ganlyniad i ddamweiniau yn gysylltiedig ag alcohol.
- Cafwyd bod gan 13% o yrwyr cerbyd modur a laddwyd yng Nghymru lefel o alcohol yn eu gwaed a oedd dros y terfyn cyfreithiol.
Profion anadl sgrinio
- Yn 2022, cynhaliwyd 25,011 o brofion anadl yng Nghymru.
- Yn 2022, cafodd 174 o yrwyr a oedd wedi cael damwain ganlyniad prawf anadl positif.
Adroddiadau
Troseddau moduro: 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 620 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.