Cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder: 8 Chwefror 2023
Cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder ar 8 Chwefror 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol (drwy Teams)
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
- Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
- Jane Hutt AS
- Julie Morgan AS
Swyddogion Llywodraeth Cymru
- Andrew Goodall - Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Des Clifford - Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Piers Bisson - Cyfarwyddwr, y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
- Rebecca Dunn - Pennaeth Is-adran y Cabinet
- James Gerard - Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfiawnder
- Karin Phillips - Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
- Diane Dunning - Gwasanaethau Cyfreithiol
- Kate Edmunds - Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan - Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche - Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- James Oxenham - Is-adran y Cabinet
- Merisha Weeks - Polisi Cyfiawnder
- Andrew Felton - Polisi Cyfiawnder
- Fiona Green - Polisi Cyfiawnder
- Adam Turbervill - Gwasanaethau Cyfreithiol
- Louis Urutty - Cyfathrebu
Eitem 1: Sefyllfa bresennol y Rhaglen Trawsnewid Cyfiawnder
1.1 Croesawodd y Cwnsler Cyffredinol y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, gan nodi cysylltiadau cryf y portffolio â’r gwasanaethau cyfiawnder a phrawf.
1.2 Roedd y papur yn dadansoddi’r sefyllfa bresennol, gan roi trosolwg o weithgarwch o dan y setliad datganoli presennol.
1.3 Dywedwyd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi adolygiad o gymorth cyfreithiol sifil. Byddai’r adolygiad, a fyddai’n cael ei gyhoeddi yn 2024, yn ystyried cynaliadwyedd tymor hir y system cymorth cyfreithiol sifil. Nodwyd y byddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cyfarfod â’r Arglwydd Bellamy yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw i drafod hyn a materion eraill.
1.4 Roedd ymweliad diweddar â Chanolfan y Gyfraith Speakeasy yng Nghaerdydd yn rhan o’r gwaith ymchwilio i ddichonoldeb cefnogi mentrau tebyg ar draws Cymru, a chroesawyd y bwriad i ddatblygu Canolfan y Gyfraith yn y Gogledd.
1.5 Roedd gwaith y cynllun braenaru peilot ar gyfer llysoedd teulu yn y Gogledd hefyd yn mynd rhagddo, a byddai cyfarfod dilynol i drafod hynt y gwaith hwn yn cael ei drefnu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
1.6 Hefyd, roedd y sector cyfreithiol wedi datblygu Pwyllgor Pro Bono i Gymru, a oedd ag aelodaeth eang. Serch hynny, roedd yn cael ei gydnabod nad oedd gwasanaethau cyngor na gwaith pro bono yn gallu cymryd lle system cymorth cyfreithiol a gefnogir gan yr adnoddau priodol.
1.7 Clywodd yr Is-bwyllgor ddiweddariad ynghylch adroddiad Arolygiaeth Carchardai EF ar Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw, lle’r oedd llawer o fenywod o Gymru yn cael eu cadw yn y ddalfa, sef adroddiad a oedd yn boenus iawn i’w ddarllen.
1.8 Roedd casgliadau’r adroddiad yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau nad oedd menywod yn cael eu carcharu, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Roedd y Glasbrint Cyfiawnder Menywod, a oedd wedi ei ddatblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, HMPPS, a Plismona Cymru, yn cefnogi mentrau megis y cynllun ar gyfer canfod llwybrau amgen i fenywod a’r gwaith o ymgysylltu ag ynadon, gan weithio i sicrhau nad oedd menywod yn wynebu cyfnodau niweidiol diangen yn y carchar am fân droseddau. Roedd Llywodraethwr Eastwood Park wedi datgan yn ddiweddar bod y rheini sydd wedi eu carcharu am gyfnodau yn y Carchar hefyd yn ddioddefwyr.
1.9 Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod gwerth mentrau megis y Cynllun Visiting Mum, a oedd yn helpu plant i ymweld â rhieni sydd yn y ddalfa, a’r rôl bwysig y mae’r Cynghorydd Annibynnol ar gyfer Trais Domestig yn ei chwarae i fenywod o Gymru yn Eastwood Park.
