Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Hirdymor

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru a enwir yn y ddeddf weithio tuag at gyflawni saith nod llesiant, gan gynnwys ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Mae strategaeth 'Cymraeg 2050' yn nodi bod gan y system addysg rôl allweddol wrth wireddu’r targedau o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau o Gymraeg i 20% erbyn 2050. Un o nodau’r strategaeth yw ‘creu system addysg statudol sy’n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus’. Mae’r cynigion yn ceisio cyfrannu at wireddu’r targedau hyn drwy ehangu’r mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru, ni waeth beth fo categori ieithyddol yr ysgol y maent yn ei mynychu, neu ym mha gymuned maent yn byw a thrwy sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Yn y tymor hir, byddai hyn yn cyfrannu at wella sgiliau’r gweithlu, gan gynnwys y gweithlu addysg, gyda mwy o ddisgyblion yn mynd i’r gweithle gyda gwell sgiliau Cymraeg.

Yn benodol:

  • Byddai’r cynnig o ran rhoi sail statudol i’r targed miliwn o siaradwyr a chyfraniad y system addysg statudol at wireddu’r targed hwnnw yn sail gref wrth inni ehangu’r mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru.
  • Byddai cyflwyno un continwwm o sgiliau Cymraeg yn fodd o ddisgrifio taith iaith holl ddisgyblion Cymru wrth ddysgu’r Gymraeg ac wrth wneud cynnydd yn eu sgiliau ieithyddol.
  • Byddai sefydlu system gategoreiddio statudol yn disgrifio’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn ysgolion a gynhelir, ac yn rhoi’r fframwaith iddynt wneud cynnydd o ran y ddarpariaeth hon, boed hynny’n gynnydd oddi fewn i gategori ieithyddol neu’n symud i gategori uwch, a byddai trefniadau i awdurdodau lleol fonitro bod hynny’n digwydd.
  • Byddai’r cynllun cenedlaethol yn rhoi cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol am y disgwyliadau sydd arnynt i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg, ac arweiniad i’r sawl sy’n rhoi cefnogaeth i’r system addysg o ran caffael a dysgu’r Gymraeg.
  • Byddai Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol yn pennu pa gynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg y disgwylir ei weld fesul dalgylch, gan roi sylw i nifer o wahanol ffactorau sy’n berthnasol i’r dalgylchoedd hynny. Byddant yn gosod y seiliau ar gyfer hwyluso’r daith ieithyddol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
  • Byddai hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a darpariaeth drochi hwyr yn gosod sail gref i awdurdod lleol wneud penderfyniadau uchelgeisiol am addysg cyfrwng Cymraeg ac yn ehangu’r mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru, gan gynnwys disgyblion sy’n dymuno cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar wahanol bwyntiau mynediad.
  • Y nod wrth ganoli darpariaeth ar gyfer dysgu’r Gymraeg gydol oes fyddai rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad hirdymor i’r sector dysgu Cymraeg.

Atal

Byddai’r cynigion hyn yn ehangu mynediad plant a phobl ifanc yng Nghymru at y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg dros amser, gan gyfrannu at amcanion 'Cymraeg 2050'. Byddai’r cynigion yn cynyddu darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion ym mhob ardal, gan arwain at fwy o ddisgyblion mewn addysg statudol ledled Cymru yn cael mwy o ddarpariaeth Gymraeg, gan gyfrannu at hybu’r Gymraeg ym mhob ardal.

Byddai hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr i ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt o ran iaith addysg eu plant, gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau gwybodus ac yn ei dro, gyfrannu at nifer y dysgwyr sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.

Integreiddio

Mae cysylltiadau cynigion penodol ag agendâu polisi cyhoeddus wedi eu hamlinellu isod:

  • Darparu a hyrwyddo addysg drochi hwyr: Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at ‘Ehangu’r rhaglen drochi’
  • Continwwm: Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at ‘Sefydlu a gweithredu un continwwm dysgu Cymraeg.’ Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gosod gofyniad i bob ysgol ddysgu’r Gymraeg.

