Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n ddiolchgar i'r holl unigolion a sefydliadau a gymerodd yr amser i ymateb i ein hail ymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio gofynion cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Heddiw mae'n bleser gen i gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny.
Roedd yr ail ymgynghoriad hwn yn gyfle i randdeiliaid wneud sylwadau ar yr offeryn statudol drafft a'n dadansoddiad o effeithiau posibl ein cynigion. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Chwefror a derbyniwyd 29 o ymatebion.
Cafwyd cefnogaeth eang i'r ddeddfwriaeth newydd a fydd yn mynd i'r afael ag anghysondebau yn y gofynion presennol ac yn ei gwneud yn ofynnol i grwpiau ychwanegol gofrestru gyda'r CGA, fel staff ysgolion annibynnol, a gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig, cyflogedig. Mae'r gwaith o gryfhau'r rheoliadau a fydd yn cynyddu mesurau diogelu i amddiffyn plant mewn ysgolion annibynnol ac yn parhau i broffesiynoli'r gweithlu gwaith ieuenctid hefyd yn parhau, a hynny’n gyflym.
Bydd ein cynigion, felly, yn mynd yn eu blaenau heb newidiadau i raddau helaeth a, lle codwyd pryderon neu y gofynnwyd am eglurhad, mae'r materion hyn wedi cael sylw yn y crynodeb o'r ymatebion a gyhoeddwyd heddiw.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yn ddiweddarach yn y gwanwyn.