Nam datblygiadol cynnar neu anabledd deallusol (WHC/2023/03)
Canllawiau i bediatryddion i gefnogi penderfyniadau clinigol ynghylch pryderon datblygiadol cynnar.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cychlythyr iechyd Cymru
Dyddiad cyhoeddi:
4 Ebril 2023
Statws:
Gweithredu
Categori:
Ansawdd a diogelwch
Teitl:
Canllawiau ar gyfer ymchwilio i nam datblygiadol neu anabledd deallusol cynnar cymedrol neu ddifrifol (EDI/ID)
Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:
01 Mai 2025
I’w weithredu gan:
Bob bwrdd iechyd.
Angen gweithredu erbyn:
Ebrill 2023
Anfonwr:
Dr Heather Payne, Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Iechyd Menywod a Phlant.
Enwau cyswllt GIGC Llywodraeth Cymru:
Nyrsio ac Ansawdd
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ.
E-bost:
Amgaeëdigion:
'Guideline for the investigation of moderate or severe early developmental Impairment and intellectual disability' (Saesneg yn unig).
Cynnwys
- Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu canllawiau clinigol ar gyfer ymchwilio i nam datblygiadol neu anabledd deallusol cynnar cymedrol neu ddifrifol (EDI/ID) mewn plant. Fe’u darperir ar gyfer pediatregwyr sy’n asesu plant a phobl ifanc sydd wedi eu hatgyfeirio oherwydd pryderon am ddatblygiad cynnar, er mwyn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau clinigol. Mae’r canllawiau’n sefydlu llinell sylfaen ar gyfer arferion ar draws Cymru gyfan er mwyn sicrhau bod mynediad teg at ddiagnosis amserol, lle bynnag y bo plentyn yn byw.
- Rhwydwaith Cymru gyfan ar gyfer Iechyd Cymunedol Plant, sy’n cael ei arwain yn y gwaith hwn gan Dr Bethan McMinn a’i gefnogi gan Grŵp Gweithredu Cymru ar gyfer Clefydau Prin, sydd wedi cynhyrchu’r ddogfen ganllaw yn seiliedig ar y gronfa dystiolaeth sydd wedi ei chyhoeddi a chonsensws proffesiynol. Mae’r ddogfen hon yn disodli unrhyw ganllawiau blaenorol ar gyfer ymchwilio i nam datblygiadol neu anabledd deallusol cynnar (EDI/ID).
- Nod y canllawiau yw amlinellu dull gweithredu cyson i’w ddefnyddio ar draws Cymru gyfan, er mwyn adnabod plant a phobl ifanc y mae ganddynt EDI/ID cymedrol neu ddifrifol, drwy ddarparu asesiadau ac ymchwiliadau clinigol.
- Mae’r canllawiau’n darparu dull gweithredu sydd wedi ei safoni ar gyfer profion diagnostig (gan gynnwys rhai genomic), er mwyn lleihau’r daith ddiagnostig a hwyluso’r gwaith o ddarparu cynnyrch diagnostig. Bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau effeithlonrwydd a thegwch o ran mynediad, er mwyn nodi unrhyw achosion y gellid eu trin a hefyd nodi unrhyw nodweddion clinigol neu ‘fflagiau coch’ a fyddai’n dangos bod angen mwy o brofion arbenigol neu brofion a dargedir.
- Yn Nhabl 1, mae’r canllawiau’n nodi’r ymchwiliadau llinell gyntaf a argymhellir ar gyfer plant sydd ag EDI/ID arunig cymedrol neu ddifrifol. Mae cynnwys technegau profi genetig mwy diweddar wedi cynyddu’r cynnyrch diagnostig, ond rhaid nodi bod angen cydsyniad penodol ar gyfer y profion hyn. Mae taflenni gwybodaeth dwyieithog i rieni wedi eu cynnwys gyda’r canllawiau.
- Gallai fod angen ymchwiliadau ail linell os bydd ansicrwydd yn parhau. Mae’r rhain yn cael eu hargymell yn ôl disgresiwn clinigol, a allai argymell ailadrodd asesiad neu ddull gweithredu’n seiliedig ar ‘gwylio ac aros’. Gellid ceisio cyngor arbenigol ychwanegol o faes geneteg feddygol.
- Mae atodiadau’r canllawiau’n cynnwys siart lif gryno, tabl ar gyfer nodweddion clinigol sy’n ychwanegol at EDI/ID a allai sbarduno cynnal profion a dargedir, a thabl i grynhoi’r canlyniadau.
- Dylai’r canllawiau gael eu gweithredu cyn gynted â phosibl er mwyn darparu gwasanaethau o’r ansawdd gorau i blant sydd ag EDI/ID. Dylai rhwydweithiau clinigol archwilio amseroldeb diagnostig a boddhad cleifion.
Dolen i'r 'Guideline for the investigation of moderate or severe early developmental Impairment and intellectual disability' (Saesneg yn unig).