Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Fe wnaethon ni gyhoeddi Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, ym mis Gorffennaf 2017. Cyhoeddwyd ail Raglen Waith y strategaeth ym mis Gorffennaf 2021 ac fe fydd hi, ochr yn ochr â’r Rhaglen Lywodraethu yn sail i’n cynlluniau tan y Senedd nesaf. Mae rhai elfennau hefyd yn ymddangos yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol yn esbonio sut y byddant yn gweithredu’r cynigion a amlinellir yn eu strategaeth iaith yn ystod pob blwyddyn ariannol. Dyma’r cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Ers cyhoeddi ein cynllun gweithredu diwethaf, mae peth o ddata Cyfrifiad 2021 wedi’i ryddhau. Cyhoeddwyd y canlyniadau cychwynnol o ran y Gymraeg ym mis Rhagfyr 2022. Gwelwyd cwymp yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg tair oed neu’n hŷn o 562,000 (19.0%) yn 2011 i 538,300 (17.8%) yn 2021 ac roedd hyn yn destun siom. Mae’n bwysig nodi nad yw’r cyfrifiad yn cynnig data am ddefnydd iaith.

Rydym eisoes wrthi’n dadansoddi’r canlyniadau hyn, ac yn eu hystyried ochr yn ochr â’r holl ffynonellau data ac ymchwil eraill sydd ar gael i ni gan gynnwys y data diweddaraf am y boblogaeth. Mae data ysgolion yn dweud wrthym ni bod mwy o blant nag erioed mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dweud wrthym ni bod nifer cynyddol o oedolion yn nodi bod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg.

Adeg cyhoeddi’r cynllun gweithredu hwn, rydym yn disgwyl rhagor o ganlyniadau Cyfrifiad 2021, yn benodol am drosglwyddo’r Gymraeg rhwng y cenedlaethau a’r Gymraeg yn ôl nodweddion eraill megis rhyw ac ethnigrwydd. Ar ôl dadansoddi’r darlun cyfan, byddwn yn adolygu’n blaenoriaethau yn ôl y galw er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Cefndir

Mae gan ‘Cymraeg 2050’ ddau brif darged:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013 i 2015) i 20% erbyn 2050.

Mae’r targedau hyn yn darparu naratif glir i ni i gyd yng Nghymru, i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus a holl ddinasyddion ein gwlad: mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Yn ogystal, mae popeth a wnawn o dan y Cynllun hwn yn cofleidio gair ac ysbryd 'Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015', yn benodol: 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu'.

Mae ‘Cymraeg 2050’ yn seiliedig ar dair thema strategol:

  1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
  2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  3. Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr egwyddorion hyn wrth i ni weithio ar draws meysydd polisi’r Llywodraeth gan dalu sylw penodol eleni i:

  • bwysigrwydd cynnal y Gymraeg fel y brif iaith sy’n cael ei siarad mewn
  • cymunedau yn y gorllewin a'r gogledd-orllewin sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg
  • cyrhaeddiad disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wrth iddynt astudio’r Gymraeg
  • creu dinasyddion dwyieithog drwy gynnig cyfleoedd i bawb o bob oed ddysgu Cymraeg ac i’w defnyddio’n rheolaidd
  • dadansoddi ystod o ffynonellau data er mwyn ceisio deall yn well beth sydd wrth wraidd y gwahaniaethau o ran y niferoedd sy’n nodi eu bod yn medru’r Gymraeg rhwng gwahanol ffynonellau
  • cyhoeddi polisi seilwaith ieithyddol terfynol
  • parhau gyda rhaglen Safonau’r Gymraeg
  • parhau i ddatblygu’r Bil Addysg Gymraeg
  • paratoi’r rhaglen waith technoleg Cymraeg nesaf
  • datblygu’r gweithlu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y byd addysg
  • parhau i roi ffocws ar drosglwyddo’r iaith yn y cartref a sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg a’r Cynnig Gofal Plant
  • parhau i brif-ffrydio ‘Cymraeg 2050’ ym mhob un o bortffolios y Llywodraeth

Meysydd gwaith

Thema 1: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae creu dinasyddion dwyieithog sy’n hyderus eu sgiliau Cymraeg a Saesneg yn greiddiol i ‘Cymraeg 2050’. Rydym am i bobl fod â’r gallu a’r cymhelliant i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gymuned, yn y gweithle ac yn eu bywydau bob dydd. Byddwn felly’n parhau i wneud yn siŵr bod darpariaeth addysg amrywiol ar gael ar draws yr holl gyfnodau dysgu – o’r blynyddoedd cynnar, addysg statudol ac addysg ôl orfodol, yn y gweithle ac yn y gymuned.

Y blynyddoedd cynnar

Mae ehangu darpariaeth meithrin cyfrwng Cymraeg ledled y wlad, er mwyn cynnig llwybr tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i gynifer o blant ag sy’n bosibl yn parhau’n un o’n blaenoriaethau. Byddwn felly’n parhau i weithio gyda’n partner allweddol, Mudiad Meithrin, yn y maes hwn a byddwn yn gweithio’n agos drwy’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i ehangu’r gwaith hwn ymhellach.