Cydweithio

Mae’r prif bartneriaid sydd â diddordeb cyffredin yn y cynigion hyn, ynghyd â sut maent wedi bod yn rhan o ddatblygu’r cynigion a’r gwaith o gynllunio i’w wireddu, wedi eu hadnabod fesul cynnig:

  • Continwwm: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Estyn, Cymwysterau Cymru, prifysgolion ac awdurdodau lleol. Mae cynrychiolwyr wedi cyfrannu trwy eistedd ar Grŵp Gorchwyl.
  • Categoreiddio: Awdurdodau lleol, penaethiaid ysgolion, cyrff llywodraethu ysgolion, rhieni a dysgwyr. Mae ymgysylltu gydag ysgolion wedi bod ar y cysyniad o gategoreiddio yng nghyd-destun y canllawiau anstatudol, a chyfarfodydd wedi eu cynnal.
  • Cynllun cenedlaethol: Mae trafodaethau gydag awdurdodau lleol wedi cymryd lle mewn fforymau addysg sirol, ac mae awdurdodau lleol wedi croesawu’r syniad o Lywodraeth Cymru yn gosod cyfeiriad strategol.
  • Cynlluniau awdurdodau lleol: Mae awdurdodau lleol wedi cyfrannu trwy ddatblygu a gweithredu’r CSCA presennol, a rhoi adborth ar y system honno. Cafodd pob awdurdod wahoddiad i ddatblygu canllawiau ynghylch dadansoddi data am y gweithlu addysg a manteisiodd pedwar ar y cyfle hwn. Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gydag Estyn am ei rôl arfaethedig.
  • Cefnogaeth: Ymarferwyr yn y sector addysg statudol ac ôl-statudol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Comisiynydd y Gymraeg, prifysgolion yn eu rôl fel darparwyr gwersi Cymraeg ac fel canolfannau ymchwil a chaffael iaith, colegau Addysg Bellach.

Cynnwys

Mae’r prif bartneriaid y mae’r cynigion yn effeithio arnynt a sut maent wedi bod yn rhan o ddatblygu’r cynigion a’r gwaith o gynllunio i’w gwireddu wedi eu hadnabod fesul cynnig. Bydd ymgysylltu gyda’r rhain yn ystod y cyfnod ymgynghori. 

  • Continwwm: Ymarferwyr, dysgwyr.
  • Categoreiddio: Mae ymgysylltu rheolaidd wedi bod gydag ysgolion, yn enwedig drwy’r Grŵp Categoreiddio Cenedlaethol, lle croesawyd y syniad o gyhoeddi canllawiau mwy manwl ar gyfer categoreiddio. Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gydag Estyn am ei rôl arfaethedig.
  • Cynllun cenedlaethol: Bydd y Cynllun yn cyffwrdd ar waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, awdurdodau lleol, y consortia addysg, Estyn, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, colegau Addysg Bellach, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, y Cyngor Gweithlu Addysg, darparwyr addysg gychwynnol athrawon a phrifysgolion.  
  • Cynlluniau awdurdodau lleol: Awdurdodau lleol ac Estyn, fel y nodir uchod. Bydd y cynnig hefyd yn effeithio ar gonsortia rhanbarthol, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion.
  • Cefnogaeth: Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y cynnig hwn.

Effaith, costau ac arbedion

Mae’r camau cychwynnol o gasglu tystiolaeth i gefnogi asesiad o’r costau, buddion ac anfanteision sy’n gysylltiedig â’r cynigion hyn wedi eu nodi yn yr amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Adran 8: casgliad

