Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad i’r fframwaith NYTH ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae fframwaith NYTH yn adnodd cynllunio at ddefnydd:

  • Llywodraeth Cymru 
  • Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
  • awdurdodau lleol
  • byrddau iechyd
  • y sector gwirfoddol

Ei nod yw sicrhau dull 'system gyfan' o ddatblygu gwasanaethau iechyd a llesiant meddwl ar gyfer: 

  • babanod 
  • plant
  • pobl ifanc
  • rhieni 
  • gofalwyr a'u teuluoedd ehangach ledled Cymru 

Ein nod yw sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar arbenigedd a chyngor yn gyflymach. Bydd hyn yn rhoi i'r bobl agosaf at blant y ddealltwriaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i helpu. 

Rydym yn defnyddio dull ‘dim drws anghywir’ fel bod teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn ac mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw.

Cafodd fframwaith NYTH ei gydgynhyrchu (ei greu) ar y cyd â: 

  • phobl ifanc
  • rhieni/gofalwyr
  • Llywodraeth Cymru 
  • Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
  • byrddau iechyd
  • y sector gwirfoddol

Ymhlith y bobl eraill a gymerodd ran yr oedd: 

  • athrawon
  • gweithwyr cymdeithasol 
  • nyrsys
  • meddygon
  • therapyddion
  • gweithwyr ieuenctid

Gwyliwch ein fideo i gael syniad am beth yw fframwaith NYTH.

Themâu NYTH

Gwnaethom ofyn i bobl ifanc pa eiriau oedd yn disgrifio orau sut y dylai cymorth iechyd meddwl a llesiant deimlo. Eu hawgrym nhw oedd NYTH.

rhoi Nerth – rhoi nerth / grymuso

Ymddiried - dibynadwy ac yno i chi

Tyfu'n ddiogel – tyfu’n ddiogel

Hybu - annog

Egwyddorion craidd

Mae fframwaith NYTH yn cynnwys chwe egwyddor graidd ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant:

Oedolion yr ymddiriedir ynddynt

Dyma’r rhan bwysicaf o fframwaith NYTH. Mae'n disgrifio pa mor bwysig yw'r bobl sydd agosaf at y baban, y plentyn neu'r person ifanc ar gyfer cefnogi ei iechyd meddwl a'i les.

Llesiant ar draws addysg

O’r crèche i’r feithrinfa, yr ysgol, y chweched dosbarth ac ymlaen i’r coleg, mae lleoliadau addysg yn rhan fawr o fywydau babanod, plant a phobl ifanc.

Mae’n hanfodol bod ganddynt ddealltwriaeth dda o iechyd meddwl a llesiant a’u bod yn achub ar bob cyfle i’w cefnogi.

Arloesi drwy gydgynhyrchu

Mae gan fabanod, plant a phobl ifanc yr hawl i’w barn gael ei chlywed a gweld camau yn cael eu cymryd o ganlyniad. Yn y fframwaith NYTH, nodwyd y dylai cydgynhyrchu fod wrth wraidd y gwaith o ddarparu'r holl wasanaethau iechyd meddwl a llesiant. Rydym yn defnyddio'r ymadrodd; ‘dim byd amdanoch chi, heboch chi’.

Mynediad rhwydd at arbenigedd

Mae fframwaith NYTH am sicrhau bod cymorth a chyngor arbenigol ar gael yn haws.

Cymunedau diogel a chefnogol

Mae fframwaith NYTH yn cydnabod bod iechyd meddwl a llesiant yn ddibynnol ar lawer o wahanol bethau. Rydym am i'r rhai sy'n darparu cymorth iechyd meddwl ystyried y ffactorau ehangach sy’n  cael effaith bendant ar ganlyniadau iechyd meddwl.

Dim drws anghywir

Weithiau mae teuluoedd sy'n gofyn am help gyda nifer o wahanol anghenion yn dysgu eu bod yn wynebu system gymhleth iawn. Rydym am sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn ac mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw.

Dysgu mwy am egwyddorion craidd fframwaith NYTH.

Gwerthoedd sylfaenol

Mae Fframwaith NYTH yn seiliedig ar y gwerthoedd canlynol.

Yn ymwybodol o’r datblygiadau ym maes Seicoleg 

Mae fframwaith NYTH yn rhagweld y bydd gan bob gwasanaeth fynediad at arbenigedd i'w alluogi i gael gwybod am yr ymchwil ddiweddaraf.

Dull seiliedig ar hawliau 

Mae dull seiliedig ar hawliau yn hanfodol i'n hiechyd meddwl a’n lles i gyd.

Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant 

Mae teimlo ein bod yn cael ein cynnwys a'n bod yn perthyn ac yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall yn hanfodol i'n hiechyd meddwl a'n lles. Yn ôl fframwaith NYTH, mae hon yn flaenoriaeth bwysig i bob gweithiwr proffesiynol a phob gwasanaeth fynd i'r afael â hi. 

