Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae’r Bil Mudo Anghyfreithlon yn amlinellu cynnig Llywodraeth y DU i atal pobl rhag ceisio lloches yn y DU. Rwy’n nodi nad yw Llywodraeth y DU yn gallu dweud bod y Bil yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, hyd yn oed, ac yn ein barn ni – ac yn drawiadol, ym marn Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig – mae’n groes i Gonfensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.
Er bod niferoedd y ceiswyr lloches sy’n cyrraedd y DU wedi cynyddu at ei gilydd, mae llawer llai o bobl yn cael eu dychwelyd i’w gwledydd eu hunain gan Lywodraeth y DU oherwydd ceisiadau annilys am loches; mae hefyd yn cymryd llawer mwy o amser i benderfynu ar geisiadau ac, oni bai eich bod o Wcráin neu Hong Kong, mae’r broses o gael gafael ar gymorth yn fwy cymhleth. Mae’r adroddiadau ynghylch nifer y plant sy’n ceisio lloches sy’n mynd ar goll yn destun pryder enfawr inni.
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i fod yn genedl noddfa. Nid yw polisi mewnfudo wedi’i ddatganoli i Gymru, ond Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gefnogi ac integreiddio ceiswyr noddfa. Mae ein hymdrechion i gyflawni hyn yn cael eu tanseilio ar lefel sylfaenol gan yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud.
Rwyf heddiw yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a byddaf yn argymell bod y Senedd yn gwrthod cydsynio bod Llywodraeth y DU yn deddfu i osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol Cymru mewn perthynas â gofal cymdeithasol plant o dan y Bil Mudo Anghyfreithlon. Mae’n hanfodol bod ein pryderon yn cael eu cydnabod, a bod datganoli yn cael ei barchu.
Ni allaf argymell rhoi ein cydsyniad ychwaith yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chadarnhau bod y Bil yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Safbwynt Llywodraeth Cymru yw na all polisi lloches ac adsefydlu lwyddo heb ddigon o lwybrau diogel a chyfreithiol i’r DU; cytundebau dychwelyd effeithiol ar gyfer unigolion sy’n cyflwyno ceisiadau annilys; prosesau i sicrhau bod modd hawlio lloches yn y DU o hyd mewn amgylchiadau eithriadol; a phrosesau sy’n gweithio’n effeithlon.
Mae’n hanfodol bod cyfleusterau prosesu lloches yn cael eu sefydlu y tu allan i’r DU er mwyn torri model busnes masnachwyr a smyglwyr pobl.
Mae Pwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin wedi gwneud cyfres o argymhellion yn y maes hwn, gan gynnwys yr angen am gyfleuster prosesu yn Ffrainc fel peilot. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn atal pobl rhag mentro ar deithiau sydd eisoes yn beryglus dros ben ar draws Môr y Canoldir, y Sahara neu lwybrau eraill i Ewrop.
Ein safbwynt ni yw y dylai fod gan Lysgenadaethau’r DU a/neu Ganolfannau Fisa ledled y byd yr adnoddau i dderbyn ceisiadau am loches gan y rhai sydd angen diogelwch rhyngwladol yn y DU. Byddai’r canolfannau hyn yn galluogi pobl i geisio lloches o’r tu allan i Ewrop, ac yn atal ceiswyr lloches rhag troi at fasnachwyr pobl yng Nghalais.
Yn sgil ymadael â’r UE, nid yw’r DU mwyach yn ddarostyngedig i Reoliad Dulyn III yr UE. Roedd hyn yn caniatáu proses ddwy ffordd i ddychwelyd ceiswyr lloches i Aelod-wladwriaeth arall yn yr UE os oeddent wedi mynd drwy’r Wladwriaeth honno yn gyntaf, ac roedd hefyd yn cynnig llwybr diogel a chyfreithiol i unigolion yn Aelod-wladwriaethau eraill yr UE gael eu haduno ag aelodau o’u teulu a oedd yn byw yn y DU. Heb y llwybr hwn, mae wedi bod yn llawer anoddach dychwelyd pobl sy’n cyrraedd o Ewrop, ac mae masnachwyr a smyglwyr pobl yn gwybod ei bod yn annhebygol y bydd yr unigolion y maent yn dod â nhw i’r DU yn cael eu symud ymaith, yn wahanol i’r sefyllfa mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Rydym yn ystyried ei bod yn hollbwysig bod y DU yn dilyn trefniadau Ewrop ar gyfer y broses ddwy ffordd o adsesfydlu ceiswyr lloches mewn modd tebyg i Reoliad Dulyn III.
Ein safbwynt ni yw y dylai cytundeb adsefydlu Ewropeaidd gynnwys hefyd ailgyflwyno cynllun tebyg i gynllun ‘Dubs’ yn y DU (adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016) – a enwyd ar ôl yr Arglwydd Alf Dubs. Caewyd y llwybr diogel a chyfreithiol hwn i’r DU sawl blwyddyn yn ôl, ond roedd yn sicrhau bod modd i blant ar eu pen eu hunain a oedd yn arbennig o agored i niwed ddod i’r DU yn ddiogel yn hytrach na mentro ar deithiau peryglus. Mae cynllun Plant Cymwys Wcráin yn fodel o fersiwn fwy effeithiol o gynllun Dubs.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ‘barhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches’. Rydym yn falch o’n safbwynt sy’n ystyried unigolyn yn blentyn yn y lle cyntaf, ac yn fudwr wedyn, sy'n cynnal y dull gorau o ddarparu gofal a chymorth i blant yng Nghymru, ar sail buddiannau a hawliau. Mae’r Senedd eisoes wedi deddfu yn unol â hynny yn Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym yn llwyr wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i danseilio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn hyn o beth.
Mae cynlluniau aduno teuluoedd hefyd yn hollbwysig i sicrhau y gall y rhai sydd eisoes yn byw yn y DU ddechrau dod dros eu trawma. Rydym yn cydnabod bod rhyfel ac erledigaeth yn creu sefyllfa sy’n golygu nad oes gan bawb strwythurau teuluol traddodiadol o reidrwydd. Byddem yn ffafrio dull mwy caredig a hyblyg o sicrhau y gall unedau teuluol gael eu haduno, gan sicrhau lles pennaf plant.
Er bod llwybrau diogel a chyfreithiol o’r pwys mwyaf, ni fydd pob ceisiwr lloches yn gallu cydymffurfio â’r gofynion. Mae’n hanfodol bod y DU yn parhau i allu caniatáu ceisiadau am loches – gan gynnwys ar gyfer y rhai a ddaeth i’r DU drwy lwybrau cyfreithiol, ond lle mae’r sefyllfa wedi newid yn eu gwlad wreiddiol ac y mae angen iddynt hawlio lloches bellach; ar gyfer y rhai a fasnachwyd i’r DU; ac ar gyfer y rhai sy’n gallu dangos nad oedd modd disgwyl yn rhesymol iddynt fod wedi dilyn llwybr diogel a chyfreithiol.
Sawl tro rydym wedi cynnig gweithio gydag un Ysgrifennydd Cartref ar ôl y llall i ddatblygu datrysiadau ymarferol. Rwyf wedi amlinellu ein safbwynt ni uchod – mae gennym ddatrysiadau ymarferol ar sail egwyddor caredigrwydd. Dylai’r DU gyfan ddilyn Cymru yn ei huchelgais i fod yn genedl noddfa.