Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth): 2022
Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.
Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 73.3% yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, i fyny 0.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.5%, i fyny 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cyfraddau cyflogaeth dros y flwyddyn yn Ynys Môn (i fyny 7.3 pwynt canran i 76.9%), Gwynedd (i fyny 6.5 pwynt canran i 76.9%) ac Abertawe (i fyny 4.3 pwynt canran i 76.1%).
Rhanbarthau economaidd
75.3% oedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, i fyny 1.9 pwynt canran dros y flwyddyn; 73.3% oedd y gyfradd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i fyny 1.0 pwynt canran a’r gyfradd yn y De-ddwyrain oedd 72.4%, i fyny 0.9 pwynt canran. Y Gogledd oedd â’r gyfradd gyflogaeth uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).
Ers 2011 y duedd gyffredinol yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru oedd cynnydd cyson hyd nes i bandemig y coronafeirws (COVID-19) arwain at ostyngiad yn 2020. Er gwaethaf gostyngiadau mewn blynyddoedd diweddar, mae cyfraddau cyflogaeth yn y Gogledd wedi parhau’n uwch yn gyffredinol na’r gyfradd yng Nghymru a’r rhanbarthau economaidd eraill. Ers 2020, mae newidiadau wedi amrywio ar draws pob un o’r rhanbarthau economaidd a Chymru’n gyffredinol. Rhwng 2020 a 2022, cynyddodd cyfradd gyflogaeth Cymru’n gyffredinol, fel y gwnaeth y cyfraddau yn y Gogledd a’r Canolbarth a’r De-orllewin. Yn ystod yr un cyfnod, gostyngodd y gyfradd gyflogaeth yn y De-ddwyrain ychydig.
Canran y bobl mewn cyflogaeth yw un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU wedi cau’n raddol i 2.2 pwynt canran.
Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.
Diweithdra
Yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 3.0%, i lawr 1.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 3.5%, i lawr 0.9 pwynt canran dros y flwyddyn. Y cyfraddau diweithdra yng Nghymru ac yn y DU ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2002 oedd yr isaf ers dechrau cadw cofnodion APS ym 1996.
Nodwch fod data ar gyfer 13 o’r 22 awdurdod lleol wedi'u hatal am fod maint y sampl wedi bod yn rhy fach i ddarparu data o ansawdd ar gyfer y gyfradd ddiweithdra. Yr awdurdodau lleol hyn yw: Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Sir y Fflint ac Ynys Môn.
Yn yr awdurdodau lleol oedd â sampl o ddigon o faint, gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yn y cyfraddau diweithdra dros y flwyddyn yn Nhorfaen (i lawr 3.0 pwynt canran i 3.7%), Sir Gaerfyrddin (i lawr 1.5 pwynt canran i 2.2%) a Chasnewydd (i lawr 1.0 pwynt canran i 5.1%). Castell-nedd Port Talbot oedd â’r cynnydd mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra o 1.2 pwynt canran i 4.2%.
Rhanbarthau economaidd
4.1% oedd y gyfradd ddiweithdra yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i lawr 0.5 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y Gogledd, y gyfradd oedd 2.7%, i lawr 1.1 pwynt canran ac yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 2.5%, i lawr 1.6 pwynt canran (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu.)
Ers 2011, y duedd gyffredinol oedd i’r cyfraddau diweithdra ostwng yng Nghymru ac yn y tri rhanbarth economaidd yng Nghymru, cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19), gyda’r gyfradd yn gyson uwch yn y De-ddwyrain ac yn gyson is yn y Gogledd o’u cymharu â rhanbarthau eraill. Ers 2020, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd wedi gwahanu, gyda’r gyfradd uchaf yn y Canolbarth a’r De-orllewin o 2021 ymlaen.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Pobl economaidd anweithgar yw’r bobl hynny sydd heb swydd ac sydd heb chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu bobl nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf. Yn yr adran hon, nid ydym wedi cynnwys myfyrwyr yn y gyfradd anweithgarwch economaidd, gan nad yw myfyrwyr ar gael i weithio tra’n astudio a byddant yn debygol o ddod yn economaidd weithgar ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau.
