Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllun Grantiau Bach – Effeithiolrwydd.
Cynnwys
Sut i dynnu ffotograffau â geotag
Am fanylion llawn:
- beth yw ffotograff â geotag, a
- sut i gymryd un
gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag.
Gofynion Grantiau Bach – Effeithiolrwydd
Wrth hawlio taliad, dylech gyflwyno’r ffotograffau â geotag canlynol:
- yr eitem yn ei lle, ac yn gweithio
- rhif cyfresol os oes un
Ar gyfer eitemau fel tyllau turio, dylech dynnu ffotograff â geotag ohono’n cael ei osod.
Bydd angen i ffotograffau ddangos lleoliad yr eitem yn glir.
Os na fydd eich ffotograffau’n dangos yr eitem yn glir, efallai y caiff eich hawliad ei wrthod.
Eich cyfrifoldeb chi yw dangos digon o dystiolaeth i brofi bod yr eitem gafodd ei phrynu yn cyfateb i’r fanyleb. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.
Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Byddwn ni'n cadarnhau bod yr eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich contract yn bodloni'r fanyleb ofynnol. Mae hyn er mwyn dilysu eich cais.
Help a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.