Sut rydym yn adolygu cyfyngiadau cyflymder a gwrthdrawiadau i wella diogelwch ar gefnffyrdd.
Mae'r map hwn yn dangos newidiadau wedi'u cynllunio i’r terfyn cyflymder a gwelliannau i ddiogelwch cefnffyrdd mewn ymateb i:
- ddadansoddiad o wybodaeth am wrthdrawiadau a chyflymderau
- gwybodaeth gan y cyhoedd
- y canllawiau ar osod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2023 OS 100021874, viaEuropa: © 2023 Europa Technologies Ltd. Cedwir pob hawl
Mae’r map cyflawn i’w weld ar MapDataCymru
Mae'r map yn dangos llinellau coch a glas ar hyd cefnffyrdd:
- mae llinellau coch yn dangos rhannau lle mae gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd wedi'u cynllunio
- mae llinellau glas yn dangos rhannau lle nad oes gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd wedi'u cynllunio
Mae eiconau sgwâr melyn yn nodi dechrau a diwedd rhannau cefnffyrdd.
Dewiswch linell ar y map am fwy o wybodaeth, gan gynnwys:
- disgrifiad o'r adran cefnffordd dethol
- manylion unrhyw welliannau arfaethedig
- y dyddiad cynharaf y bydd gwaith datblygu’r cynllun yn dechrau