Cyllidebau Rhaglenni Gwariant y GIG: Ebrill 2021 i Fawrth 2022
Mae'r datganiad blynyddol hwn yn cyflwyno gwariant y GIG yn ôl rhaglen ofal ar sail y cyflwr meddygol y mae'r gwariant yn ymwneud ag ef. Mae hyn yn cynnwys gwariant ar wasanaethau gofal sylfaenol, megis ymarferwyr cyffredinol a deintyddion, ynghyd â gwasanaethau gofal eilaidd, megis ysbytai.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno gwariant y GIG yn ôl rhaglen ofal ar sail y cyflwr meddygol y mae'r gwariant yn ymwneud ag ef. Mae hyn yn cynnwys gwariant ar wasanaethau gofal sylfaenol, megis ymarferwyr cyffredinol a deintyddion, ynghyd â gwasanaethau gofal eilaidd, megis ysbytai.
Mae rhaglenni gofal, h.y. categorïau cyllideb rhaglenni, wedi'u diffinio drwy gyfeirio at godau'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau Fersiwn 10 (ICD 10) (World Health Organization). Mae'r dadansoddiad o'r gwariant yn y cyd-destun hwn yn canolbwyntio ar y claf a'r gofal y mae'n ei gael yn lle darparwr y gofal. Caiff y gwariant ei ddyrannu i gategorïau cyllideb rhaglenni gan ddefnyddio'r wybodaeth orau sydd ar gael. Mae'r gwaith o gyfrifo data cyllidebu rhaglenni yn gymhleth, ac ni ellir dosbarthu pob gweithred neu wasanaeth gofal iechyd yn uniongyrchol i gategori cyllideb rhaglen neu leoliad gofal.
Cyflwynir data gwariant ar brisiau cyfredol ac nid ydynt yn gwneud unrhyw addasiad ar gyfer chwyddiant. Dylid ystyried hyn wrth gymharu data o wahanol flynyddoedd.
Daw'r data o ddatganiadau ar lefel bwrdd iechyd lleol a gafodd eu cyfuno gan Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru (rhan o Gweithrediaeth GIG Cymru).
Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.
Effaith COVID-19
Mae'r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith fawr ar wasanaethau iechyd o flwyddyn ariannol 2020-21 ymlaen. Yn gyffredinol, roedd yr ymateb i'r gwahanol ofynion yn sgil y pandemig yn 2020-21 wedi effeithio ar wariant y GIG, ac roedd y pandemig parhaus a'r gwaith o ailgychwyn gwasanaethau yn dilyn yr amhariad a achoswyd gan y pandemig wedi effeithio ar wariant 2021-22. O ganlyniad i hyn, gwelwyd newidiadau sylweddol o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer sawl categori rhaglen ers dechrau'r pandemig. Mae rhagor fanylion ar effaith COVID-19 ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Prif bwyntiau
- Cyfanswm y gwariant ar gyfer yr holl gategorïau cyllideb rhaglenni oedd £8.8 biliwn neu £2,834 y pen o’r boblogaeth yn 2021-22.
- Cynyddodd cyfanswm y gwariant ychydig dros £460 miliwn neu 5.5% yn 2021-22 o'i gymharu â 2020-21, sef 62.2.% yn uwch na degawd yn ôl.
- Mae cyfanswm y gwariant wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2009-10. Y cynnydd yn 2021-22 oedd y trydydd cynnydd mwyaf ar ôl 2020-21 (14.6%) a 2019-20 (7.0%).
- Problemau iechyd meddwl oedd y categori cyllideb rhaglen mwyaf (ac eithrio Arall), gan gyfrif am 10.9% (£962 miliwn) o gyfanswm y gwariant. Mae'r categori hwn wedi bod y categori cyllideb rhaglen mwyaf ers 2009-10.
- Unigolion iach oedd y categori cyllideb rhaglen â’r cynnydd canrannol mwyaf, gan gynyddu 33.5% ers 2020-21 (£65.3 miliwn).
