Canllawiau ar gyfer rheoli heintiau anadlol acíwt mewn gofal cymdeithasol
Mae’r cyngor hwn yn ymdrin â’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE), y canllawiau profi ac ynysu a’r canllawiau ymweld.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol er mwyn diogelu pobl rhag heintiau. Mae arferion atal a rheoli heintiau yn helpu i ddiogelu’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, a’r staff, rhag Heintiau Anadlol Acíwt (ARI).
Mae heintiau anadlol acíwt yn cynnwys anhwylderau megis COVID-19, y ffliw, a feirws syncytiol anadlol (RSV).
Bydd rhai mesurau diogelu ac arferion da yn parhau i gael eu cynghori pan fo symptomau haint anadlol acíwt yn bresennol, ond rydym yn annog darparwyr gofal i sicrhau normalrwydd mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill ac ym mywydau’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt.
Mae’n bwysig ein bod i gyd yn cofio mai cartref y person yw'r cartref gofal ac nid amgylchedd clinigol. Am y rheswm hwn, bydd yna bob amser rywfaint o risg gynhenid o gael haint. Er ein bod yn ymdrechu i atal y risg hon, rydym hefyd yn cydnabod bod pobl ag anghenion gofal a chymorth yn agored i niwed, ac mae’n rhaid i’r camau a gymerir ystyried y niweidiau ehangach.
Os oes risg o drosglwyddadwyedd a difrifoldeb uwch o ganlyniad i amrywiolion mwy ffyrnig o Heintiau Anadlol Acíwt, bydd mesurau rhagofalus yn cael eu hystyried a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Gall y rhain gynnwys:
- sicrwydd bod mesurau atal a rheoli heintiau ar waith yn ôl y lefel o risg a trosglwyddadwyedd
- mwy o brofion wedi’u targedu
- addasu cynlluniau brechu
- cyflwyno canllawiau cryfach i’r cyhoedd ar fesurau y gallant eu cymryd i’w diogelu eu hunain ac eraill
Mae’r canllawiau hyn wedi’u seilio ar y canllawiau blaenorol a gyhoeddwyd ers y pandemig, yn ogystal â’r Fframwaith Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Feirysau Anadlol.
Rheoli heintiau anadlol acíwt: cyngor i staff
Rydym yn cynghori gweithwyr gofal cymdeithasol sydd â symptomau haint anadlol neu dymheredd uchel i aros gartref os ydynt yn gweithio yn agos gyda defnyddwyr gwasanaethau fel arfer. Dylent hefyd ddweud wrth eu cyflogwr cyn gynted â phosibl.
Pan fyddant yn teimlo’n well neu nad oes ganddynt dymheredd uchel a’u bod yn barod i ddychwelyd i'r gwaith, mae’n bosibl y bydd gweithwyr am drafod unrhyw bryderon neu ffyrdd o leihau unrhyw risg o drosglwyddiad pellach â’u cyflogwr.
Dylai gweithwyr hefyd drafod ffyrdd o leihau trosglwyddo heintiau â’u rheolwr llinell os ydynt yn rhannu aelwyd neu’n cael cyswllt dros nos â rhywun sydd wedi cael canlyniad prawf positif neu sydd â symptomau feirws anadlol.
Rydym yn annog staff gofal cymdeithasol i fanteisio ar y cynnig o frechlynnau i ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt rhag heintiau.
Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach yn Fframwaith Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Feirysau Anadlol ac yn y cyngor ar feirysau anadlol, gan gynnwys COVID-19, i staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac ysgolion arbennig.
Pan nad oes heintiau anadlol mewn cartrefi gofal i oedolion neu yng nghartrefi pobl sy'n derbyn gofal cartref
Profion i weithwyr gofal cymdeithasol a phobl sy’n derbyn gofal
Nid argymhellir profi gweithwyr gofal cymdeithasol na phobl sy’n derbyn gofal heb symptomau.
Gofynion PPE
Dylai PPE fodloni gofynion Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru, sy'n nodi defnyddio Rhagofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau (SICPs). Mae hefyd yn trafod rhoi Rhagofalon ar Sail Trosglwyddo (TBPs) ar waith.
