Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cael ei lansio ar gyfer yr ail flwyddyn.
Mae’r Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach yn cefnogi’r pedwar gwasanaeth contractio gofal sylfaenol annibynnol yng Nghymru – fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth gofal sylfaenol, ymarfer cyffredinol ac optometreg gymunedol – er mwyn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol eu harferion o ddydd i ddydd, ac er mwyn cyrraedd targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.
Mae’n darparu casgliad o gamau gweithredu clinigol ac anghlinigol gyda’r nod o helpu practisau gofal sylfaenol i newid yr hyn y maent yn ei wneud bob dydd er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, cynhyrchu llai o wastraff a rheoli ein hôl troed carbon.
Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru a’r Senedd argyfwng hinsawdd. Mae Cynllun Sero Net Llywodraeth Cymru yn nodi ein targed cyffredinol, sy’n gyfreithiol rwymol, o gyrraedd y nod o allyriadau sero net erbyn 2050, ochr yn ochr â’r uchelgais i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ar y cyd, gyrraedd y nod sero net erbyn 2030.
Mae cysylltiad annatod rhwng yr argyfwng newid hinsawdd ac iechyd ein poblogaeth yng Nghymru. Heb weithredu, bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddarpariaeth ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn niweidio iechyd a llesiant, ac yn rhoi pobl sy’n agored i niwed mewn mwy o berygl, gan ehangu anghydraddoldebau.
Mae pobl mewn cysylltiad â GIG Cymru gan amlaf drwy ofal sylfaenol a chymunedol – ac felly bydd y gwasanaethau hyn yn chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn ogystal â’n gwaith ehangach i ddatgarboneiddio’r gwasanaeth cyhoeddus.
Ers i Iechyd Cyhoeddus Cymru lansio Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ym mis Mehefin 2022, mae mwy na chant o bractisau gofal sylfaenol wedi cofrestru i’r fframwaith gan gwblhau cyfanswm o 638 o gamau gweithredu sy’n ystyriol o’r hinsawdd. Mae 35 o bractisau wedi cymryd digon o gamau gweithredu i gael gwobr efydd, arian neu aur.
Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hyd yn hyn. Bydd y camau gweithredu hyn yn gwneud gwahaniaeth i’n dyfodol.
Rwy’n falch bod y cynllun yn cael ei ail-lansio am ail flwyddyn. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid strategol a chlinigwyr rheng flaen i godi ymwybyddiaeth ohono a sicrhau y gall cymaint o bractisau â phosibl gofrestru a chymryd rhan.
Mae’n sefydlu cymuned ar-lein lle y gellir rhannu arferion gorau. Rydym wedi ariannu deunyddiau cyhoeddusrwydd, gan gynnwys blwyddlyfr sy’n casglu gweithgareddau datgarboneiddio o flwyddyn gyntaf y cynllun, a ffilm animeiddio fer sydd ar gael ar wefan Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.