- Problemau'r system gyhyrsgerbydol (ac eithrio Trawma) oedd y categori cyllideb rhaglen â’r cynnydd ariannol mwyaf, gan gynyddu £70 miliwn (22.9%) ers 2020-21. Fodd bynnag, cafwyd gostyngiad sylweddol yn y categori hwn yn 2020-21 pan oedd y pandemig ar ei anterth.
- Clefydau heintus oedd y categori cyllideb â'r cynnydd mwyaf dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynyddodd £346 miliwn, gan gyfrif am 10.2% o gyfanswm y cynnydd. Roedd y rhan fwyaf o'r cynnydd hwn o ganlyniad i COVID-19, lle roedd gwariant yn 2021-22 yn 3.5 gwaith yn uwch nag yn 2019-20.
- Roedd gwariant y pen o’r boblogaeth ar raglenni clinigol (ac eithrio Arall), yn amrywio o £14.04 ar Broblemau clyw i £309.64 ar Broblemau iechyd meddwl yn 2021-22.
Gwariant y GIG dros amser
Ffigur 1: Cyfanswm gwariant y GIG, 2012-13 i 2021-22 (£ biliwn)
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart cyfres amser yn dangos bod cyfanswm gwariant y GIG wedi cynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd mwy sydyn ers 2019.
Ffynhonnell: Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru
Gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb a blwyddyn ar StatsCymru
Mae cyfanswm gwariant y GIG wedi cynyddu 62.2% (neu £3.4 biliwn) ers 2012-13. Mae gwariant wedi cynyddu'n fwy sydyn o flwyddyn i flwyddyn ers dechrau'r pandemig COVID-19 (7.0% yn 2019-20 a 14.6% yn 2020-21).
Clefydau heintus oedd y categori cyllideb â'r cynnydd mwyaf dros y 10 mlynedd diwethaf. Cynyddodd £346 miliwn, gan gyfrif am 10.2% o gyfanswm y cynnydd. Problemau iechyd meddwl oedd y categori â'r ail gynnydd mwyaf. Cynyddodd £344 miliwn (gan gyfrif am 10.2% o gyfanswm y cynnydd hefyd).
Crynodeb o wariant yn ôl categori cyllideb rhaglen
Ffigur 2: Gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb rhaglen, 2021-22 (£ miliwn)
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod gwariant yn amrywio'n eang rhwng categorïau, gyda gwariant yn y categori mwyaf (ac eithrio Arall), sef Problemau iechyd meddwl, 22 gwaith yn fwy na gwariant yn y categori lleiaf, sef Problemau clyw.
Ffynhonnell: Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru
Gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb a blwyddyn ar StatsCymru
Yn 2021-22, Problemau iechyd meddwl oedd y categori â'r gwariant mwyaf (ac eithrio Arall), gan gyfrif am 10.9% (£962 miliwn) o holl wariant y GIG. Cafodd bron hanner y gwariant ar Broblemau iechyd meddwl ei ddyrannu i'r is-gategori Salwch meddwl cyffredinol. Mae'r categori Problemau iechyd meddwl wedi bod â'r gyfran fwyaf o wariant y GIG ers 2009-10 pan gafodd byrddau iechyd eu haildrefnu. Trawma ac anafiadau (gan gynnwys llosgiadau) oedd yr ail gategori mwyaf, gan gyfrif am 7.8% o holl wariant y GIG (£690 miliwn).
Ar ben y gwariant y gellir ei gategoreiddio yn ôl diagnosis meddygol, mae dau grŵp penodol ar gyfer Unigolion iach ac Anghenion gofal cymdeithasol. Mae'r grwpiau hyn yn nodi costau rhaglenni a gwasanaethau atal sy'n cefnogi unigolion ag anghenion gofal cymdeithasol yn lle anghenion gofal iechyd. Gyda'i gilydd roeddent yn cyfrif am 3.9% o gyfanswm y gwariant yn 2021-22 (£341 miliwn).