Mae ffynonellau haint posibl yn cynnwys:
- gwaed a hylifau eraill y corff
- secretiadau a charthion (heb gynnwys chwys)
- toriadau yn y croen neu bilen fwcaidd
- unrhyw offer neu eitemau yn yr amgylchedd gofal a all fod wedi’i halogi a hyd yn oed yr amgylchedd ei hun os nad yw wedi’i lanhau neu ei gynnal a’i gadw’n briodol
Mae defnyddio Rhagofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau wrth ddarparu gofal wedi’i bennu gan asesiad risg i unigolion a chan unigolion ac mae’n cynnwys y dasg, lefel y rhyngweithio a/neu i ba raddau y rhagwelir y bydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu hylifau eraill y corff.
Dylai staff gadw at arferion hylendid dwylo da, a gwisgo’r cyfarpar diogelu personol priodol yn unol â chanllawiau NIPCM (e.e. menig a ffedogau) wrth ddarparu gofal personol agos, er enghraifft os byddant yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu hylif y corff. Dylid gwisgo amddiffyniad llygaid neu wyneb os rhagwelir y gall gwaed a/neu hylif y corff ddod i gysylltiad â'r llygaid neu wyneb.
Nid yw'n ofynnol i bobl sy’n derbyn gofal cartref wisgo masg.
Mae’r cyngor presennol ar PPE ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ymweld â chartrefi gofal
Dylai trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl.
Er y gallai ymwelwyr gael cynnig PPE os ydynt yn rhoi gofal personol i’w perthynas, nid yw'n ofynnol iddynt wisgo masg oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.
Gofynnir i bobl beidio ag ymweld â chartref gofal:
- os oes ganddynt symptomau haint anadlol neu unrhyw haint arall (gan gynnwys dolur rhydd)
- os oes ganddynt dymheredd uchel
- os nad ydynt yn teimlo'n ddigon da i fynd i'r gwaith
- os oes rhywun yn eu cartref wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif yn ystod y 10 diwrnod diwethaf
Symptomau haint anadlol acíwt mewn 1 unigolyn mewn cartref gofal neu yng nghartrefi pobl sy'n derbyn gofal cartref
Profion i weithwyr gofal cymdeithasol a phobl sy’n derbyn gofal
Gellir profi pobl sydd â symptomau os ydynt yn gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol. Mae rhagor o wybodaeth am driniaethau gwrthfeirol ar gyfer COVID-19.
Fel rheol, nid argymhellir profi staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd â symptomau, oni bai eu bod yn bersonol agored i niwed ac y byddai triniaeth wrthfeirol yn briodol. Dylid atal staff sydd â symptomau o’u gwaith yn seiliedig ar eu symptomau a dilyn ein canllawiau. Gellir defnyddio profion hefyd fel rhan o’r ymdrech i reoli achosion lluosog penodol.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein fframwaith profi cleifion.
Ynysu
Pan fo pobl wedi cael canlyniad prawf positif am haint anadlol acíwt, dylid cadw at y cyngor ar gyfnodau ynysu sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dylid arfer disgresiwn lleol o ran penderfynu estyn cyfnodau ynysu neu brofi er mwyn dod â chyfnodau ynysu y rhai sydd ag imiwnedd gwan i ben.
Gofynion PPE
Dylai PPE a ddefnyddir fodloni gofynion Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru. Mae’r llawlyfr yn cynnwys canllawiau ar Ragofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau (SICPs). Mae hefyd yn trafod y Rhagofalon ar Sail Trosglwyddo (TBPs).
Mae ffynonellau haint posibl yn cynnwys:
- gwaed a hylifau eraill y corff
- secretiadau a charthion (heb gynnwys chwys)
- toriadau yn y croen neu bilen fwcaidd
- unrhyw offer neu eitemau yn yr amgylchedd gofal a all fod wedi’i halogi a hyd yn oed yr amgylchedd ei hun os nad yw wedi’i lanhau neu ei gynnal a’i gadw’n briodol
Mae defnyddio Rhagofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau wrth ddarparu gofal wedi’i bennu gan asesiad risg i unigolion a chan unigolion ac mae’n cynnwys y dasg, lefel y rhyngweithio a/neu i ba raddau y rhagwelir y bydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu hylifau eraill y corff.