Wedi’i arwain gan werthoedd 

Mae pob sefydliad yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd ac i wneud gwahanol bethau. Gall hyn arwain at wahaniaeth barn ynghylch yr hyn y dylid canolbwyntio arno a’i flaenoriaethu. Mae'r fframwaith yn gofyn i bawb gytuno ar werthoedd, a’u cysoni, i gefnogi plant gyda'u hiechyd meddwl a'u lles.

Datblygiad y plentyn 

Mae pob baban, plentyn a pherson ifanc yn unigryw ac yn datblygu mewn gwahanol ffyrdd. Mae fframwaith NYTH yn gofyn i wasanaethau ganolbwyntio ar ddatblygiad y plentyn, yn hytrach na dilyn y dull presennol sydd yn aml yn canolbwyntio’n bennaf ar oed y plentyn.

Offeryn hunanasesu

Rydym wedi cyd-gynhyrchu offeryn hunanasesu a gweithredu ar gyfer y fframwaith NYTH. Mae'r offeryn hwn yn helpu sefydliadau i asesu eu dealltwriaeth a'u defnydd presennol o egwyddorion NYTH. Mae hefyd modd llunio cynlluniau gweithredu drwy ddefnyddio’r offeryn er mwyn helpu i roi NYTH ar waith. Gall unrhyw brosiect, tîm neu wasanaeth ddefnyddio'r offeryn.

Noder: dylai ysgolion a lleoliadau addysg eraill ddefnyddio'r dull ysgol gyfan ar gyfer hunanwerthuso llesiant emosiynol a meddyliol. Mae’r dull hwn yn cefnogi lleoliadau addysg i sefydlu egwyddorion allweddol NYTH.

I gael cymorth i ddefnyddio'r hunanasesiad, siaradwch â'ch Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (tudalen 21 o'r ddogfen). Neu gallwch ymuno â’n fforwm hunanasesu NYTH cenedlaethol rheolaidd.

Hyfforddiant

Rydym wedi cyd-gynhyrchu dwy sesiwn hyfforddi fer, 30-munud ar gyfer NYTH. Gellir cwblhau’r sesiynau ar-lein hyn ar unrhyw adeg. Maent yn rhoi trosolwg o hawliau plant a’r fframwaith NYTH. Maent yn rhad ac am ddim i bob sector ond bydd angen i chi greu cyfrif am ddim ar y platfform hyfforddi.

Mae recordiad o weithdy ar gael hefyd sy'n ymdrin â:

  • beth yw NYTH
  • prif araith gan Dr Karen Treisman ar NYTH, datblygiad plant a dulliau sy'n cael eu llywio yn seicolegol
  • cyflwyniad i’r offeryn hunanasesu NYTH a phrofiadau o'i ddefnyddio

Astudiaethau achos

Rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i lunio enghreifftiau o arferion da NYTH ar waith.

Mae rhai o’n partneriaid wedi paratoi astudiaethau achos eisoes. Edrychwch ar eu gwaith nhw.

Os oes gennych enghreifftiau o arferion da i’w rhannu cysylltwch â NYTH.IechydMeddwl@llyw.cymru

Adrodd yn ôl

Mae adrodd yn ôl ar fframwaith NYTH yn cael ei wneud drwy'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae'n ofynnol i brosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol adrodd yn ôl ar faterion NYTH.

Nid oes disgwyl i brosiectau nad ydynt yn cael eu hariannu drwy'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol adrodd yn ôl ar faterion NYTH. Er gwaethaf hynny, gall y prosiectau hyn hefyd ddefnyddio offeryn hunanasesu NYTH.

Mae gan bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol arweinydd NYTH sy'n cydlynu’r gwaith o weithredu NYTH ar draws yr ardal.

Gall yr arweinydd NYTH yn eich ardal ddweud rhagor wrthych am:

  • weithredu'r fframwaith yn lleol
  • unrhyw drefniadau adrodd

Dod o hyd i'ch Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Cymuned ymarfer

Mae Cymuned Ymarfer NYTH a Chefnogi Teuluoedd yn dod â phobl sydd â gwybodaeth a phrofiad ym maes iechyd meddwl a llesiant ynghyd.

Mae cydweithwyr yn cwrdd ar-lein bob deufis i gymharu’r dysgu a rhannu arferion da.

Mae pob cyfarfod yn cynnwys:

  • rhannu gwybodaeth am NYTH ac iechyd meddwl a llesiant
  • darparu cyngor a datrys problemau
  • cydweithio ar ddeunyddiau sy’n rhoi arweiniad ar syniadau

Dylai cyfranogwyr feddu ar rywfaint o wybodaeth a phrofiad o weithio ym maes iechyd meddwl a llesiant.

Cofrestrwch i ymuno â Chymuned Ymarfer NYTH a Chefnogi Teuluoedd drwy anfon e-bost i NYTH.IechydMeddwl@llyw.cymru

Adborth 

Rydym yn awyddus i glywed am eich profiadau o roi NYTH ar waith yn eich sefydliad neu’ch gwasanaeth.

Cysylltwch â ni drwy’r e-bost: NYTH.IechydMeddwl@llyw.cymru

Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r adnoddau gweithredu i gefnogi'r gwaith o ddarparu NYTH.