Gwariant arall
Ni ellir dosbarthu pob gweithred neu wasanaeth gofal iechyd yn uniongyrchol i gategori cyllideb rhaglen. Lle nad oedd modd dyrannu gweithgaredd yn ôl cyflwr meddygol, gweithgaredd ataliol neu angen gofal cymdeithasol gan ddefnyddio ffynonellau data a methodolegau presennol, dyrannwyd y gwariant i'r categori Arall. Arall yw'r categori mwyaf oll, gan gyfrif am £1.2 biliwn (14.2%) o wariant yn 2021-22. Mae'r gwariant hwn ar wahân i'r rhaglenni clinigol a dylid ei gadw mewn cof wrth ddadansoddi costau darparu rhaglenni gofal.
Gwariant ar Wasanaethau meddygol cyffredinol oedd yr is-grŵp mwyaf yn y categori rhaglen Arall (41.9% o'r holl wariant yn y categori Arall). Roedd 94% o gostau Gwasanaethau meddygol cyffredinol heb ei ddyrannu i gategorïau rhaglenni clinigol. Mae hyn yn golygu nad oedd y mwyafrif helaeth o ofal cleifion a ddarparwyd drwy bractisau cyffredinol wedi ei ddyrannu i'r cyflwr meddygol y rhoddwyd y gofal ar ei gyfer, a bod y gofal hwn wedi ei gofnodi yn y categori Arall yn lle hynny.
Roedd 29% o wariant ar Ofal iechyd parhaus heb ei ddyrannu i gategorïau rhaglenni chwaith, ac roedd y gwariant hwn yn cyfrif am 12.5% o'r gwariant yn y categori Arall. Mae rhagor o wybodaeth am wariant sy'n rhan o'r categori Arall ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Gwariant y GIG 2019-20 i 2021-22
Cafwyd cryn dipyn o amrywiadau yn ystod y flwyddyn a dros y blynyddoedd mewn nifer o raglenni o ganlyniad i effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol y pandemig COVID-19.
Wrth edrych ar gymariaethau cyn y pandemig, roedd y newid mwyaf yn y categori Clefydau heintus. Mae'r newid canrannol ar gyfer Clefydau heintus yn cael ei ddangos ar wahân yn Ffigur 3 fel bod modd gweld newidiadau i gategorïau cyllideb rhaglenni eraill yn haws yn Ffigur 4.
Ffigur 3: Newid canrannol yng ngwariant y GIG ar gyfer categori cyllideb rhaglen Clefydau heintus, 2019-20 i 2021-22
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod gwariant ar gyfer Clefydau heintus wedi cynyddu dros 300% rhwng 2019-20 a gostwng 15.4% yn 2021-22.
Ffynhonnell: Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru
Gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb a blwyddyn ar StatsCymru
Clefydau heintus oedd y categori a gafodd y gostyngiad mwyaf yn 2021-22, lle gostyngodd gwariant £76 miliwn (15.4%) o'i gymharu â 2020-21. Fodd bynnag, roedd y categori hwn wedi cynyddu £373 miliwn (neu 306.6%) yn y flwyddyn flaenorol o ganlyniad i wariant mewn ymateb i'r pandemig. Er bod lefel y gweithgarwch ysbytai acíwt o ganlyniad i driniaethau am COVID-19 yn parhau'n uchel, gostyngodd yn 2021-22 o'i chymharu â 2020-21. Cafodd y gostyngiad yn y gwariant hwn ei wrthbwyso'n rhannol gan fuddsoddiad mwy yn y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu. Roedd y gwariant ar Glefydau heintus yn 2021-22 tua 3.5 gwaith yn uwch nag yn y blynyddoedd cyn y pandemig, a hwn oedd y cynnydd mwyaf o bell ffordd o 2019-20 i 2021-22.
Ffigur 4: Newid canrannol yng ngwariant y GIG yn ôl categori cyllideb rhaglen, 2019-20 i 2021-22
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos y newid canrannol ar gyfer pob categori cyllideb rhaglen (ac eithrio Clefydau heintus) rhwng 2019-20 a 2020-21 a 2020-21 a 2021-22. Mae COVID-19 wedi cael effaith fawr ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn ers 2019-20.
