Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Ap GIG Cymru newydd yn ganolog wrth alluogi pobl i ymgysylltu’n ddigidol â’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae’r ap wedi mynd drwy brofion beta preifat yn llwyddiannus, a oedd yn cynnwys 700 o bobl o 10 o feddygfeydd teulu ledled Cymru, a heddiw bydd profion beta cyhoeddus yn dechrau.
Roedd yr adborth a gafwyd o gyfnod cyntaf y profion beta yn gadarnhaol a helpodd ni i ganfod sawl byg bach, sydd eisoes wedi cael eu datrys. Mae’r cynnwys hefyd wedi cael ei wella.
Wrth inni symud ymlaen at brofion beta cyhoeddus, bydd fersiwn o Ap GIG Cymru’n cael ei gyhoeddi ar siop apiau Apple a Google er mwyn ei lawrlwytho. Bydd hefyd ar gael ar Ap GIG Cymru (Cymraeg) ac NHS Wales App website (English). Nid hwn yw fersiwn terfynol yr ap – bydd tîm Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd, sy’n datblygu’r ap, yn rhyddhau swyddogaethau wrth ei ddatblygu. Bydd hefyd ffordd i ddefnyddwyr roi adborth er mwyn helpu’r tîm i barhau i wella’r ap.
Bydd rhai o swyddogaethau’r ap, megis mynediad mewnol at 111 a gwasanaethau ar-lein ar gyfer rhoi organau ar gael i bawb, ond bydd swyddogaethau eraill, megis gwneud apwyntiad, ail-archebu presgripsiynau rheolaidd, a gweld crynodeb o gofnod iechyd meddygfa deulu, ar gael yn ddiweddarach yn unig, unwaith y bydd meddygfa’r unigolyn wedi galluogi’r swyddogaeth honno. Mae’r tîm Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd yn gweithio gyda meddygfeydd ar draws Cymru er mwyn eu helpu i reoli’r newid hwn dros y misoedd nesaf.
Nid yw Ap GIG Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yn unig, rydym yn datblygu swyddogaethau er mwyn helpu pobl i reoli gofal a gynlluniwyd ac ar gyfer lleoliadau iechyd eraill. Hoffem i’r Ap fod yn un drws digidol sy’n eich arwain at bob gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Senedd unwaith i’r profion beta cyhoeddus ddechrau.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.