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 20.7%, i fyny 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd yn y DU oedd 17.9%, i fyny 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y rheini oedd â’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi’u hamcangyfrif isaf yng Nghymru oedd Bro Morgannwg (13.4%), Gwynedd (16.0%) ac Abertawe (16.1%).
Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru
Rhanbarthau economaidd
21.4% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y De-ddwyrain, i fyny 1.7 pwynt canran dros y flwyddyn, yn y Canolbarth a’r De-orllewin, y gyfradd oedd 20.6%, i fyny 0.5 pwynt canran ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 19.2%, i lawr 1.0 pwynt canran (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).
Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru
Y Gogledd oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd isaf yn gyffredinol o’r tri rhanbarth economaidd tan y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2020, pan gododd y gyfradd yn uwch na chyfradd y De-ddwyrain am nifer o gyfnodau. Y Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd uchaf yn hanesyddol, ond cwympodd yn achlysurol yn is na chyfraddau rhanbarthau eraill mewn cyfnodau diweddar. Mae’r data diweddaraf yn dangos mai’r De-ddwyrain oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022. Y Gogledd oedd â’r gyfradd isaf.
Rhesymau am anweithgarwch economaidd
Mae’r adran hon yn dadansoddi’r rhesymau a roddwyd gan bobl am eu hanweithgarwch economaidd. Mae’r cyfrannau a’r cyfraddau yn yr adran hon yn cynnwys myfyrwyr er mwyn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o’r rhesymau hyn.
Y categorïau ar gyfer y mesur hwn yw: Myfyriwr, Gofalu am deulu, Salwch tymor hir, Salwch dros dro, wedi Digalonni, wedi Ymddeol ac Eraill.
Yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd salwch tymor hir, a gynyddodd 4.4 pwynt canran dros y flwyddyn i 39.5% o’r holl ddynion economaidd anweithgar. Nesaf oedd myfyrwyr, yn cyfrif am 27.4% o’r holl ddynion economaidd anweithgar, i lawr 2.6 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.
Data anweithgarwch economaidd ar StatsCymru
Yn hanesyddol, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yw gofalu am deulu/cartref, er bod y duedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng dros amser. Yn 2020, cwympodd y gyfran hon yn sydyn, efallai oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), gan y gellir gweld tuedd fel arall ymhlith y rheini sy’n rhoi rhesymau ‘eraill’. Ers 2020, mae cyfran y menywod economaidd anweithgar sy’n gofalu am deulu/cartref wedi dechrau cynyddu eto.
Yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, y rheswm mwyaf cyffredin am eu hanweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru oedd salwch tymor hir, gan gynrychioli 29.8% o’r holl fenywod economaidd anweithgar, i fyny 2.6 pwynt canran yn y flwyddyn. Mae cyfran y menywod sy’n economaidd anweithgar oherwydd salwch tymor hir nawr ar ei huchaf ers dechrau cadw cofnodion APS. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y rheini sy’n gofalu am deulu/cartref wedi cynyddu 0.2 pwynt canran, gan gyfrif am 24.5% o’r holl fenywod economaidd anweithgar.
Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022 oedd 54.9%, i fyny 4.0 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 53.7%, i fyny 2.4 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
53.7% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion ifanc yng Nghymru, i fyny 2.3 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Bu cynnydd o 5.9 pwynt canran yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith menywod ifanc yng Nghymru i 56.2%.
Diweithdra
7.8% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, i lawr 4.4 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 10.4%, i lawr 2.1 pwynt canran. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022 oedd yr isaf ers dechrau cadw cofnodion APS ym 1996.
Yng Nghymru, roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 10.8% a 4.6% yn y drefn honno. Dyma’r gyfradd ddiweithdra isaf ymhlith menywod ifanc yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion APS ym 1996, gostyngiad o 5.6 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.
Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng dynion a menywod oedd 6.2 pwynt canran yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, gyda’r gyfradd ar gyfer dynion yn uwch nag ar gyfer menywod. Mae’r bwlch hwn wedi ehangu’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar, o fwlch o 1.7 yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2020. Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc rhwng dynion a menywod yn y DU oedd 3.1 pwynt canran yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, o gymharu â 2.5 pwynt canran yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2020.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022 oedd 20.0%, i lawr 3.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 19.1%, i fyny 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022 oedd 18.9%, i lawr 2.4 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd ymhlith menywod oedd 21.2%, i lawr 5.7 pwynt canran. Mae’r gyfres hon yn gallu bod yn anwadal a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau tymor byr.