Mae Mudiad Meithrin wedi llwyddo i gyrraedd y targed cychwynnol o sefydlu 40 darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg newydd fel rhan o’r rhaglen Sefydlu a Symud (SAS), a hynny er gwaethaf effaith COVID-19. Bydd y rhaglen yn parhau i weithio tuag at y targed nesaf sef agor 60 o ddarpariaethau yn ystod tymor y Senedd hon i gael 150 o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar newydd erbyn 2026.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn parhau i gefnogi Mudiad Meithrin i ddatblygu gweithlu’r blynyddoedd cynnar drwy gynlluniau tebyg i’r cynllun hyfforddiant prentisiaethau a’r Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam mewn ysgolion. Cynllun yw hwn i ddisgyblion ôl-14 ac ôl-16 ddilyn cymhwyster galwedigaethol mewn gofal plant er mwyn eu paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes hwn.

Ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, cyhoeddwyd £3.8 miliwn dros dair blynedd (hyd at 2024 i 2025) i gefnogi a thyfu darpariaeth ac ymarferwyr cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Yn ystod 2023 i 2024, bydd y gwaith o recriwtio 100 o ymarferwyr i ymgymryd â chymwysterau gofal plant Lefel 3 cyfrwng Cymraeg drwy bartneriaid blynyddoedd cynnar Cwlwm a recriwtio 50 yn ychwanegol i ymgymryd â chymwysterau gofal plant Lefel 5 cyfrwng Cymraeg drwy Mudiad Meithrin yn cael ei roi ar waith.

Mae gwaith i ehangu a chryfhau’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg drwy raglen Dechrau'n Deg wedi dechrau, mae’n cynnwys yr holl wasanaethau Dechrau'n Deg sy'n cael eu cynnig i tua 2,500 o blant ychwanegol o dan bedair oed. Dyma’r cam cyntaf tuag at ein hymrwymiad uchelgeisiol i ehangu gofal plant wedi'i ariannu i bob plentyn dwy flwydd oed, fel yr amlinellir yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) pob awdurdod lleol yn cydnabod rôl rhaglen Dechrau’n Deg wrth iddynt gynllunio’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda thargedau ynddynt i gynyddu’r ddarpariaeth yn ystod oes y CSCA.

Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn parhau i gefnogi rhieni i ddefnyddio Cymraeg gyda’u plant, ac i ddewis gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Byddwn hefyd yn parhau i weithredu’n Polisi Cenedlaethol ar gyfer Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd.

Addysg statudol

Bil Addysg Gymraeg

Mae ‘Rhaglen Waith Cymraeg 2050 (2021 i 2026)’ a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru yn ein hymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod tymor y chweched Senedd. Byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg a’r rhaglen bolisi ehangach ar 27 Mawrth 2023.

Pwrpas y cynigion yn y Papur Gwyn fydd hwyluso’r gwaith o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg er mwyn cyrraedd y miliwn erbyn 2050. Bydd y Papur Gwyn yn cynnig camau deddfwriaethol er mwyn cefnogi cynnydd disgyblion ar hyd y continwwm iaith a chefnogi pob disgybl i ddod yn siaradwr Cymraeg erbyn diwedd ei addysg statudol, a hynny erbyn 2050. Mae hynny’n cynnwys gosod seiliau cadarn i gynyddu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ogystal â chynllunio am gynnydd parhaus i wella deilliannau ieithyddol disgyblion ym mhob ysgol.

Pan ddaw’r ymgynghoriad i ben, byddwn yn ystyried yr ymatebion ac yn parhau gyda’r gwaith i ddatblygu’r Bil.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn parhau i fod yn sail ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Eu nod yw cynyddu mynediad at ddysgu Cymraeg ar draws pob categori ysgol ym mhob rhan o Gymru, waeth beth fo cyfrwng y dysgu. Maent yn cefnogi ein huchelgais i weld pawb sy’n dysgu mewn ysgol neu leoliad yng Nghymru yn cael eu cefnogi i fwynhau defnyddio’r Gymraeg, i wneud cynnydd parhaus wrth ei dysgu ac i fod â’r hyder a’r sgiliau i allu dewis defnyddio’r iaith y tu hwnt i’r byd addysg.

Mae pob CSCA yn ei le ers mis Medi 2022 ac mae pob awdurdod lleol wedi cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer 5-mlynedd gyntaf y Cynlluniau. Byddwn yn monitro’r gwaith ar sail adroddiad adolygu blynyddol a bydd ein swyddogion CSCA yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau gydol y flwyddyn i gynnig arweiniad a chymorth. 

Byddwn ni a’r awdurdodau lleol yn defnyddio ein Canllaw categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o’r gwaith hwn. Bydd yn gymorth wrth gynnig mwy o eglurder ynghylch y cynnydd ieithyddol disgwyliedig a’r deilliannau i ddisgyblion yn ôl cyfrwng addysgu’r ysgol. Bydd hyn yn ei dro yn cefnogi rhieni i wneud penderfyniadau deallus am addysg eu plant. Bydd hefyd yn annog ac yn cefnogi pob ysgol i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg.

