Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol: datganiad sefyllfa
Mae’r datganiad yma yn nodi gweledigaeth Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'n bryd i bawb mewn gofal cymdeithasol elwa ar waith teg.
Ein gweledigaeth: gweithio mewn partneriaeth
Sefydlwyd Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol mewn partneriaeth gymdeithasol gan ddod â'r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau at ei gilydd. Mae'r Fforwm yn edrych ar sut y dylid cymhwyso'r diffiniad o waith teg ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a bydd, drwy drafodaethau ar y cyd rhwng undebau, cyflogwyr a'r llywodraeth, yn nodi sut y dylai arferion gwaith da edrych ym maes gofal cymdeithasol.
Mae pandemig Covid-19 wedi tanlinellu rôl ganolog gofal cymdeithasol yn ein cymdeithas a rôl bwysig gweithwyr gofal rheng flaen. Mae'r trefniadau comisiynu presennol yn tueddu i arwain at lefelau cyflog sy'n parhau i fod ar yr isafswm statudol yn hytrach na galluogi codiadau i'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Er ein bod yn ymwybodol bod rhai darparwyr eisoes yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y sector yn byw ar gyflog isel ac mae eu trefniadau contractiol yn amrywio, sy'n cyfleu argraff nad yw gofalu yn rôl sy'n cael ei gwerthfawrogi neu'n un i anelu ati.
Mae tystiolaeth gynyddol y bydd gwella cyflogau, telerau ac amodau gweithwyr gofal o fudd i gyflogwyr a phobl sy'n derbyn gofal a chymorth.
Drwy alluogi'r rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol i gael eu hystyried yn weithwyr proffesiynol sydd â dyfodol cadarnhaol, gallwn fynd i'r afael â recriwtio a chadw staff ac ategu gwell darpariaeth o ran gofal a chymorth.
Mae achos moesol clir dros wella telerau ac amodau yn y sector. Ni ddylai'r rhai sy'n gofalu am ein hanwyliaid mewn cyfnod anodd iawn fod ymhlith y rhai lleiaf cydnabyddedig yn ein cymdeithas.
Bydd cyflawni gwelliannau o ran telerau ac amodau yn ei gwneud yn ofynnol i randdeiliaid weithio mewn partneriaeth oherwydd bod y sector gofal cymdeithasol yn gymhleth gyda dros fil o wasanaethau a chyflogwyr ar wahân. Bydd cysoni a gwella telerau ac amodau yn ymarfer heriol i bawb.
Ein man cychwyn o ran cydnabyddiaeth ariannol deg fydd gweithwyr rheng flaen mewn gwasanaethau annibynnol a gomisiynir ond bydd gan ein rhaglen waith oblygiadau i'r sector cyfan ac felly bydd gan bob rhanddeiliad rôl i'w chwarae wrth roi argymhellion y Fforwm ar waith.
Ein blaenoriaethau
Cydnabyddiaeth ariannol deg: Mynd i'r afael â thâl isel yn y sector annibynnol a gomisiynwyd
Mae'r Fforwm yn credu mai'r Cyflog Byw Gwirioneddol ddylai fod yr isafswm cyflog a delir i weithwyr gofal cymdeithasol.
Rôl y Fforwm yw sefydlu set glir o flaenoriaethau ar gyfer y sector ac argymhellion ar gyfer sut y dylid cyflawni'r blaenoriaethau hynny. Mae'r Fforwm o'r farn mai hon yw’r flaenoriaeth bwysicaf o ran gwella amodau gwaith yn y sector. O ran sut y dylid ei gyflawni, mae'r Fforwm yn cydnabod y bydd yr ymrwymiad hwn yn gofyn am chwistrelliad sylweddol o gyllid ac, oherwydd natur y sector, y bydd angen i hyn ddod o bwrs y wlad. Mae hyn y tu hwnt i gylch gwaith y Fforwm.
Er hynny, hyd yn oed gyda chyllid ar gael, bydd sicrhau bod cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael ei wella yn y tymor byr a'r tymor hwy hefyd yn gofyn am ymdrech ar y cyd ar ran yr holl randdeiliaid. Bydd y Fforwm yn darparu ffocws ar gyfer yr ymdrech honno ar y cyd a bydd yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r heriau sy'n wynebu rhoi codiadau cyflog ar waith yn y sector gofal cymdeithasol, a sut y gellid goresgyn y rhain.