Diweithdra hirdymor
Yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, mae’r APS yn amcangyfrif bod 13,400 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith yn hirdymor (12 mis neu fwy), i lawr 40.5% dros y flwyddyn. Serch hynny, sylwch fod newidiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn diweithdra hirdymor yng Nghymru yn anwadal iawn, a dylid ystyried tueddiadau hirdymor pan fo’n bosibl.
Dyna 29.4% o’r holl bobl a oedd yn ddi-waith yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, i lawr 6.1 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd gyfatebol yn y DU oedd 24.5%, i lawr 4.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
Roedd 31.8% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 6.7 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 27.4% yn y DU.
Roedd 26.1% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 5.6 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 21.0% yn y DU.
Statws anabledd
48.9% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 2022, i fyny 1.1 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 82.2% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i fyny 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
6.2% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru, i lawr 2.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn cymharu â chyfradd o 2.3% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i lawr 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ethnigrwydd
Mae'r arolwg yn gofyn i ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn – Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.
67.7% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, i fyny 3.0 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl wyn oedd 73.6%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
6.9% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, i lawr 3.9 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl wyn oedd 2.8%, i lawr 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn, a’r gyfradd isaf ers dechrau cadw cofnodion APS cymharol.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Perthnasedd
Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddaraf yr LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r farchnad lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi trosolwg o'r farchnad lafur (Swyddfa Ystadegau Gwladol) bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Mae’r datganiad hwn yn dod ag ystadegau allweddol diweddaraf yr APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.
Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn cymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.
Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r economi a’r farchnad lafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad manylach o nodweddion gwarchodedig y farchnad llafur yng Nghymru ar 16 Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu’ch adborth ar y cyhoeddiad hwn a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol. Gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn anablu pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').
Cywirdeb
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae’r ‘amrywioldeb samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau sampl yr LFS yn rhy isel i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl fwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.
Ar 13 Medi 2022, cyhoeddodd ONS set ddata APS wedi'i hailbwysoli ar gyfer mis Mawrth 2020 ymlaen. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021.
Geirfa
Cyflogaeth
Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf un awr o waith am dâl yn yr wythnos gyfeirio (boed fel gweithiwr cyflogedig neu weithiwr hunangyflogedig); y rheini oedd â swydd gyda thâl ond a oedd i ffwrdd am gyfnod dros dro; y rheini ar raglenni gweithwyr a hyfforddi a noddir gan y llywodraeth a’r rheini oedd yn gwneud gwaith heb dâl i’r teulu.
Cyfrifir y brif gyfradd gyflogaeth drwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Diweithdra
Mesurir nifer y bobl ddi-waith yn y DU drwy Arolwg y Gweithlu (LFS) gan ddilyn y diffiniad y cytunir arno’n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) – un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; neu maent allan o waith, wedi cael swydd ond eu bod yn aros am gael ei dechrau yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu’r lefel ddiweithdra ymhlith y rheini sy’n 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl 16 oed a throsodd sy’n economaidd weithgar.
Anweithgarwch economaidd
Pobl economaidd anweithgar yw’r rheini sydd heb swydd nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu lefel anweithgarwch y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan bodlonir y safonau.
Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2010 yn dilyn archwiliad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2010.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Newid i ddatganiad HTML ar gyfer mwy o ryngweithedd a mwy o hygyrchedd i ddefnyddwyr.
- Ehangu'r sylw a roddir i bynciau i gynnwys mwy o fanylion am brif ystadegau'r farchnad lafur, ac adrannau ychwanegol ar gyflogaeth ieuenctid a diweithdra hirdymor.
- Cyflwyno adran newydd ar y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
- Siartiau ychwanegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn glir unrhyw dueddiadau ac anwadalwch yn y data.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (21) canran y bobl mewn cyflogaeth
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 31/2023