Bydd arian cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn parhau i gefnogi ymdrechion awdurdodau lleol i weithredu eu CSCA. Mae dros £112 miliwn o arian cyfalaf cyfrwng Cymraeg wedi’i gymeradwyo i gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru ers 2018 gyda chynlluniau i ehangu’r gefnogaeth ariannol ymhellach yn ystod 2023 i 2024. Bydd y buddsoddiad yn galluogi mwy o ddysgwyr i ddod yn siaradwyr dwyieithog hyderus.

Mae trochi hwyr yn rhan hollbwysig o’r darlun hwn ac rydym wedi ymrwymo yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i fuddsoddi £6.6 miliwn tan ddiwedd tymor y Senedd hon i gefnogi darpariaeth trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd y cyllid yn parhau i gefnogi darpariaethau sydd eisoes wedi'u sefydlu (canolfannau neu unedau) neu’n arwain at allu sefydlu darpariaethau trochi hwyr newydd. Rydym wedi sefydlu rhwydwaith i roi cyfle i swyddogion ddod ynghyd ag athrawon trochi i godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddarpariaethau, y datblygiadau diweddaraf ac arferion gorau da sydd ar waith ledled Cymru.

Byddwn yn parhau i arloesi yn y maes er enghraifft drwy gefnogi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gynnal prosiect peilot cyffrous gydag ysgol lle mae disgyblion yn defnyddio ap 'Say Something in Welsh' bob dydd. Mae cynllun peilot llwyddiannus eisoes wedi’i gynnal gydag ysgolion ym Merthyr Tudful ac ar Ynys Môn a byddwn yn ymestyn y cynllun i o leiaf 10 ysgol newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Byddwn yn parhau i ariannu prosiect e-sgol hefyd yn unol â 'Chynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg' er mwyn 'Cynyddu darpariaeth e-sgol fel ffordd o alluogi dysgwyr i fanteisio ar gwricwlwm ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel TGAU a Safon Uwch'. Byddwn yn parhau i drafod gydag awdurdodau lleol er mwyn ymestyn y ddarpariaeth ledled Cymru er mwyn i fwy o blant nag erioed gael mynediad at bynciau a sesiynau astudio Cyrsiau Carlam Cymru diolch i’r prosiect arloesol hwn.

Cwricwlwm i Gymru

Cyflwynwyd y Cwricwlwm i Gymru ym mhob ysgol gynradd ym mis Medi 2022, ac mewn rhai ysgolion uwchradd i ddysgwyr ym Mlwyddyn 7.

Yn y Cwricwlwm i Gymru, mae cynnydd mewn dysgu’n cael ei gyflwyno fel continwwm ym mhob maes. Ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, mae disgrifiadau dysgu yn dangos cynnydd plant 3 i 16 oed o ddechrau’n ddi-iaith neu gydag ychydig o iaith tuag at hyfedredd.

Cyhoeddwyd Fframwaith ar gyfer Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg ym mis Hydref 2022. Mae’r fframwaith anstatudol hwn ar gyfer pob ymarferydd mewn addysg cyfrwng Saesneg sy’n rhan o’r gwaith o drefnu, cynllunio, asesu ac adolygu Cymraeg yn eu cwricwlwm. Bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei ddysgu a’i addysgu, yn ogystal â’u dealltwriaeth o gynnydd. Gall ysgolion ddefnyddio’r canllawiau hyn wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm ac asesu i helpu i nodi’r wybodaeth, sgiliau, profiadau ac ymagweddau a fydd yn ganolog iddo. Bydd y fframwaith, ynghyd â deunyddiau ategol, adnoddau a dysgu proffesiynol, yn cefnogi ysgolion i wella dysgu ac addysgu Cymraeg.

Addysg ôl-orfodol

Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu’r ddarpariaeth addysg uwch yn unol â’u Cynllun Academaidd diwygiedig, ac yn cydweithio gyda phrifysgolion Cymru i sicrhau bod rhagor o fyfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yn cael rhywfaint o’u cwrs yn Gymraeg. Bydd y Coleg hefyd yn cynnal dau brosiect addysg gychwynnol athrawon i gefnogi Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg. 

Bydd y Coleg yn adeiladu ar y prosiectau strategol a gyflawnwyd eisoes i ddatblygu darpariaeth a chapasiti mewn colegau addysg bellach, gan ymestyn y cyfleoedd i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. I gyflawni hyn, bydd y Coleg yn cydweithio gyda phartneriaid strategol a’r sector ôl-16, gan osod seilwaith gadarn yn ei lle.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, byddwn yn dyrannu £2.825 miliwn ychwanegol i’r Coleg ar gyfer 2023 i 2024 i ehangu’r seilwaith yn y colegau ac ymestyn cefnogaeth bwrpasol i’r sector prentisiaethau mewn partneriaeth â’r prif ddarparwyr yn y maes. Yn y sector addysg bellach, y nod yw parhau i gryfhau a chefnogi’r ddarpariaeth yn y sectorau hamdden a chwaraeon, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant ac amaethyddiaeth; yn ogystal ag ymestyn y ddarpariaeth yn y sectorau busnes a'r celfyddydau creadigol.

