Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwyf wedi rhoi caniatâd ffurfiol i Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig osod Rheoliadau REACH (Diwygio) 2023 yn Senedd y DU. Mae'r offeryn statudol hwn yn ymestyn y terfynau amser trosiannol ar gyfer cofrestru cemegau presennol gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gan fusnesau Prydain Fawr yn dilyn Gadael yr UE, o dair blynedd. Pwrpas yr estyniad hwn yw galluogi adolygu a diweddaru y rheolau ar gofrestru, er mwyn lleihau'r costau i fusnesau a darparu data mwy defnyddiol i reoleiddwyr Prydain. Mae'r terfynau amser ar gyfer gwirio coflenni cofrestru gan yr HSE hefyd yn cael eu hymestyn.
Gwneir y Rheoliadau hyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 140 o Ddeddf yr Amgylchedd 2021, a pharagraff 1 o Atodlen 21 i Ddeddf yr Amgylchedd 2021. Dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol all arfer y pwerau hyn o wneud rheoliadau i ddiwygio Rheoliadau REACH ac ni all Gweinidogion Cymru na'r Alban eu harfer ar wahân. Fodd bynnag, yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 21 i Ddeddf yr Amgylchedd 2021 ac Erthygl 4 o Reoliad REACH, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru os, ac i’r graddau, y bydd arfer y swyddogaeth gwneud rheoliadau o fewn cymhwysedd datganoledig (o fewn ystyr adran 58A(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn a'r rhesymau drostynt yn y ddogfen canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus ar gov.uk.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.