Ffynhonnell: Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru
Gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb a blwyddyn ar StatsCymru
Yn 2021-22, Problemau'r system gyhyrsgerbydol (ac eithrio Trawma) oedd y categori cyllideb rhaglen (ac eithrio Arall) â’r cynnydd ariannol mwyaf, gan gynyddu £70 miliwn (22.9%) o 2020-21. Fodd bynnag, roedd y categori hwn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn flaenorol o ganlyniad i'r ffaith bod llai o weithgarwch oherwydd y pandemig. Gyda'r cynnydd yn 2021-22, roedd gwariant ar gyfer y categori hwn bellach yn agos i lefel y gwariant cyn y pandemig. Roedd y categori Problemau anadlol wedi dilyn patrwm tebyg, gyda gostyngiad blynyddol mawr yn 2020-21, ac wedyn cynnydd cymharol fawr yn 2021-22 o ganlyniad i effeithiau'r pandemig a'r gwaith o adfer gwasanaethau wedyn. Roedd gwariant ar Broblemau anadlol hefyd wedi dychwelyd i fod yn agos i'w lefel cyn y pandemig yn 2021-22.
Cafwyd yr ail gynnydd ariannol mwyaf yn Unigolion iach, a gynyddodd £65 miliwn (33.5%) yn 2021-22. Mae'r cynnydd hwn o ganlyniad yn helaeth i'r buddsoddiad yn y rhaglen Brechu Torfol. Roedd gwariant ar Unigolion iach hefyd wedi cynyddu 33.3% (£49 miliwn) yn 2020-21. O 2019-20 i 2021-22 mae gwariant ar Unigolion iach wedi cynyddu 77.9% (yr ail gynnydd canrannol mwyaf).
Gwelodd categorïau rhaglenni megis Babanod newydd-anedig, Gwenwyniad a Mamolaeth ac iechyd atgenhedlol ostyngiadau mewn gwariant yn 2021-22 o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd gwariant yn y categorïau hyn wedi cynyddu yn 2020-21 o ganlyniad i ragor o weithgarwch neu gostau uwch am wahanol resymau. Ar y cyfan, roedd gwariant yn y categorïau hyn yn uwch yn 2021-22 nag yn 2019-20.
O edrych ar draws 2019-20 i 2021-22, heblaw Clefydau heintus, cafwyd y cynnydd ariannol mwyaf ar gyfer categorïau clinigol ym maes Problemau iechyd meddwl a Thrawma ac anafiadau (gan gynnwys llosgiadau) lle roedd gwariant wedi cynyddu ychydig dros £150 miliwn ym mhob categori. Cafwyd cynnydd mawr tebyg yn y ddau gategori yn 2020-21, ac wedyn cynnydd mwy cymedrol yn 2021-22. Gwelwyd y cynnydd ariannol mwyaf yn y categorïau hyn rhwng 2018-19 a 2019-20 hefyd (ac eithrio Arall).
Gwariant yn ôl comisiynydd
Gellir dadansoddi gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb rhaglen a chomisiynydd hefyd. Mae byrddau iechyd lleol yn cyllido gwasanaethau a gomisiynir sy'n cael eu darparu gan ymarferwyr gofal sylfaenol megis ymarferwyr cyffredinol a deintyddion, sydd fel arfer y pwynt cyswllt cyntaf â'r GIG ar gyfer y claf, yn ogystal â gwasanaethau gofal eilaidd megis triniaeth ysbyty. Caiff y rhain eu darparu fel arfer ar ôl i'r claf gael ei atgyfeirio gan ei ddarparwr gofal sylfaenol. Mae cyfanswm gwariant byrddau iechyd lleol yn cynnwys swm bach o wariant gofal arall na ellir ei ddosbarthu i naill ai gofal sylfaenol na gofal eilaidd, er enghraifft, taliadau i ddarparwyr eraill, megis elusennau.
Ffigur 5: Gwariant y GIG yn ôl comisiynydd, 2012-13 i 2021-22
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos bod tua thri chwarter o wariant y GIG yn ymwneud â gofal eilaidd byrddau iechyd lleol.