Yn y sector prentisiaethau, bydd y Coleg yn cefnogi prosiectau strategol i ddatblygu capasiti ac ehangu’r ddarpariaeth ym meysydd iechyd a gofal, a gofal plant, ynghyd â datblygu isadeiledd i gefnogi datblygiad y Gymraeg ar draws y rhwydwaith o ddarparwyr. Bwriad datblygu’r strwythur hwn yw galluogi mwy o ddysgwyr i siarad Cymraeg a bod yn siaradwyr dwyieithog hyderus ar gyfer y gweithle.

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan) yn parhau i sicrhau ei bod yn adeiladu ar y diddordeb cynyddol sy’n bodoli i ddysgu Cymraeg, gan ddarparu ystod eang o gyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb lle’n bosib.

Fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio, bydd y Ganolfan yn derbyn £1.675 miliwn ar gyfer 2023 i 2024. Bydd yr arian hwn yn datblygu ac ehangu'r cyfleoedd Dysgu Cymraeg am ddim yn benodol i unigolion 16 i 25 oed. Bydd yr arian hefyd yn ehangu’r gefnogaeth ar gyfer y sector addysg, gan sicrhau bod gweithwyr yn y sector addysg yn cael mynediad at wersi Cymraeg ar bob lefel yn rhad ac am ddim.

Bydd y Ganolfan yn parhau i weithredu’r cynllun Cymraeg Gwaith, gan ddarparu cyrsiau sy’n amrywio o gyrsiau blasu hunan-astudio ar-lein i gyrsiau preswyl dwys. Yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd ohoni, mae Cymraeg Gwaith hefyd yn caniatáu i gyrff ddarparu gwasanaethau Cymraeg gwell i'w defnyddwyr. Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu at ein hagenda o gynyddu cyfleoedd i bobl allu defnyddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd.

Bydd y Ganolfan yn parhau i weithredu a datblygu ei phartneriaeth ffurfiol gyda 'Say Something in Welsh' a 'Duolingo' i gynyddu’r arlwy a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheiny sydd eisiau dysgu Cymraeg. 

Bydd y Ganolfan yn parhau i redeg prosiect peilot i gymell siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgolion i helpu i addysgu Cymraeg mewn ysgolion. Bydd y Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector addysg i gynnig cwrs hyfforddi i fyfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Bydd y prosiect hefyd yn cynnig profiad lleoliad gwaith mewn ysgolion uwchradd. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn denu pobl ifanc i'r byd addysgu a'r sector Dysgu Cymraeg, ac yn helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion.

Adnoddau addysgol

Byddwn yn parhau gyda’n rhaglen i sicrhau bod adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi holl feysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm newydd 3 i 16 oed, ynghyd â chymwysterau 14 i 19 oed. Byddwn yn rhoi sylw penodol i adnoddau i gefnogi addysgu a dysgu’r Gymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, adnoddau trochi, adnoddau ar hanes Cymru a hunaniaeth, ynghyd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd Adnodd, y cwmni adnoddau newydd, yn weithredol o 1 Ebrill. Bydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth a’r gwaith o gomisiynu adnoddau yn digwydd mewn ffordd fwy strategol a chydlynus. Bydd yn arwain at greu adnoddau o ansawdd a chydraddoldeb yn y ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg, gan gydweithio ar draws gwahanol sectorau i wneud y defnydd gorau o’r arbenigedd a’r gyllideb sydd ar gael yn genedlaethol. 

Athrawon

Byddwn yn parhau i weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022 i gyd-fynd â chyfnod 10-mlynedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r cynllun yn cynnwys nifer o gamau gweithredu sy’n gofyn am gydweithio rhwng nifer o randdeiliaid allweddol er mwyn gwireddu pedwar nod:

  • Cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg fel pwnc ac addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cefnogi dysgwyr.
  • Datblygu sgiliau Cymraeg pob ymarferydd a’i arbenigedd i addysgu’r Gymraeg ac i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Meithrin gallu arweinwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod gan bob arweinydd y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant o ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.

Bydd Grŵp Gweithredu Allanol yn parhau i fonitro cynnydd wrth weithredu’r cynllun a’r cadeirydd annibynnol, Rhodri Llwyd Morgan, yn adrodd i'r Gweinidog yn rheolaidd.

Thema 2: cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

Mae nod cyntaf 'Cymraeg 2050', sef cyrraedd miliwn o siaradwyr, wedi gafael yn nychymyg y cyhoedd ers cyhoeddi’r strategaeth yn 2017. Ond rydym wrth reswm yn rhoi’n sylw llawn hefyd i’r ail nod, sef dyblu’r niferoedd ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Rydym wedi datgan yn gyhoeddus y byddwn yn gweld popeth a wnawn yng nghyd-destun ‘Cymraeg 2050’ drwy lens defnydd iaith. Yn ystod 2023 i 2024, byddwn yn cymryd camau i gynnal a chynyddu’r defnydd o’n hiaith yn y cartref, ar lefel gymunedol, ar iard yr ysgol, mewn gweithleoedd ac mewn busnesau.