Dylai gweithwyr gofal cymdeithasol gadw at arferion hylendid dwylo da, a gwisgo’r cyfarpar diogelu personol priodol yn unol â chanllawiau NIPCM (e.e. menig a ffedogau) wrth ddarparu gofal personol agos, er enghraifft os byddant yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu hylif y corff. Dylid gwisgo amddiffyniad llygaid neu wyneb os rhagwelir y gall gwaed a/neu hylif y corff ddod i gysylltiad â'r llygaid neu wyneb.
Dylai gweithwyr gofal cymdeithasol wisgo masg llawfeddygol sy'n gwrthsefyll hylif os ydynt o fewn 2 fetr i'r unigolyn â symptomau.
Nid yw'n ofynnol i breswylwyr na staff heb symptomau a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â'r unigolyn â symptomau wisgo masg.
Ymweld â chartrefi gofal
Pan nad oes brigiad o achosion yn y cartref gofal, dylai ymwelwyr gael eu croesawu, eu hannog a’u galluogi i ymweld. Dylai trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl. Er y gallai ymwelwyr gael cynnig PPE, nid yw'n ofynnol iddynt wisgo masg oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.
Gofynnir i bobl beidio ag ymweld â chartref gofal:
- os oes ganddynt symptomau haint anadlol neu unrhyw haint arall (gan gynnwys dolur rhydd)
- os oes ganddynt wres uchel
- os nad ydynt yn teimlo'n ddigon da i fynd i’r gwaith
- os oes rhywun yn eu cartref wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif yn ystod y 10 diwrnod diwethaf
Pan fo 2 neu ragor o unigolion mewn cartref gofal wedi datblygu symptomau haint anadlol acíwt
Profion i weithwyr gofal cymdeithasol a phreswylwyr
Dylid profi preswylwyr sydd â symptomau fel rhan o’r ymdrech i atal a rheoli heintiau yn ystod brigiad o achosion. Os ydynt yn gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol, dylent gael prawf i benderfynu pa driniaeth sy’n addas. Tîm Diogelu Iechyd y Bwrdd Iechyd, ynghyd â thîm AWARe Iechyd Cyhoeddus Cymru fydd yn trefnu’r prawf.
Fel rheol, nid argymhellir profi staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd â symptomau, oni bai eu bod yn bersonol agored i niwed ac y byddai triniaeth wrthfeirol yn briodol. Dylid atal staff sydd â symptomau o’u gwaith yn seiliedig ar eu symptomau a dilyn ein canllawiau cyngor i staff iechyd a gofal ar feirysau anadlol.
Pan fo 2 berson neu ragor â symptomau, dylid eu profi â phrawf PCR amlddadansoddiad i sefydlu pa feirws sy’n mynd ar led. Dylid trefnu hyn drwy’r bwrdd iechyd lleol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein fframwaith profi cleifion.
Ynysu
Dylai pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, a sydd â symptomau, ynysu gyda’i gilydd pan fo hynny’n bosibl nes bydd y symptomau wedi gwella.
Pan fo pobl wedi cael canlyniad prawf positif am haint anadlol acíwt, dylid cadw at y cyngor ar gyfnodau ynysu sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dylid arfer disgresiwn lleol o ran penderfynu estyn cyfnodau ynysu neu brofi er mwyn dod â chyfnodau ynysu y rhai sydd ag imiwnedd gwan i ben.
Gofynion PPE
Dylai PPE a ddefnyddir fodloni gofynion Llawlyfr Atal Heintiau Cenedlaethol Cymru. Mae’r llawlyfr yn cynnwys canllawiau ar Ragofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau (SICPs). Mae hefyd yn trafod y Rhagofalon ar Sail Trosglwyddo (TBPs).
Y mesurau atal a rheoli heintiau sylfaenol sydd eu hangen i leihau trosglwyddiad haint rhwng ffynonellau yw Rhagofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau.
