Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n darparu diweddariad ar ein cynnig i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr ddewisol. Cost fach fyddai’r ardoll, a delir gan bobl a fyddai’n aros dros nos mewn llety masnachol, er mwyn codi arian newydd i’w ail-fuddsoddi mewn ardaloedd lleol.
Caiff y gwaith hwn ei wneud fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Daeth ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 13 Rhagfyr. Roedd yn ystyried y cynllun arfaethedig ar gyfer yr ardoll ymwelwyr a sut gellid ei weithredu ar lefel ymarferol. Comisiynwyd adroddiad annibynnol o’r ymatebion ym mis Ionawr, a heddiw rwy’n cyhoeddi canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn ochr yn ochr ag adroddiad ymchwil defnyddwyr, a oedd yn ystyried safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch ardoll ymwelwyr.
Cawsom fwy na 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, ac rwy’n ddiolchgar i bawb am eu hymatebion a’u hadborth. Rwy’n cydnabod y pryderon a godwyd gan gynrychiolwyr y sector twristiaeth a hoffwn roi sicrwydd i berchnogion busnesau ein bod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau drwy’r heriau economaidd presennol.
Byddwn yn parhau gyda chynigion deddfwriaethol sy’n galluogi i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd.
Wrth inni ddatblygu’r polisi ardoll ymwelwyr, byddwn yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn helpu i lywio cynnig sy’n gweithio’n dda ledled Cymru.
Un pryder cyffredin a fynegwyd gan rai o’r rheiny a ymatebodd i’r ymgynghoriad oedd na fyddai pobl yn parhau i ymweld â Chymru pe bai ardoll yn cael ei chyflwyno. Ond, mae ardollau ymwelwyr tebyg yn cael eu defnyddio mewn llawer o wledydd o gwmpas y byd er budd ardaloedd lleol, ac mae eu heconomïau ymwelwyr yn parhau i ffynnu. Credwn y gall Cymru gael y llwyddiant hwn hefyd ac y dylai cymunedau lleol gael eu grymuso i benderfynu a ddylent weithredu ardoll ai peidio.
Rydym yn aml yn cael cwestiynau ynghylch codi ardoll ar ymwelwyr nad ydynt yn aros dros nos. Nid ydym wedi dod o hyd i ddull ymarferol o godi ardoll yng nghyd-destun ymwelwyr dydd, o ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau y mae’r ymwelwyr hyn yn ymgymryd â nhw, nac ychwaith wedi dod o hyd i ffordd na fyddai'n effeithio ar breswylwyr yn uniongyrchol. Rydym yn gwybod bod ardoll ymwelwyr dros nos yn fodel sy’n gweithio, fel y profwyd mewn amryw o leoliadau sy’n cymhwyso cost debyg yn rhyngwladol.
Yn ogystal â’r ymgynghoriad cyhoeddus, comisiynwyd ymchwil defnyddwyr bwrpasol i gael rhywfaint o fewnwelediad i safbwyntiau preswylwyr Cymru a phobl o’r DU sy’n cymryd gwyliau domestig.
Cymerodd mwy na 2,500 o ymatebwyr ran yn yr arolwg – ac roedd 1,005 ohonynt yn byw yng Nghymru.
Roedd y rhai hynny a holwyd yn cefnogi’r egwyddor o godi ardoll ymwelwyr yn gyffredinol. Yn ôl yr ymchwil defnyddwyr roedd y rhan fwyaf o breswylwyr Cymru a holwyd yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu at gostau cynnal y lleoliadau y maen nhw’n aros ynddynt, a buddsoddi ynddyn nhw. Roedd cefnogaeth gryfach ymhlith preswylwyr Cymru a holwyd sy’n byw mewn ardaloedd y mae llawer o dwristiaeth.
Dangosodd yr ymchwil hefyd, pan gafodd y cysyniad o ‘ardoll ymwelwyr’ ei chyflwyno naill ai mewn lleoliad roedden nhw’n mynd iddo ar wyliau neu yn eu hardal leol, roedd ymatebwyr i’r arolwg yn fwy cadarnhaol na negyddol – roedd 45% yn gadarnhaol a 25% yn negyddol.
Wrth inni ddatblygu cynigion deddfwriaethol, byddwn yn parhau i asesu effeithiau economaidd posibl gweithredu ardoll ymwelwyr yng Nghymru, yn ogystal â’r effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod economïau ymwelwyr yn parhau i ffynnu mewn llawer o’r lleoliadau y mae ardollau tebyg wedi’u gweithredu.
Yn ogystal, rwyf wedi gofyn i Awdurdod Cyllid Cymru arwain prosiect i ddeall y gofynion gweithredol ar gyfer rhoi ardoll ymwelwyr ar waith yn ystod 2023-24. Caiff y gwaith hwn ei gyflawni ar y cyd ag awdurdodau lleol a busnesau. Byddant yn ceisio dechrau cyfran ddarganfod y prosiect hwn ym mis Ebrill.
Gwyddom fod twristiaeth yn chwarae rôl hanfodol o ran cefnogi economïau lleol. Ond gall sector twristiaeth anghytbwys, heb gefnogaeth ddigonol, hefyd roi pwysau ar gymunedau lleol gan danseilio’r profiad ansawdd uchel yr hoffai pob un ohonom ei gynnig i’n hymwelwyr.
Ein bwriad yw sicrhau ymdeimlad o gydgyfrifoldeb rhwng trigolion ac ymwelwyr, er mwyn gwarchod ein hardaloedd lleol a buddsoddi ynddynt. Wrth grosawu ymwelwyr - p’un a ydynt wedi teithio o rywle arall yng Nghymru neu o bellach i ffwrdd – rydym yn gofyn iddynt wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella’r lleoliad y maen nhw’n ymweld ag ef, gan annog dull gweithredu mwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth.
Mae’r ardoll ymwelwyr yn rhoi pŵer yn nwylo cymunedau lleol ac yn rhoi adnodd iddynt annog twristiaeth gynaliadwy ac adfywiol. Dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, hoffem weithio gyda busnesau, awdurdodau lleol, a’n holl bartneriaid allweddol i lunio ardoll ymwelwyr i Gymru a fydd yn rym llesol.