1.10 Cytunwyd bod llawer iawn mwy i’w wneud i wella canlyniadau i fenywod sy’n dod i gysylltiad â’r system gyfiawnder, ond gan fod cyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i barhau â’i hymdrechion i leihau nifer y rheini sy’n troseddu ac ail-droseddu er mwyn creu Cymru sy’n well i bawb, ochr yn ochr â’i gwaith o fwrw ymlaen â’r achos o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru.
1.11 O ran o’r trafodaethau â Llywodraeth y DU, dywedwyd bod yr Arglwydd Bellamy wedi dweud wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi derbyn pump o’r 14 o argymhellion a drafodwyd fel rhan o’r trafodaethau brysbennu.
1.12 Fodd bynnag, roedd yn parhau’n aneglur a oedd hynny’n golygu bod unrhyw gynnydd gwirioneddol wedi digwydd, a disgwylir eglurhad ysgrifenedig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder cyn bwrw ymlaen ymhellach â’r trafodaethau.
1.13 Disgwylir dyddiad ar gyfer cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder, ond roedd yn debygol o gyfarfod cyn gwyliau’r Pasg. Byddai hyn yn fforwm defnyddiol yn y dyfodol ar gyfer trafod rhai o’r materion a oedd wedi eu codi yn y papur ar y sefyllfa bresennol.
1.14 Gofynnwyd am nodyn ynghylch y Grwpiau Rhyngweinidogol sy’n cael eu sefydlu ar hyn o bryd yn y maes cyfiawnder, gan gynnwys eu diben a’u haelodaeth.
1.15 Roedd yr Is-bwyllgor yn croesawu’r gwaith parhaus a wneir ar ddata cyfiawnder wedi eu dadgyfuno ar gyfer Cymru, ac roedd yn cytuno y dylid parhau i roi pwysau ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder o ran a allai dangosfyrddau data cyfiawnder a gynhyrchir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi fod yn rhan o ddangosfwrdd awtomatig yn y dyfodol.
1.16 Wrth nodi’r papur hwn ar y sefyllfa ddiweddaraf, cytunodd yr Is-bwyllgor i rannu’r papur â’r Cabinet.
Eitem 2: Cyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 a gwariant Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gysylltiedig â chyfiawnder
2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem a oedd yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried y gyllideb ddrafft a’r effeithiau cysylltiedig ar weithgarwch sy’n ymwneud â chyfiawnder.
2.2 Roedd y papur yn crynhoi’r heriau cynhenid a wynebir wrth sicrhau bod gwariant ar gyfiawnder yn cael ei adolygu’n barhaus, a nododd yr Is-bwyllgor y tabl yn Atodiad B a oedd yn dangos y cyllid a ddyrennir yng Nghyllideb Ddrafft 2023-24 ar gyfer rhywfaint o’r gweithgarwch sy’n ymwneud â chyfiawnder fel y’i disgrifir yn y rhaglen waith ar gyfer cyfiawnder.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor y dylid adolygu’r sefyllfa bob blwyddyn.
Eitem 3: Datganoli Cyfiawnder - y camau nesaf
3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn cynnwys y camau gweithredu a gymerwyd hyd yn hyn, yn ogystal â’r camau posibl nesaf i ymbaratoi ar gyfer datganoli a chyflwyno’r achos o blaid hynny.
3.2 Roedd yr Is-bwyllgor yn gytûn mai datganoli cyfiawnder yn llawn, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Thomas, oedd y nod, ond hefyd mai’r peth mwyaf ymarferol fyddai dyrannu’r rhan fwyaf o adnoddau cynllunio i’r meysydd hynny lle’r oedd yn ymddangos bod y potensial mwyaf i Lywodraeth y DU yn y dyfodol gefnogi datganoli.
3.3 Nododd yr Is-bwyllgor y dylai gwaith yn y dyfodol ganolbwyntio ar y goblygiadau cyflawni ymarferol unwaith y byddai elfennau penodol o’r system gyfiawnder wedi eu datganoli.
3.4 Roedd profiad helaeth ar gael i fanteisio arno, gan gynnwys profiadau comisiynau blaenorol, a dylai swyddogion fynd ati i gasglu cymaint o’r wybodaeth â phosibl sy’n deillio o ddigwyddiadau yn y gorffennol, er mwyn helpu i lywio dull gweithredu’r Llywodraeth yn y dyfodol.
3.5 Hefyd cytunwyd ar y naratif drafft mewn egwyddor.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2023