8.1 Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Mae cynrychiolwyr rhai o’r partneriaid sydd â diddordeb yng nghynnig y continwwm, sef y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Estyn, Cymwysterau Cymru, prifysgolion ac awdurdodau lleol, wedi cael cyfle i gyfrannu at y gwaith o gynllunio’r cynnig a’i wireddu trwy eistedd ar Grŵp Gorchwyl. Mae ymgysylltu wedi bod gydag ysgolion am y gyfundrefn gategoreiddio yng nghyd-destun y canllawiau anstatudol, a chroesawyd y syniad o greu canllawiau mwy manwl. Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gydag Estyn am ei rôl arfaethedig. Mewn fforymau addysg, mae Awdurdodau Lleol, prif bartneriaid cynnig y cynllun cenedlaethol, wedi croesawu’r syniad o Lywodraeth Cymru yn gosod cyfeiriad strategol. Mae awdurdodau lleol wedi cyfrannu at gynigion Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg trwy ddatblygu a gweithredu’r CSCA presennol a rhoi adborth ar y system honno. Manteisiodd pedwar awdurdod lleol ar y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad canllawiau ynghylch dadansoddi data a chynllunio’r gweithlu addysg. Mae trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gydag Estyn ynglŷn â’i rôl arfaethedig wrth fonitro. Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ynglŷn â chefnogaeth i wireddu amcanion y Bil. Bydd ymarferwyr a rhieni neu gofalwyr, yn ogystal â’r rhanddeiliaid a enwir uchod, yn cael cyfle i roi barn ar y cynigion yn ystod y cyfnod ymgynghori.

​​​​​​​8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Cynhaliwyd asesiadau effaith penodol ar y pynciau canlynol:

  • Hawliau plant
  • Cydraddoldeb
  • Y Gymraeg

Hawliau plant

  • Byddai’r cynigion yn ehangu mynediad plant a phobl ifanc yng Nghymru at y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg dros amser ac yn datblygu eu sgiliau Cymraeg, gan eu galluogi i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, ni waeth beth fo categori ieithyddol yr ysgol y maent yn ei mynychu, neu ym mha gymuned maent yn byw.
  • Byddai’r cynigion yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr Cymraeg mewn ysgolion o bob categori iaith, gan gynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
  • Byddai’r cynigion yn arwain at fwy o blant a phobl ifanc yn gadael y system addysg â sgiliau Cymraeg drwy osod deilliant ieithyddol newydd i’r system addysg. Gallai hyn arwain at ystod ehangach o gyfleodd i’r unigolion hyn o ran cyflogaeth ac yn eu bywydau bob dydd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r agenda trechu tlodi drwy rymuso plant a phobl ifanc sy’n meddu ar sgil ychwanegol pan fyddant yn gadael y system addysg.

Cydraddoldeb

  • Byddai’r cynigion dros amser yn ehangu mynediad disgyblion yng Nghymru at y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg, fel eu bod yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus a hyfedr.
  • Gallai’r cynigion, yn eu tro, gyfrannu at yr agenda trechu tlodi drwy roi sgiliau Cymraeg i ddisgyblion na fyddent o bosibl wedi cael y cyfle i’w datblygu cystal heb y cynigion hyn. O ganlyniad, mae’n bosibl y byddai’r disgyblion hyn yn gallu ymgeisio am swyddi lle mae’r Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol, gan eu galluogi i fanteisio ar ran o’r farchnad lafur na fyddai fel arall wedi bod yn agored iddynt.
  • Wrth i ni ddatblygu cynigion y Papur Gwyn ymhellach, byddwn yn ystyried goblygiadau’r Confensiwn Hawliau Dynol.

