Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Gorffennaf i Medi 2022.

Mae CDG yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.

Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus.  Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.

Prif bwyntiau

Newid dros y tymor byrrach

  • Gostyngodd CDG yng Nghymru 2.0% yn chwarter 2 (Gorffennaf i Fedi) 2022 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ebrill i Fehefin 2022). Gostyngiad o 8% yn y sector gynhyrchu yng Nghymru oedd yn gyrru hyn.
  • Gwelodd Alban ostyngiad o 0.3% dros yr un cyfnod amser ac ni fu newid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  • Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, gostyngodd CDG 0.1%.
  • Gwelwyd gostyngiadau o 8.0% a 0.3% yn y sectorau cynhyrchu a gwasanaethau, a chafwyd cynnydd o 0.7% yn y sector adeiladu.

Newid dros y tymor hwy

  • Gostyngodd CDG yng Nghymru 2.1% ym mis Gorffennaf hyd at fis Medi 2022 o'i gymharu â'r un chwarter y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd CDG ar gyfer y DU 2.0% dros yr un cyfnod amser.
  • Dangosodd yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon  dwf positif mewn CDG dros y tymor hwy. Yr Alban welodd y cynnydd mwyaf (2.6%), tra gwelodd Cymru ostyngiad (2.1%).
  • Cafwyd tyfiant yn y sectorau adeiladu a gwasanaethau  (1.2% a 1.9% yn y drefn honno).  Gwelodd y sector gynhyrchu ostyngiad mawr o 14.3%.

Nodyn

Mae'r SYG wedi cynnwys diwygiadau oedd wedi'u cynllunio yn y datganiad hwn, ond mae'r rhain wedi bod yn fwy sylweddol na'r disgwyl. Roedd y diwygiadau yn cysoni’r data chwarterol â'r data blynyddol newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan SYG. O ystyried bod y cyfnod cysoni yn cwmpasu 2020 a gafodd ei effeithio'n drwm gan bandemig y coronafeirws, a'r ansicrwydd o'i gwmpas, mae'r diwygiadau wedi bod yn fwy na'r disgwyl.

Cyswllt

Emma Horncastle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.