Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Effaith y coronafeirws
Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Hydref i Rhagfyr 2022 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer y cyfnod Ionawr 2022 i Ragfyr 2022.
Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.
Prif bwyntiau
Ffigur 1: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Hydref 2000 i Rhagfyr 2022
Disgrifiad o Ffigur 1: Dengys y siart llinell y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 2000. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 2000, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.
Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Cynyddodd pob un o’r tri mynegai ar gyfer Cymru yn flynyddol; y pedwar chwarter diweddaraf (Ionawr 2022 i Ragfyr 2022). Yn chwarterol, dangosodd y mynegai adeiladu gynnydd tra bod gwasanaethau marchnata a chynhyrchu yn dangos gostyngiadau. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 3.3% yng Nghymru a chynnydd o 5.1% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn chwech allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
- Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 0.5% wrth gymharu’r chwarter cyfredol a’r un flaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 0.2%, dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 2.8% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 2.8% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Mae’r Mynegai Cynhyrchu ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 0.6% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Ni newidiodd allbwn y DU dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 11.8% ar gyfer Cymru a chynnydd o 6.2% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2022, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 13.1% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.3% dros yr un cyfnod.
Dyfodol y Cyhoeddiad hwn
Oherwydd bod yr SYG yn cynhyrchu GDP rhanbarthol chwarterol penderfynwyd roi'r gorau i gynhyrchu'r Dangosyddion Allbwn Tymor Byr hyn. O'r herwydd, cyhoeddiad chwarter 1 2023 fis Gorffennaf fydd yr olaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ystadegau.economi@llyw.cymru.
Adroddiadau
Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Hydref i Rhagfyr 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.