Y Gymraeg

  • Byddai’r cynigion hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg ac yn cyfrannu at wireddu amcanion Cymraeg 2050 a’r nod o ‘[g]reu system addysg statudol sy’n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus’. Byddant yn gwneud hyn drwy ehangu mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru dros amser, ni waeth beth fo categori ieithyddol yr ysgol y maent yn ei mynychu, neu ym mha gymuned maent yn byw a thrwy sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
  • Yn y tymor hir, byddai hyn yn cyfrannu at wella sgiliau’r gweithlu, gan gynnwys y gweithlu addysg, gyda mwy o ddisgyblion yn mynd i’r gweithle gyda gwell sgiliau Cymraeg.
  • Mae’r cynigion ynghylch y targed miliwn o siaradwyr a deilliant ieithyddol i ddysgwyr yn gosod sail gref i awdurdod lleol wneud penderfyniadau uchelgeisiol am ddarpariaeth Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal.
  • Byddai’r cynllun cenedlaethol yn rhoi cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth glir i awdurdodau lleol am eu disgwyliadau i gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac arweiniad i’r sawl sydd yn rhoi cefnogaeth i’r system addysg o ran caffael a dysgu’r Gymraeg. Byddai hyn yn gosod y seiliau ar gyfer hwyluso’r daith ieithyddol ar gyfer ysgolion a disgyblion Cymru.
  • Byddai’r cynigion sy’n ymwneud â sefydlu system gategoreiddio statudol a’r cynlluniau cyflawni cysylltiedig yn gosod gofyniad i ysgolion a gynhelir gwneud cynnydd o ran darpariaeth Gymraeg, boed hynny yn gynnydd oddi fewn i gategori ieithyddol neu’n symud i gategori ieithyddol uwch, a byddai trefniadau i fonitro bod hynny’n digwydd.
  • Gallai Gynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg awdurdodau arwain at gynnal neu wella cynaliadwyedd cymunedau sy’n siarad Cymraeg, drwy’r system addysg.
  • Gallai hyrwyddo addysg drochi hwyr ehangu mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru, gan gynnwys disgyblion sy’n dymuno cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar wahanol bwyntiau mynediad.
  • Y nod wrth ganoli cefnogaeth arbenigol ar gyfer dysgu’r Gymraeg gydol oes fyddai rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad hirdymor i’r sector dysgu Cymraeg. Rhoddir ystyriaeth briodol i unrhyw faterion hawliau dynol sy’n deillio o hyn. Mae’r cynigion ynghylch canoli’r gefnogaeth o fewn un sefydliad wedi eu llunio gyda’r bwriad eu bod yn cael eu gwireddu y tu allan i’r Bil.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu

  • yn osgoi, leihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru a enwir yn y ddeddf weithio tuag at gyflawni saith nod llesiant, gan gynnwys ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Bydd y cynigion hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at y ddyletswydd hon trwy gyfrannu at wireddu amcanion Cymraeg 2050 a’r nod o ‘[g]reu system addysg statudol sy’n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus.’
  • Bydd y cynigion yn cyfrannu at y nod llesiant o sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, trwy ehangu mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru dros amser, ni waeth beth fo categori ieithyddol yr ysgol y maent yn ei mynychu, neu ym mha gymuned maent yn byw a thrwy sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
  • Gallai’r cynigion gyfrannu at y nod llesiant o Gymru lewyrchus, drwy roi sgiliau Cymraeg i blant a phobl ifanc na fyddent o bosibl wedi cael y cyfle i’w datblygu heb y cynigion hyn, gan gyfrannu at yr agenda trechu tlodi. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd yr unigolion hyn yn gallu ymgeisio am swyddi lle mae’r Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol, gan eu galluogi i fanteisio ar ran o’r farchnad lafur na fyddai fel arall wedi bod yn agored iddynt.
  • Byddwn yn ymgynghori gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i osgoi, leihau neu liniaru unrhyw risgiau a fydd yn dod i’r amlwg wrth i’r cynigion gael eu datblygu.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Byddai awdurdodau lleol yn cyhoeddi adroddiadau adolygu blynyddol i Lywodraeth Cymru ar Gynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg, yn adrodd ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targed(au) a roddwyd i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru a’r targedau yn y CGCA arfaethedig.

Byddai Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad cenedlaethol o gynnydd yn erbyn y targedau yn y Cynllun Cenedlaethol yn flynyddol, gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan yr awdurdodau lleol yn eu hadroddiadau blynyddol ymhlith ffynonellau eraill. Byddai’r adroddiadau yn rhoi sail i gynllunio’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd nesaf.

Bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi’r dulliau arfaethedig ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso’r cynigion ar ôl gweithredu.

Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Amcanion polisi

Mae’r cynigion yn bwriadu trawsnewid y ffordd yr ydym yn meddwl am y Gymraeg a rôl addysg o fewn hynny, gan roi ffocws clir a phendant ar ddeilliannau ieithyddol dysgwyr . Mae’r cynigion yn cwmpasu:

  • Rhoi’r targed miliwn o siaradwyr Cymraeg ar wyneb y Bil fel bod sail statudol iddo.
  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio tuag at wireddu deilliant ieithyddol ar ddiwedd addysg statudol erbyn 2050, sef pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus – a hynny fel isafswm ar lefel sy’n gyfystyr â B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd.
  • Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatgan y continwwm sgiliau Cymraeg.
  • Sefydlu cyfundrefn statudol i gategoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith a chreu mecanwaith i symud ysgolion i gategori uwch.
  • Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio cynllun cenedlaethol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg gan gynnwys pennu targedau ar gyfer y gweithlu addysg Gymraeg.
  • Diwygio’r system o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i greu Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg ar gyfer cwrdd â’r targedau a osodir gan Weinidogion Cymru yn y cynllun cenedlaethol ynghylch cynyddu darpariaeth Gymraeg yn eu hardal. 
  • Cefnogi ysgolion a’r system addysg yn ehangach i wireddu amcanion y Bil a phontio’r gefnogaeth i ysgolion gyda’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg ar gyfer pob oedran.
  • Canoli cefnogaeth arbenigol ar gyfer dysgu’r Gymraeg gydol oes, gan gynnwys addysg ysgolion, o fewn yn sefydliad. I’w wireddu y tu allan i’r Bil.

Mae strategaeth 'Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr' yn nodi bod gan y system addysg rôl allweddol wrth wireddu’r targedau o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau o Gymraeg, i 20 y cant erbyn 2050. Un o nodau’r strategaeth yw ‘creu system addysg statudol sy’n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus’. Mae’r cynigion hyn yn cyfrannu at wireddu’r targedau hyn drwy ehangu’r mynediad at y Gymraeg i ddisgyblion yng Nghymru, ni waeth beth fo categori ieithyddol yr ysgol y maent yn ei mynychu, neu ym mha gymuned maent yn byw a thrwy sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Bydd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn digwydd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Cyffredinol

  • Byddai’r cynigion yn ehangu mynediad plant a phobl ifanc yng Nghymru at y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg dros amser ac yn rhoi cyfleodd iddynt ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, ac i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, ni waeth beth fo categori ieithyddol yr ysgol y maent yn ei mynychu, neu ym mha gymuned maent yn byw.

Penodol

  • Gallai’r nod i weithio tuag at wireddu deilliant ieithyddol ar ddiwedd y cyfnod statudol arwain at ystod ehangach o gyfleoedd i ddysgwyr o ran cyflogaeth ac yn eu bywydau bob dydd.
  • Byddai’r continwwm sgiliau iaith yn cyfrannu at ddealltwriaeth plant a phobl ifanc o’r deilliannau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o’r daith i ddysgu’r Gymraeg.
  • Byddai cyfundrefn statudol i gategoreiddio ysgolion, ynghyd â’r cymhellion i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a threfniadau i fonitro hyn, yn ehangu mynediad plant a phobl ifanc at ddarpariaeth Gymraeg dros amser ym mha bynnag ardal maen nhw’n byw, ac yn sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol yn rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
  • Gallai cynnig y cynllun cenedlaethol, yn ei dro, gyfrannu at yr agenda trechu tlodi drwy roi sgiliau Cymraeg i blant a phobl ifanc na fyddent o bosibl wedi cael y cyfle i’w datblygu heb y cynnig hwn. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd yr unigolion hyn yn gallu ymgeisio am swyddi lle mae’r Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol, gan eu galluogi i fanteisio ar ran o’r farchnad lafur na fyddai fel arall wedi bod yn agored iddynt. Byddai’r cyfeiriad clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch caffael y Gymraeg gydol oes yn arwain at fwy o blant a phobl ifanc, beth bynnag fo’u hoedran, yn gallu parhau i ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg.
  • yddai cynnig Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg yn gallu arwain at ehangu mynediad disgyblion ledled Cymru at addysg cyfrwng Cymraeg, pa bynnag ardal yng Nghymru maent yn byw ynddi, a chynyddu nifer y disgyblion sy’n datblygu sgiliau Cymraeg.
  • Byddai mwy o ysgolion yn cynnig darpariaeth Gymraeg yn arwain at fwy o blant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Y bwriad fyddai i hyn yn ei dro, gynyddu’r cyfleoedd i bobl ymwneud a chyfathrebu â’i gilydd yn y Gymraeg, mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys y gweithle.
  • Gallai gynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ganiatáu i blant a phobl ifanc aros yn eu cymunedau a chwtogi ar deithio.
  • Byddai’r cynnig o hyrwyddo darpariaeth drochi hwyr yn ehangu’r mynediad at y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n dymuno cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar wahanol bwyntiau mynediad. 