Mae ffynonellau haint posibl yn cynnwys:
- gwaed a hylifau eraill y corff
- secretiadau a charthion (heb gynnwys chwys)
- toriadau yn y croen neu bilen fwcaidd
- unrhyw offer neu eitemau yn yr amgylchedd gofal a all fod wedi’i halogi a hyd yn oed yr amgylchedd ei hun os nad yw wedi’i lanhau neu ei gynnal a’i gadw’n briodol
Mae defnyddio Rhagofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau wrth ddarparu gofal wedi’i bennu gan asesiad risg i unigolion a chan unigolion ac mae’n cynnwys y dasg, lefel y rhyngweithio a/neu i ba raddau y rhagwelir y bydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu hylifau eraill y corff.
Wrth ddarparu gofal personol agos i bobl â symptomau, dylech wisgo:
- menig
- ffedogau
- masgiau llawfeddygol sy'n gwrthsefyll hylif
Dylech wisgo amddiffyniad llygaid neu wyneb os bydd halogiad gwaed a/neu hylif y corff i'r llygaid neu wyneb yn cael ei rag-weld neu’n debygol.
Dylai’r holl staff wisgo masgiau llawfeddygol sy'n gwrthsefyll hylif pan fydd trosglwyddiad clwstwr hysbys o haint anadlol neu glwstwr a amheuir.
Nid yw'n ofynnol i breswylwyr heb symptomau wisgo masg wyneb, ond efallai y byddant yn dewis gwneud hynny drwy ddewis personol. Er hynny, mewn rhai lleoliadau pan fo pobl yn wynebu risg uchel o gael eu heintio am fod ganddynt imiwnedd gwan, gellid annog pobl nad ydynt yn heintus i wisgo masg wyneb.
Dylid cynorthwyo pobl sy’n ynysu neu wedi’u carfannu i wisgo masg wyneb pan fydd pobl eraill yn yr ystafell, os yw’n bosibl.
Ymweld â chartrefi gofal
Dylai trefniadau ymweld barhau i fod mor agored a hyblyg â phosibl yn ystod brigiad o achosion neu achos lluosog. Dylech barhau i hwyluso ymweliadau. Dim ond ar ôl cynnal asesiad risg y dylech weithredu cyfyngiadau o ran ymweld. Fan leiaf, caiff ymwelwyr hanfodol barhau i ymweld yn ystod brigiad o achosion/achos lluosog.
Caiff preswylwyr enwebu dau ymwelydd hanfodol. Mae hyn er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd heb gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r cartref yn sylweddol yn ystod brigiad o achosion. Cânt ymweld ar wahân neu ar yr un pryd.
Yn ystod brigiad o achosion gallai ymwelwyr gael eu cynghori i wisgo PPE, gan gynnwys masgiau, i’w helpu i ddiogelu eraill.
Gofynnir i bobl beidio ag ymweld â chartref gofal:
- os oes ganddynt symptomau haint anadlol neu unrhyw haint arall (gan gynnwys dolur rhydd)
- os oes ganddynt wres uchel
- os nad ydynt yn teimlo'n ddigon da i fynd i’r gwaith
- os oes rhywun yn eu cartref wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif yn ystod y 10 diwrnod diwethaf
Datgan brigiad o achosion
Dylid datgan achos lluosog/brigiad o achosion os daw dau neu ragor o achosion o haint anadlol i’r amlwg ymhlith cleifion neu staff o fewn lleoliad penodol lle yr amheuir:
- haint nosocomiaidd
- trosglwyddo parhaus
Mae gwybodaeth bellach am adrodd am achosion ar gael ar dudalen Iechyd Cyhoeddus Cymru ar heintiau mewn lleoliadau gofal a preswyl. Gweler hefyd adran 5 o dudalen Iechyd Cyhoeddus Cymru ar atal a rheoli heintiau.
Er mwyn gallu datgan bod brigiadau o achosion wedi dod i ben, ni ellir cael unrhyw achosion newydd symptomatig neu achosion o haint anadlol acíwt wedi’u cadarnhau sy’n gysylltiedig â’r brigiad o achosion am gyfnod o 14 o ddiwrnodau.
Derbyniadau newydd i gartrefi gofal
Ar hyn o bryd, nid argymhellir profi cleifion cyn eu derbyn i gartrefi gofal gan fod y risg o gyflwyno haint anadlol acíwt i leoliadau o’r fath wedi’i lleihau’n sylweddol yn sgil cyfraddau imiwneiddio uchel.