Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Rhwng 16 a 18 Mawrth ymwelais â Pharis i lansio ‘Cymru yn Ffrainc’, ein trydydd ymgyrch ar y cyd ‘Blwyddyn yn’ sy’n dathlu ac atgyfnerthu ein perthynas gydag un o’n partneriaid rhyngwladol allweddol. Cymerais ran hefyd yn y rhaglen ehangach o weithgareddau a luniwyd i hyrwyddo buddiannau Cymru, lansiad yr ymgyrch a’r berthynas rhwng Cymru a Ffrainc.
I gychwyn, trefnwyd ymweliad diwylliannol ag Archives Nationales de Paris i weld y ‘Llythyr Pennal’ a anfonwyd gan Owain Glyndŵr at Charles VI, Brenin Ffrainc ym 1406; darn o hanes sy’n 600 mlwydd oed a’r llythyr enwocaf yn hanes Cymru sy’n pwysleisio’r cydgysylltiad rhwng hanes a diwylliant Cymru a Ffrainc.
O'r Archif Genedlaethol teithiais i Breswylfa Llysgennad Prydain, ar gyfer cinio briffio anffurfiol. Yn ystod ein hamser gyda'n gilydd trafodom y cyfleoedd i ddyfnhau'r berthynas rhwng Cymru a Ffrainc, cefnogaeth y Llysgennad i flwyddyn Cymru yn Ffrainc a'r diweddaraf am y berthynas rhwng y DU a Ffrainc yn dilyn Uwchgynhadledd Prif Weinidog y DU gyda'r Arlywydd Macron.
Teithiais i stiwdio France24 ar gyfer cyfweliad teledu byw i roi cyhoeddusrwydd i flwyddyn Cymru yn Ffrainc a phwysleisio, er bod Cymru wedi gadael perthynas wleidyddol yr Undeb Ewropeaidd rydym yn dal i fod eisiau cynnal y cysylltiadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd cryfaf posibl gyda Ffrainc a chenhedloedd, rhanbarthau a chyrff amlochrog Ewropeaidd eraill.
Dechreuodd ail ddiwrnod fy rhaglen gyda dau gyfarfod â chwmnïau. Cyfarfûm ag Is-Lywydd a Rheolwr Cyffredinol Thales Cyber Solutions i drafod eu buddsoddiad yng Nghymru, yn arbennig y Ganolfan Seiber – Y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol a ResilientWorks yn ne Cymru. Adeiladwyd y trafodaethau ar y cyfarfod a gafodd Gweinidog yr Economi gyda Thales yng Nghaerdydd ym mis Chwefror. Gwnaethom hefyd gynnal trafodaeth gyffredinol ar gefnogaeth seiber newydd a pha gyfleoedd pellach y gellid eu creu gydag ymrwymiad o'r newydd rhwng y DU a Ffrainc ar ddiogelwch ynni.
Cyfarfûm ag Is-lywydd Ynni Gwynt ar y Môr yn Total Energies a thrafod cydsyniad diweddar Llywodraeth Cymru i fenter ar y cyd Total Energies gyda'r cwmni o Iwerddon, Simply Blue, er mwyn datblygu'r fferm wynt arnofiol gyntaf yn nyfroedd Cymru, a fydd yn gallu darparu digon o ynni carbon isel i bweru 93,000 o gartrefi. Trafodwyd y potensial yng Nghymru i fod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ym maes technoleg adnewyddadwy forol, datgarboneiddio ac ynni gwyrdd a sut y gellir datblygu cadwyni cyflenwi lleol a'u cefnogi gan ddarparu swyddi newydd, carbon isel a chyflawni gwaith pwysig o ran cefnogi economïau lleol.
Yn y prynhawn arweiniais ddirprwyaeth o Gymru a oedd yn cynnwys yr Urdd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ar gyfer sesiwn ddysgu a chyfnewid gydag aelodau o ysgrifenyddiaeth UNESCO â chymheiriaid yr aelod-wladwriaethau. Nod yr ymweliad hwn oedd cryfhau cyfranogiad a gwelededd Cymru gydag UNESCO, sefydliad amlochrog allweddol lle gellir rhoi sylw amlwg i arbenigedd Cymru yn rhyngwladol, a dangos ein hymrwymiadau ar y cyd i hawliau dynol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Cwrddais hefyd â Chyfarwyddwr Treftadaeth y Byd a Chyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol i archwilio sut y gall ein perthynas ddatblygu i'r dyfodol.
Cefais gyfarfod dwyochrog gydag Is-Arlywydd Llydaw. Yn ystod ein cyfarfod buom yn trafod ail-lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cymru-Llydaw, ein cysylltiadau diwylliannol cryf a'r cydweithio a'r cyfnewidiadau parhaus ar draws ardaloedd economaidd twf uchel fel yr agenda ynni adnewyddadwy morol a seiberddiogelwch.
Gyda'r nos cynhaliodd Llysgennad Prydain a minnau dderbyniad ym Mhreswylfa'r Llysgennad i ddathlu'r berthynas rhwng Cymru a Ffrainc ac i lansio’r ymgyrch Blwyddyn Cymru yn Ffrainc yn swyddogol. Gwahoddwyd i’r noson randdeiliaid allweddol y berthynas rhwng Ffrainc a Chymru ar gyfer arddangosfa o ddiwylliant cyfoes Cymreig, gan gynnwys perfformiadau gan y delynores Gymreig glasurol Catrin Finch, a pherfformiad gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gan gynnwys Dean Yhell, bît-bocsiwr o Dredegar. Roeddem hefyd yn falch o arddangos bwyd a diod o Gymru i'r gwesteion oedd wedi ymgynnull, gan bwysleisio pwysigrwydd Ffrainc fel marchnad allforio fawr ar gyfer cynnyrch o Gymru.
Cwblheais lansio rhaglen Cymru yn Ffrainc drwy fynd i gêm rygbi Cystadleuaeth y Chwe Gwlad rhwng Cymru a Ffrainc, gan gyfarfod buddsoddwyr mawr yng Nghymru yn y Stade de France, gan gynnwys Airbus, Thales, Bouygues UK a Total Energies.