Vaughn Gething MS, Minister for Economy
Yn dilyn asesiad manwl a thrylwyr gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU), mae’n dda gen i gyhoeddi bod y Porthladd Rhydd Celtaidd a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn cael mynd i gam nesaf Rhaglen Porthladdoedd Rhydd Cymru.
Mae’r ddau borthladd rhydd – a’u safleoedd yn y De a’r Gogledd – yn cynnig cyfle go iawn i ni roi hwb i’n cynlluniau i greu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru.
Roedd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi esbonio gydag argyhoeddiad sut y byddent yn defnyddio eu statws fel porthladdoedd rhydd i adfywio cymunedau eu hardaloedd, cefnogi gwaith teg, creu hybiau ar gyfer masnach byd-eang a meithrin arloesedd.
Bydd llywodraethau Cymru a’r DU yn buddsoddi cyfalaf i gefnogi’r ddau borthladd rhydd a byddai nifer o fuddion ar gael iddynt o ran tollau a threthu, pan gytunir ar achos busnes bras. Bydd pecyn hael hefyd o gymorth masnachu ac arloesi ar gael i’r ddau borthladd rhydd.
Byddaf yn rhoi cyflwyniad manylach ar ganlyniad y broses, ynghyd â’r camau nesaf, mewn datganiad llafar i’r Senedd ddydd Mawrth, 28 Mawrth.