Frances Duffy Cadeirydd
Mae Frances Duffy yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cafodd Frances yrfa hir yn y Gwasanaeth Sifil cyn ymddeol ym mis Hydref 2021.
Mae wedi dal nifer o swyddi uwch o fewn Llywodraeth yr Alban yn ogystal â Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyngor i Weinidogion ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys tai, trafnidiaeth, ac iechyd.
Yn ei swydd ddiwethaf fel Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwyddorau Iechyd, roedd yn atebol am sicrhau bod y gwaith o ddiwygio gofal sylfaenol yng Nghymru yn symud yn ei flaen. Mae hon yn rhaglen newid a diwygio uchelgeisiol, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau’n integreiddio ymhellach ar draws yr holl wasanaethau gofal sylfaenol, Practis Cyffredinol, Deintyddiaeth, Optometreg, Fferylliaeth, a’r gwasanaethau Iechyd Cymunedol. Y nod yw dod â gofal yn nes at adref, hyrwyddo iechyd a llesiant, hyrwyddo arloesedd ym maes gofal iechyd, a chyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg.
Yn y gorffennol, bu Frances yn gweithio ym maes polisi trafnidiaeth a chyflawni, fel Cyfarwyddwr Trafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, a chyn hynny Cyfarwyddwr Strategaeth a Buddsoddi, a Chyfarwyddwr y Rheilffyrdd i Transport Scotland. Wrth gyflawni’r rolau hyn, roedd Frances yn gyfrifol dros bortffolios buddsoddi mawr, yn y ffyrdd, y rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus; gan osod blaenoriaethau buddsoddi strategol, goruchwylio’r gwaith o weithredu prosiectau, a rheoli masnachfreintiau ar gyfer y rheilffyrdd.
Ymunodd Frances â’r Gwasanaeth Sifil fel Arolygydd Trethi dan hyfforddiant, gan arbenigo mewn treth gorfforaethol busnesau mawr a’r sector yswiriant bywyd. Pan gafodd Senedd yr Alban ei sefydlu, roedd Frances yn cyfrannu at y gwaith o weithredu pwerau trethi amrywiadwy yr Alban, cyn symud i Lywodraeth yr Alban ei hunan, lle y bu’n gweithio ar bolisi tai cyn symud i weithio ar bolisi trafnidiaeth.
Cafodd Frances ei haddysg yn yr Alban ac mae ganddi radd BA mewn busnes o Brifysgol Strathclyde yn Glasgow. Mae hi wedi cwblhau rhaglen Major Projects Leadership Academy yn llwyddiannus, sef rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Ysgol Fusnes Saïd Prifysgol Rhydychen a Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU, a bu hefyd yn Adolygydd achrededig ar gyfer adolygiadau Gateway yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau.