Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pwyllgor cynghori arbenigol annibynnol yw’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Mae’n cynghori adrannau iechyd y Deyrnas Unedig ynghylch imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.
Er bod lefel uchel o imiwnedd cryf wedi datblygu yn y boblogaeth dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae’r risg o salwch difrifol yn sgil Covid-19 yn parhau i fod yn anghymesur o uchel ar gyfer pobl mewn grwpiau oedran hŷn; preswylwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, a phobl â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes. Mae ansicrwydd yn parhau o ran a fydd y feirws yn esblygu ac yn newid ac, os felly, sut; pa mor hir y bydd imiwnedd yn para, ac epidemioleg heintiau.
Ar 6 Rhagfyr 2022, cymeradwyodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) y brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech ar gyfer plant rhwng chwe mis a phedair blwydd oed. Mae’r JCVI wedi cwrdd i adolygu data diweddar sy’n gysylltiedig â threialon brechlynnau pediatrig Covid-19; gwyliadwriaeth diogelwch brechlynnau pediatrig Covid-19 yn yr Unol Daleithiau, ac epidemioleg Covid-19 yn y DU mewn plant rhwng chwe mis a phedair blwydd oed.
Wrth lunio’r cyngor yn ymwneud ag imiwneiddio plant, mae’r JCVI wedi nodi’n gyson y dylid canolbwyntio ar y manteision a’r niweidiau posibl sy’n gysylltiedig â brechu i blant a phobl ifanc eu hunain, gan sicrhau mai atal plant a phobl ifanc rhag cael Covid-19 difrifol (mynd i’r ysbyty a marwolaethau) yw’r prif nod. Drwy gydol y pandemig, mae astudiaethau wedi dangos bod plant yn llawer llai tebygol o gael Covid-19 difrifol o gymharu ag oedolion. Ar gyfer y rhan fwyaf o blant, caiff haint SARS-CoV-2 ei gysylltu â symptomau ysgafn, neu dim symptomau o gwbl.
Fodd bynnag, ar gyfer cyfran lai o blant â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, mae’r risg o salwch difrifol yn uwch. Mae’r tebygolrwydd o fynd i unedau gofal dwys pediatrig gyda Covid-19 difrifol dros saith gwaith yn fwy ar gyfer babanod a phlant ifanc â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes, o gymharu â phlant eraill.
Felly, cyngor y JCVI yw:
Ar gyfer plant rhwng chwe mis a phedair blwydd oed sydd mewn grŵp risg clinigol (fel y’i diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd), dylid cynnig dau ddos 3-microgram o frechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech (Comirnaty®) gyda chyfnod o o leiaf wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a’r ail ddos. Dylid aros o leiaf pedair wythnos ar ôl cael haint SARS-CoV-2 diweddar, cyn cael dos o’r brechlyn.
Mae GIG Cymru wedi bod yn ystyried trefniadau ar gyfer brechu’r grŵp hwn o blant a bydd rhagor o wybodaeth ar gael i rieni plant cymwys. Cânt wahoddiad i ddod am frechiad.
Ochr yn ochr â’m cymheiriaid yn y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor hwn, ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r GIG ac i bawb sy’n rhan o’r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.