Defnydd cymunedol o’r Gymraeg

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i gefnogi’r gwaith o gynnal arolwg sosio-ieithyddol cynhwysfawr o’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Bydd yr arolwg yn seiliedig ar y gwaith dadansoddi manwl a wnaed gan Conchúr Ó Giollagáin ac eraill mewn cymunedau lle mae Gaeleg yr Alban yn iaith gymunedol. Bwriad yr arolwg fydd rhoi gwell sail dystiolaeth o sefyllfa’r Gymraeg yn ein cymunedau er mwyn ategu ein dealltwriaeth o’r ymyraethau polisi sydd eu hangen er mwyn diogelu’r cymunedau hynny.

Byddwn hefyd yn talu sylw penodol i’r cysylltiad rhwng datblygu cymunedol a’r economi â’r Gymraeg, ac yn cynyddu’n hymwneud yn benodol â’r sector mentrau cymdeithasol a chydweithredol.

Wrth i fwy o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg gael eu cyhoeddi, bydd nifer o’r mentrau iaith yn mynd ati i ddiwygio eu proffiliau iaith ac o ganlyniad yn adolygu eu cynlluniau gwaith unigol ar gyfer y flwyddyn 2023 i 2024 ymlaen.

Byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth grant i amrywiol sefydliadau er mwyn cyfrannu at gyflawni amcanion ‘Cymraeg 2050’. Mae hyn yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Clybiau’r Ffermwyr Ifanc a llawer mwy. Yn 2023 i 2024, byddwn yn cyhoeddi adolygiad o’r Cynllun Grantiau i Hyrwyddo a Hwyluso’r Defnydd o’r Gymraeg. Wedi ei gyhoeddi, awn ati i ymateb i argymhellion yr adroddiad.

Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd

Mae’n Polisi Trosglwyddo yn canolbwyntio ar:

  • Ysbrydoli plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda’u plant nhw yn y dyfodol.
  • Ailgynnau sgiliau Cymraeg pobl a allai fod heb ddefnyddio’r Gymraeg ers gadael yr ysgol, neu sy’n ddihyder eu sgiliau iaith, i siarad Cymraeg gyda’u plant eu hunain.
  • Cefnogi ac annog y defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg.
  • Cefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda’u plant.

Adeg cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu hwn, rydym yn dal i ddisgwyl data o Gyfrifiad 2021 am gyfansoddiad ieithyddol cartrefi Cymru. Bydd y data hyn yn gymorth i ni ddeall y teuluoedd a all fod wedi trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant 0 i 4 oed. Byddwn yn defnyddio’r data i hysbysu’r ymyraethau y byddwn yn eu cynnal yn y maes. Mae ystadegau’n dangos yn glir bod defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn blentyn yn dylanwadu’n gryf ar amlder defnydd o’r Gymraeg pan yn hŷn.

Yn 2023 i 2024, byddwn yn astudio’r data newydd ac yn treialu ymyraethau i gynyddu trosglwyddo iaith mewn teuluoedd. Bydd yr ymyraethau hyn yn seiliedig ar wyddoniaeth newid ymddygiad.

Maes ieuenctid

Byddwn yn mynd ati i ddatblygu polisi newydd i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg, gan roi ffocws ar bontio rhwng y byd addysg, y gymuned a’r teulu. Byddwn yn cydweithio’n helaeth ar draws y Llywodraeth, gyda rhanddeiliaid allanol gan gynnwys pobl ifanc i siapio’r gwaith hwn.

Mae’r Siarter Iaith yn parhau i fod yn ymyrraeth allweddol o ran cynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg. Ers ehangu’r Siarter i fod yn rhaglen genedlaethol, mae’r byd o’n cwmpas wedi newid. Mae twf technoleg a’r maes digidol yn parhau i effeithio ar arferion ieithyddol ein plant a phobl ifanc a sut maen nhw’n cymdeithasu. Credwn fod hyn oll, gan gynnwys cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, yn galw am ddiweddaru a datblygu’r Siarter. Byddwn yn gwneud hynny drwy weithio gyda rhanddeiliaid er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn arf arbennig i gynyddu defnydd iaith anffurfiol a chymdeithasol plant a phobl ifanc Cymru.

Byddwn yn parhau i ariannu’r Urdd, Clybiau’r Ffermwyr Ifanc, ymysg partneriaid eraill, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’u Cymraeg. Cyhoeddwyd ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag S4C ym mis Chwefror 2023. Mae’n cynnwys ymrwymiadau sy’n ymwneud â’r Gymraeg a phobl ifanc, felly bydd yn gyfrwng i ni gryfhau’n perthynas gydag S4C er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fwynhau’r Gymraeg mewn amrywiol ffyrdd.

Gofodau Cymraeg

Yn unol â’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, byddwn yn mynd ati i gynnal a chreu rhagor o leoedd cyfrwng Cymraeg i greu siaradwyr newydd a chynyddu defnydd dyddiol o’n hiaith.

Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Yn sgil cyhoeddi adroddiad, Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru (Mawrth 2021), fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg lansio Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst 2022. Prif waith y Comisiwn yw ystyried dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol a gwneud argymhellion polisi cyhoeddus. Bydd y Comisiwn yn arwain ar ddadansoddiad sosio-ieithyddol o sefyllfa'r iaith yn ein cymunedau Cymraeg gan ddatblygu model i gynorthwyo datblygwyr polisi ar faterion sy’n gysylltiedig â hyfywedd yr iaith. Rhan allweddol o’r gwaith fydd ystyried yr heriau y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu a meithrin gwell dealltwriaeth ohonynt.

