Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.
Cynnwys
Sut i dynnu ffotograffau â geotag
Am fanylion llawn:
- beth yw ffotograff â geotag, a
- sut i gymryd un
gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag.
Gofynion Grantiau Bach – Creu Coetir
Bydd angen tynnu ffotograffau cyn ac ar ôl i chi wneud eich gwaith cyfalaf Grantiau Bach – Creu Coetir. Rhaid gofalu bod geotag ar bob ffotograff.
Rhaid tynnu’r ffotograffau ar ôl i’r contract gael ei lofnodi. Rhaid iddynt ddangos yn glir y sefyllfa yn y lleoliad dan sylw cyn i’r gwaith ddechrau. Efallai y bydd angen mwy nag un ffotograff i ddangos y safle yn ei gyfanrwydd.
Dylech dynnu’r ffotograffau ‘ar ôl’ yn yr un mannau a dangos y gwaith cyfalaf yn glir.
Efallai y bydd angen mwy nag un ffotograff i ddangos bod y gwaith wedi’i wneud.
Bydd angen ffotograffau â geotag hefyd o eitemau gwaith cyfalaf ategol y byddwch newydd eu gosod, fel gatiau neu ffensys.
Does dim gwahaniaeth p’un a yw’r lluniau’n rhai ‘portrait’ neu ‘landscape’, cyn belled â’ch bod yn gallu gweld yr holl wybodaeth berthnasol.
Eich cyfrifoldeb chi yw dangos digon o dystiolaeth i brofi bod y gwaith rheoli neu’r buddsoddiad wedi’i wneud. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.
Lle medrir, dylai’r ffotograffau gynnwys hefyd:
- Nodwedd amlwg i gadarnhau’r lleoliad. Er enghraifft, ffos, ffens, adeilad fferm, heol neu bolyn telegraff.
- Polyn anelu (2m o uchder gyda bandiau 50cm o ddyfnder mewn coch a gwyn) neu rywbeth arall i ddangos graddfa. Er enghraifft, beic cwad neu gerbyd
Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Byddyn ni’n cadarnhau bod y gwaith cyfalaf wedi’i wneud yn y man cywir fel a nodir yn y contract.
Help a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.