Llais y cyflogai a chynrychiolaeth gyfunol: argymhellion y Fforwm a wnaed ar y cyd
Mae cael trefniadau ar waith ar gyfer llais y cyflogai a chynrychiolaeth gyfunol ynddo'i hun yn un o nodweddion sylweddol gwaith teg. Mae hefyd yn darparu proses sy'n helpu i sicrhau tegwch yn y meysydd eraill.
Fel y grŵp partneriaeth gymdeithasol deirochrog ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yw'r cyntaf o'i fath ac fe allai ddarparu model unigryw o fargeinio ar y cyd i'r sector annibynnol. Ei flaenoriaeth gyntaf felly fydd penderfynu sut y gallai'r model hwn o fargeinio ar y cyd weithredu ar y cyd â'r trefniadau bargeinio presennol a sut y bydd yn mynd ati i wneud, gweithredu a chyfleu ei argymhellion.
Bydd yn nodi'r camau y dylid eu cymryd i gynyddu aelodaeth sefydliadau cynrychioliadol yn y sector ac i ddiogelu llais y cyflogai.
Cyfle i gael mynediad at dwf a dilyniant: fframwaith cydnabyddiaeth a gwobrwyo teg i'r sector cyfan
Eleni, bydd y Fforwm yn dechrau egluro sut y dylai arferion da edrych mewn perthynas â thelerau ac amodau i'r rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol a datblygu fframwaith cydnabyddiaeth a gwobrwyo cysylltiedig. Bydd y fframwaith hwn yn gysylltiedig â hyfforddi a datblygu ac, yn y tymor hwy, mae'r Fforwm yn credu y dylai hyn fod yn gysylltiedig â dilyniant cyflog. Mae'r Fforwm yn benderfynol i’r Fframwaith ddarparu model o arferion da a fydd yn cefnogi llwybr datblygu gyrfa clir a chyson ar draws y sector cyfan yng Nghymru.
Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol: arferion da ar ddiogelwch yn y gweithle
Mae'r Pandemig wedi tynnu sylw at ddiogelwch a llesiant yn y gweithle. Mae'r Fforwm wedi sefydlu is-grŵp a fydd yn archwilio i ba raddau y mae gan weithwyr gofal cymdeithasol fynediad at amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol. Bydd y Fforwm yn ystyried tystiolaeth o'r angen i weithredu yn y maes hwn, a oes angen cymryd camau pellach i wella'r amgylchedd gwaith, ac i ba raddau y gallai llais y gweithiwr fod â rôl i'w chwarae wrth gefnogi amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol.
Diogelwch a hyblygrwydd
Bydd y Fforwm yn ceisio deall yr effaith oriau nad ydynt wedi'u gwarantu ar weithwyr ac i ba raddau y mae gweithwyr yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gallu cael mynediad atynt.
Ymchwil sylfaenol i fywydau gwaith Cynorthwywyr Personol yn y sector gofal cymdeithasol
Mae'r Fforwm wedi nodi bod angen archwilio rôl a phrofiadau Cynorthwywyr Personol yn agosach. O gofio’r diffyg tystiolaeth sydd ar gael, byddwn yn comisiynu ymchwil ar brofiadau Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â gwaith teg i gefnogi ein hystyriaethau yn y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth
Sefydlwyd Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ym mis Medi 2020 yn dilyn argymhelliad Comisiwn Gwaith Teg Cymru.
Mae'r Fforwm yn grŵp partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnwys cyflogwyr, cyflogeion, rhanddeiliaid a'r Llywodraeth ar sail gyfartal.
Yr aelodau yw:
- Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
- Fforwm Gofal Cymru
- GMB
- Fforwm Cenedlaethol y Darparwyr
- Coleg Nyrsio Brenhinol
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Cyngres yr Undebau Llafur
- Unsain
- Llywodraeth Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Penodwyd yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd yn Gadeirydd Annibynnol y Fforwm.