Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd safle 30 erw ar Ystad Ddiwydiannol Baglan yn cael ei werthu i Glass Systems Limited, a fydd yn diogelu 500 o swyddi yn ogystal â chreu 100 o swyddi newydd hefyd.
Bydd y datblygiad newydd, sydd wedi’i leoli yn Ardal Fenter Port Talbot, yn elwa ar gymorth busnes Llywodraeth Cymru, gan eu galluogi i fuddsoddi mewn peiriannau, offer ac ehangu safleoedd.
Ar hyn o bryd, mae gan Glass Systems Limited chwe safle ar draws y DU, sy’n cyflogi mwy na 1,000 o bobl. Mae’r cwmni’n gweithgynhyrchu ac yn darparu 100,000 o unedau gwydr wedi’u hinsiwleiddio ar gyfartaledd bob wythnos i farchnad ffenestri’r DU. Mae Glass Systems Limited, a sefydlwyd yn wreiddiol yn yr 1980au, wedi bod dan berchnogaeth y Grŵp Press Glass ers mis Medi 2015 ac mae’n cael ei harwain gan Khaled Elleboudy, Rheolwr Gyfarwyddwr y DU.
Bydd y datblygiad arfaethedig a’r cynllun i greu swyddi dilynol yn hwb sylweddol i’r economi leol drwy roi hwb i weithgynhyrchu a darparu gwydr wedi’i insiwleiddio o ansawdd uchel ledled Cymru a’r DU.
Wrth groesawu’r buddsoddiad ym Mhort Talbot, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Rwy’n falch iawn o groesawu’r arwydd yma o ffydd ym Mhort Talbot gan Glass Systems Limited a fydd yn diogelu a chreu cannoedd o swyddi.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd economaidd i gymunedau ledled Cymru ac mae gan Glass Systems Limited gynllun uchelgeisiol i gyfrannu at hyn drwy adeiladu ar eu llwyddiant fel gweithgynhyrchwr arweiniol yng Nghymru a’r DU.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Glass Systems Limited, Khaled Elleboudy:
“Mae twf a datblygiad yn allweddol i ddyfodol Glass Systems a bydd y ffatri newydd hon yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr â’n ffatrïoedd yn Lloegr a’r Alban ac mae’n ddatblygiad sylweddol inni.
“Bydd y ffatri uwch-dechnoleg hon yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i fuddsoddi’n barhaus mewn technolegau a phrosesau cynaliadwy newydd ac yn ein helpu i gyrraedd ein nod o leihau ein hallyriadau CO2, lleihau gwastraff, ac arbed ynni.
“Bydd y cyfleuster modern a’r gofod ffatri agored yn ein galluogi i gynllunio a defnyddio ein technoleg newydd a’n hoffer o’r radd flaenaf ynghyd â sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl. Yn bwysig iawn bydd hefyd yn sicrhau llawer o swyddi parhaol yn yr ardal, a byddwn hefyd yn datblygu’r tir o’i gwmpas i gefnog cynefinoedd naturiol. Rydym wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau yn cynllunio’r dirwedd gyda thîm arbenigol a byddwn yn falch o arddangos y canlyniadau i’r gymuned leol.”