 

Wrth i ni ddatblygu cynigion y Papur Gwyn ymhellach, byddwn yn ystyried goblygiadau’r Confensiwn Hawliau Dynol.

Erthyglau neu Brotocol Dewisol y Confensiwn
Erthyglau neu Brotocol Dewisol y Confensiwn Yn Gwella (X) Yn Herio (X) Esboniad
Erthygl 28: Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i gael addysg, a chyda golwg ar sicrhau’r hawl hon yn gynyddol ac ar sail cyfle cyfartal. X  

Mae’r cynigion hyn yn sicrhau bod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i wella darpariaeth Gymraeg a chefnogi’r rhai hynny sy’n dymuno manteisio arni.

Erthygl 29: Mae Partïon Gwladwriaethau yn cytuno bod yn rhaid cyfeirio addysg y plentyn at fagu parch at rieni’r plentyn, ei hunaniaeth ddiwylliannol, ei iaith a’i werthoedd ei hun, a gwerthoedd cenedlaethol y wlad lle mae’r plentyn yn byw. X  

Mae’r cynigion hyn yn cefnogi strategaeth 'Cymraeg 2050' sy’n anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r cynigion hyn, drwy’r system addysg statudol, yn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru, ac yn annog plant i fanteisio arnynt drwy’r darpariaethau a gyflawnir drwy’r cynigion hyn.

Erthygl 30: Yn y Gwladwriaethau hynny lle mae lleiafrifoedd ethnig, crefyddol neu ieithyddol neu bersonau o darddiad brodorol yn bodoli, rhaid peidio â gwrthod hawl i blentyn sy’n perthyn i’r lleiafrif hwnnw, neu sy’n frodor, fwynhau ei ddiwylliant ei hun, proffesu ac arfer ei grefydd ei hun, neu ddefnyddio ei iaith ei hun mewn cymuned gydag aelodau eraill o’i grŵp.

X  

Bwriad y cynigion hyn, o’u datblygu ymhellach, yw hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc i fanteisio ar y Gymraeg a diwylliant Cymru drwy hyrwyddo cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r iaith yn unol â’u hawliau i gyfranogiad diwylliannol.

Erthygl 31

1. Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn i orffwys a chael hamdden, i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.

2. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu a hybu hawl y plentyn i gymryd rhan lawn mewn bywyd diwylliannol a chelfyddydol a rhaid iddynt hyrwyddo’r broses o ddarparu cyfleoedd priodol a chyfartal ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, celfyddydol ac adloniadol a gweithgareddau hamdden.

X   Bwriad y  cynigion hyn, o’u datblygu ymhellach, yw bod awdurdodau lleol yn hyrwyddo gweithgareddau anffurfiol drwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn cynnwys gweithgareddau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol.

Cyngor Gweinidogol a Phenderfyniad y Gweinidog

Bydd dadansoddiad yr effeithiau yn cael eu rhannu gyda Gweinidogion wrth iddynt wneud penderfyniadau am gyhoeddi’r Papur Gwyn. 

Monitro ac Adolygu

Bydd Awdurdodau Lleol yn cyhoeddi adroddiadau adolygu blynyddol i Lywodraeth Cymru ar Gynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg, yn adrodd ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targed(au) a roddir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru.

Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad cenedlaethol o gynnydd yn erbyn y targedau yn y Cynllun Cenedlaethol bob pum mlynedd, gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan yr awdurdodau lleol yn eu hadroddiadau blynyddol ymhlith ffynonellau eraill. Byddai’r adroddiadau cyn diwedd y cyfnod 5 mlynedd yn rhoi sail i gynllunio’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd nesaf.

Bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi’r dull arfaethedig ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso’r cynigion ar ôl gweithredu.