Ffynhonnell: Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru
Gwariant y GIG yn ôl categori cyllideb a blwyddyn ar StatsCymru
Yn 2021-22, fel mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrifir am y rhan fwyaf o wariant yn y sector gofal eilaidd (77.7% neu £6.8 biliwn). Mae cyfran y gwariant ar gyfer gofal eilaidd wedi cynyddu dros amser ac mae cyfran y gwariant ar gyfer gofal sylfaenol wedi gostwng. Mae gwariant ar gyfer gofal Arall wedi aros tua 2% o'r cyfanswm.
Cafodd y gyfran fwyaf o wariant gofal eilaidd ei dyrannu i Broblemau iechyd meddwl (13.1%).
Cafodd bron traean (29.5%) y gwariant gofal sylfaenol ei ddyrannu i'r is-gategori Arall: Gwasanaethau meddygol cyffredinol. Felly nid oedd modd dyrannu cyfran fawr o'r gwariant gofal sylfaenol i gategori clinigol penodol. Problemau endocrin, maethol a metabolaidd (11.7%) a Phroblemau deintyddol (10.9%) oedd y categorïau clinigol penodol â'r gwariant gofal sylfaenol mwyaf.
Roedd bron hanner (45.5%) y gwariant yn y categori Arall yn ymwneud ag Arall: Swyddogaethau eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwariant yn ôl bwrdd iechyd lleol
Caiff ffigurau ariannol eu casglu o’r holl fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru. Mae'r holl wariant ar drigolion Cymru wedi ei gynnwys yn y datganiad hwn, gan gynnwys gwariant ar wasanaethau a ariennir gan fyrddau iechyd lleol Cymru ac a ddarperir gan y GIG a darparwyr gofal iechyd preifat, yng Nghymru ac y tu allan iddi.
Yn 2021-22, ar lefel y bwrdd iechyd lleol, roedd gwariant y GIG yn amrywio o £391 miliwn ym Mhowys i £1.9 biliwn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Yn debyg i'r sefyllfa genedlaethol, y categori cyllideb rhaglen mwyaf (ac eithrio Arall) i bob bwrdd iechyd lleol oedd Problemau iechyd meddwl. Y categori cyllideb rhaglen lleiaf oedd Problemau clyw, ac eithrio ym Mae Abertawe lle mai Babanod newydd-anedig oedd y categori lleiaf, a Powys lle mai Anghenion gofal cymdeithasol oedd y categori lleiaf.
O’i gymharu â 2020-21, cynyddodd gwariant tua 5.0% ar gyfer yr holl fyrddau iechyd lleol ac eithrio Aneurin Bevan a Phowys, a gynyddodd 7.8% a 7.7% yn eu trefn.
Ffigur 6: Gwariant y GIG y pen o'r boblogaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol, 2021-22
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos bod gwariant y pen o'r boblogaeth yn amrywio rhwng £2,615 y pen yng Nghaerdydd a'r Fro i £2,949 ym Mae Abertawe yn 2021-22.
Ffynhonnell: Uned Cyflawni Ariannol GIG Cymru
Gwariant y GIG y pen fesul categori cyllideb a blwyddyn ar StatsCymru
Yn 2021-22, ar lefel y bwrdd iechyd lleol, roedd gwariant y GIG y pen yn amrywio o £2,615 yng Nghaerdydd a'r Fro i £2,949 ym Mae Abertawe.
O'i gymharu â 2020-21, cynyddodd gwariant y pen ym mhob bwrdd iechyd, gan amrywio o 6.1% ym mwrdd iechyd Hywel Dda i 9.6% ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Caiff data gwariant eu cyfrifo ar sail datganiadau cyllidebu rhaglenni byrddau iechyd lleol ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Defnyddiwyd Amcangyfrifon Poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) er mwyn cyfrifo gwariant y pen o'r boblogaeth. Defnyddiwyd yr amcangyfrif canol blwyddyn ar gyfer 2021 fel enwadur ar gyfer gwariant 2021-22.
Mae'r canrannau yn y datganiad hwn wedi eu talgrynnu i'r 0.1 agosaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Y nodau hynny yw creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r dangosyddion a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.