Yn sail i hyn, bydd y Comisiwn yn dadansoddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r newid ieithyddol a fu dros y degawd diwethaf. Yn sgil hyn, bydd yn ystyried pa ymyraethau sydd eu hangen heddiw.

Rhan ganolog o waith y Comisiwn fydd datblygu modelau sy'n hyrwyddo cynllunio ieithyddol effeithiol ar lefel gymunedol a rhanbarthol. Rhan o’r gwaith hwn fydd ystyried swyddogaeth bosib ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol arbennig, a sut i'w diffinio. Bydd angen hefyd ddadansoddiad o’r cymorth a’r ymyraethau sydd eu hangen yn yr ardaloedd hyn i ddiogelu'r iaith, a sut y caiff yr ymyraethau ar y cyd eu defnyddio i sicrhau bod nodau polisi yn cael eu cyflawni. Mae’r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi papur safbwynt cyn yr haf a fydd yn cynnwys egwyddorion a sylwadau cychwynnol ynghylch y ffordd ymlaen, ac yna adroddiad terfynol erbyn haf 2024 yn cynnwys argymhellion polisi manwl o ran dyfodol cymunedau Cymraeg. Ar ôl hynny, bydd y Comisiwn yn ystyried defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol mewn rhannau eraill o Gymru.

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog

Eleni, ein bwriad yw adeiladu ar y gwaith peilot a wnaed gyda’r rhaglen hon drwy ehangu nifer y cyfranogwyr a nifer y cyrsiau sydd ar gael. Mae Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog yn rhaglen ar y cyd rhwng Is-adran Cymraeg 2050 ac Academi Wales. Mae’n rhoi cyfle i arweinwyr sefydliadau drafod sut mae ymgorffori ysbryd ‘Cymraeg 2050’ yn eu sefydliadau.

Defnydd mewnol o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru

Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar barhau i wireddu amcanion strategaeth defnydd mewnol y Llywodraeth, Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd, ar gyfer 2020 i 2025 er mwyn hwyluso rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein gweithle. Ein nod yw cefnogi’r sefydliad i weithredu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg a chynnig cyfleoedd i’n gweithlu ddysgu’r iaith, i ddatblygu eu sgiliau ac i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith. Rydym wedi ymrwymo yn y Cytundeb Cydweithio i arwain drwy esiampl, ac i gefnogi rhagor o gyrff a noddir, yr awdurdodau lleol a’r gwasanaeth sifil yng Nghymru i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Safonau’r Gymraeg

Byddwn yn parhau gyda’r gwaith o roi safonau ar waith i ddod â chyrff a sectorau newydd o dan y drefn safonau yn ystod 2023 i 2024, a hynny yn unol â’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Byddwn yn dechrau 2023 i 2024 drwy gyflwyno rheoliadau gerbron y Senedd i ddod â chwmnïau dŵr o dan y drefn safonau, cyn symud ymlaen i baratoi safonau ar gyfer cyrff cyhoeddus sy’n dal y tu allan i’r drefn safonau ar hyn o bryd. Wedi hynny, byddwn yn dechrau ar y gwaith o baratoi safonau ar gyfer cymdeithasau tai a chwmnïau rheilffyrdd.

Thema 3: creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

Byddwn yn parhau i weithio mewn amrywiol feysydd er mwyn adeiladu seilwaith a fydd yn creu amodau ffafriol i’r Gymraeg ffynnu er mwyn i bawb gael cyfle i ddysgu’n hiaith ac i’w defnyddio.

Yr economi

Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth Gweinidog yr Economi gyhoeddi cyllideb o £11 miliwn ar gyfer ail wedd Rhaglen ARFOR, cynllun sy’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Bydd y Rhaglen yn cynnwys nifer o gynlluniau a fydd yn ymhél â heriau economaidd y rhanbarth gan ystyried ymyraethau penodol a fydd yn dod a budd i’r iaith Gymraeg.

Byddwn yn parhau i gydweithio’n eang gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar gyfres o gamau gweithredu sy’n deillio o waith ein Bwrdd Crwn Economi a’r Iaith Gymraeg.

Fforddiadwyedd tai mewn cymunedau Cymraeg

Yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, byddwn yn parhau i fynd ati i wireddu nifer o ymyraethau’r Cynllun gan weithio ar draws y Llywodraeth i weithredu er budd ein cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi. Byddwn hefyd yn ehangu maes gwaith y Bwrdd Crwn Economi a’r Iaith Gymraeg i gynnwys y maes tai. Bydd gwaith y Bwrdd Crwn hefyd yn edrych ar y cynnydd a gaiff ei wneud yn erbyn y 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg'.

Bydd ein gwaith ar y 'Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' yn mynd law yn llaw â’r cynllun peilot fforddiadwyedd ac ail gartrefi sy’n cael ei gynnal yn ardal Dwyfor. Bydd nifer o ymyraethau’n cael eu cyflwyno i gefnogi pobl i gael mynediad at y farchnad eiddo, i rentu ac i ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd lleol.

Technoleg ddigidol

2023 i 2024 fydd blwyddyn gweithredu olaf ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg. Byddwn yn mynd ati, felly, i baratoi’r rhaglen waith nesaf ar gyfer technoleg a’r Gymraeg. Hefyd, yn ystod y flwyddyn, byddwn yn rhyddhau mwy o leisiau synthetig Cymraeg a dwyieithog. Bydd y rhain, fel pob cydran y mae Llywodraeth Cymru yn ei hariannu, yn cael ei rhyddhau am ddim o dan drwydded agored addas i unrhyw un eu defnyddio, eu hailddefnyddio a/neu i’w cynnwys yn eu cynnyrch nhw.

Yn ystod 2022 i 2023, gwelwyd ffrwyth terfynol ein partneriaeth â Microsoft i sicrhau cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd Teams wedi eu trefnu. Yn ystod 2023 i 2024, byddwn yn parhau i ddatblygu ein cysylltiadau gyda chwmnïau o bob math er mwyn i’r cydrannau a grëwyd o dan y Cynllun gael eu defnyddio mewn cynnyrch, a bod y cynnyrch hwnnw’n creu mwy o gyfleoedd i ni ddefnyddio’r Gymraeg.

Seilwaith ieithyddol

Byddwn yn cyhoeddi polisi seilwaith ieithyddol terfynol, gan adeiladu ar yr ymgynghoriad ar bolisi seilwaith ieithyddol drafft a gynhaliwyd yn ystod 2021. Bydd y polisi yn amlinellu sut fyddwn ni’n mynd ati i ddatblygu strwythur mwy strategol a chyd-gysylltiedig i gynnal a datblygu seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Y nod yn y pen draw yw ei gwneud yn haws i bawb wybod ble i droi wrth chwilio am gefnogaeth wrth ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn rhoi hyder i bob un ddefnyddio’r iaith yn ddirwystr.

Byddwn yn dechrau ar y gwaith o hyrwyddo a marchnata’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli drwy gymryd camau i ddatblygu gwefan newydd, gyda’r nod o helpu pobl i ganfod geiriau a thermau Cymraeg. Byddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd o Banel Safoni’r Gymraeg, er mwyn mynd i’r afael â materion orgraffyddol yr iaith. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar sefydlu trefn ar gyfer comisiynu pecynnau o dermau newydd, a safoni termau sydd eu hangen ar frys, gan ddysgu gwersi o’r gwaith a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf i safoni termau ym meysydd cydraddoldeb hil ac ethnigrwydd, ac LHDTC+.

Enwau lleoedd Cymraeg

Yn ystod y flwyddyn ariannol, byddwn yn parhau i gydweithio’n eang yn y maes hwn ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid allanol, a hynny’n unol â’n hymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i 'sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo'. Byddwn yn bwrw ati i weithredu’r camau a nodwyd yn y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Comisiynu ymchwil i ddysgu mwy am sut, pam a lle mae enwau lleoedd yn newid, i'n galluogi i ddatblygu ymyraethau polisi wedi'u targedu.
  • Archwilio camau i warchod enwau daearyddol yn well yn yr amgylchedd naturiol.
  • Archwilio sut y bydd awdurdodau lleol yn cyflawni eu rôl yn y maes hwn i sicrhau bod pob cam posibl yn cael ei gymryd i warchod enwau lleoedd.
  • Ystyried y defnydd diweddar o gyfamodau i warchod enwau tai ac archwilio sut y gellir defnyddio’r rhain yn ehangach yn y dyfodol.
  • Archwilio'r defnydd o becynnau trawsgludo fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o werth enw eiddo penodol.
  • Ystyried ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o Restr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru a'i hyrwyddo.

Am fod enwau lleoedd yn rhan annatod o ddiwylliant y Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol, byddwn yn manteisio ar bob cyfle i fwydo i mewn i strategaeth ddiwylliant newydd Llywodraeth Cymru. 

Cymru a’r byd ehangach

Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys chwarae rôl arweiniol mewn rhwydweithiau rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol megis y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD), y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Degawd Ieithoedd Brodorol 2022 i 2032 UNESCO.

Byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg a’n dwyieithrwydd wrth i ni hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel rhan o’n Strategaeth Ryngwladol. Byddwn yn rhan o’r gwaith o drefnu blwyddyn 'Cymru yn Ffrainc' Llywodraeth Cymru yn ystod 2023 er mwyn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg wedi’i gwreiddio ar draws yr ymgyrch ac i wneud cysylltiadau gydag ieithoedd lleiafrifol Ffrainc. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at y gwaith o ddiweddaru’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llydaw.

Byddwn yn parhau i weithio ar brosiect ar y cyd â Fryslan (European Charter Classroom Activities/ECCA) i rymuso pobl ifanc o ardaloedd sydd ag ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop i ddod ynghyd er mwyn trafod a rhannu profiadau ac arferion gorau.

Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â’r Urdd ar Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru 2023, thema eleni fydd Gwrth-hiliaeth.

Y Gymraeg a chydraddoldeb

Mae creu Cymru sy’n fwy cyfartal yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Byddwn felly’n parhau i weithio ar draws y Llywodraeth, a thu hwnt, er mwyn gwireddu’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn ein hamrywiol gynlluniau gweithredu yn y maes cyfiawnder cymdeithasol.

Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’n cynnwys nifer o gamau gweithredu a fydd yn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb hil ac ethnigrwydd yn dod yn rhan fwy canolog fyth o’n gwaith, gan gynnwys mynediad at yr iaith.

Bydd ein gwaith yn rhoi lle canolog i ddau gategori o waith, sicrhau bod lleisiau siaradwyr Cymraeg sy’n perthyn i gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed a bod y rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â’r iaith yn dod i deimlo bod y Gymraeg ar gael iddyn nhw, boed yn y system addysg, yn y gweithle neu yn y gymuned.

Rydym am barhau i sicrhau bod yr agenda gwrth-hiliaeth yn cael ei mabwysiadu’n drylwyr yn holl waith ein partneriaid sy’n gweithio gyda ni i weithredu ‘Cymraeg 2050’.

Bydd Is-grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn parhau i chware rôl allweddol gyda’n gwaith yn y maes hwn.

Byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn hyrwyddo eu cynllun ‘Croeso i bawb’, gan roi cyfleoedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu Cymraeg ar gyrsiau sydd wedi eu teilwra’n arbennig ar eu cyfer. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu Cymraeg y tu hwnt i’r Saesneg, drwy ieithoedd megis Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi, Pashto ac Wcreineg.

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru ddechrau mis Chwefror 2023. Mae’r cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i wreiddio ethos y Cynllun drwy’n holl waith. Yn yr un modd, byddwn yn barod i ymateb i ddatblygiadau eraill yn y maes polisi cyfiawnder cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn.

Darlledu

Byddwn yn parhau â’r gwaith o fwrw ymlaen â’r ymrwymiadau darlledu a’r cyfryngau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Byddwn yn ymateb i ganfyddiadau’r panel arbenigol sy’n ystyried creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru, yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad yn ystod haf 2023.

Byddwn yn defnyddio cyllideb o £1 miliwn ar gyfer darlledu a £100,000 ar gyfer y cyfyngau i gefnogi prosiectau darlledu a newyddiaduraeth wedi’u targedu yn ystod y flwyddyn ariannol ac yn parhau â’n gwaith i gefnogi cynyrchiadau iaith Gymraeg a thwf yr iaith drwy gyfrwng ein Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gydag S4C.

Diwylliant

Drwy'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth ddiwylliant newydd. Bydd y strategaeth yn arddangos holl amrywiaeth Cymru, gan wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn gweithio’n strategol er mwyn creu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Dyma un o nodau’r 'Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015'. Wrth wneud hyn, byddwn yn ymwneud yn agos ac yn ystyrlon gyda’r sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Bydd union flaenoriaethau’r strategaeth yn cael eu cytuno drwy ymgynghori’n agos gyda’r sectorau. Y nod yw cyhoeddi’r strategaeth ddrafft cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Ymchwil ac ystadegau

Byddwn yn parhau i ehangu ar ein sail dystiolaeth ymchwil ac ystadegau fel sylfaen i weithredu ‘Cymraeg 2050’.

Fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n gyfrifol am y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, gyhoeddi data cychwynnol Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg fis Rhagfyr y llynedd.

Gwelwyd cwymp yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg tair oed neu’n hŷn o 562,000 (19.0%) yn 2011 i 538,300 (17.8%) yn 2021. Gwelwyd gostyngiad yng nghanran y plant 3 i 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol. Fodd bynnag, bu cynnydd bach yng nghanran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y grwpiau oedolion ifanc (pobl 16 i 19 oed a phobl 20 i 44 oed), a chynnydd yn y ganran mewn awdurdodau lleol yn ne ddwyrain Cymru. Ond gwelwyd gostyngiad hefyd yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg, yn enwedig felly yn Sir Gaerfyrddin. Y sir honno a welodd y gostyngiad mwyaf yn y ganran o bobl tair oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg sef gostyngiad o 43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021. Sir Gaerfyrddin a welodd y gostyngiad mwyaf rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011 hefyd. Gwelwyd gostyngiadau hefyd mewn rhai trefi yn Ynys Môn, Gwynedd a Cheredigion.

Rydym eisoes wedi dechrau dadansoddi’r canlyniadau sy’n ymwneud â’r Gymraeg gan edrych arnynt yng ngoleuni ystod eang o ffynonellau data eraill. Yn dilyn gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a’r Ystadegydd Gwladol am y gwahaniaethau yr ydym yn eu gweld rhwng gwahanol ffynonellau ar y Gymraeg, mae ein hystadegwyr yn cydweithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddeall y gwahaniaethau hyn yn well er mwyn gwella ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn ymateb i gwestiynau ar y Gymraeg.

Byddwn hefyd yn craffu ar ddata pellach o’r cyfrifiad pan ddaw ar gael yn hwyrach eleni er mwyn datblygu darlun mwy cyflawn, yn benodol ar drosglwyddo’r Gymraeg rhwng cenedlaethau a’r Gymraeg yn ôl nodweddion eraill megis rhyw ac ethnigrwydd.

Byddwn yn defnyddio’r data yma a diweddariadau pellach i’r amcanestyniadau o’r boblogaeth er mwyn diweddaru’r taflwybr ystadegol ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.