Os ydych yn derbyn y Cynnig Gofal Plant ac nad ydych yn ymateb pan ofynnir i chi gadarnhau eich cymhwysedd parhaus, neu os byddwch yn dod yn anghymwys, byddwch yn dechrau cyfnod gwahardd dros dro o hyd at 8 wythnos.
Pan fydd eich cyfnod eithrio dros dro yn dechrau byddwch yn cael gwybod y dyddiad y bydd y cyllid yn dod i ben:
- caiff e-bost ei anfon atoch
- bydd dangosfwrdd eich cyfrif ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn arddangos hysbysiad
Byddwch yn parhau i gael cyllid yn ystod cyfnod eithrio dros dro. Mae hyn yn rhoi amser i chi ailgyflwyno tystiolaeth o'ch cymhwysedd neu ddarparu tystiolaeth newydd os oes angen. Er enghraifft, tystiolaeth o ddechrau swydd newydd. Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth bydd eich cyllid yn dod i ben pan fydd y cyfnod eithrio yn dod i ben.
Gall cyfnod eithrio dros dro gael ei ôl-ddyddio hyd at 4 wythnos. Er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo ond roeddech heb roi gwybod i ni am 6 wythnos mae eich cyfnod eithrio yn cael ei ôl-ddyddio 4 wythnos ac mae gennych 4 wythnos yn weddill.
Os bydd eich cyllid yn dod i ben, efallai y bydd angen i chi dalu eich lleoliad gofal plant eich hun.
Rhoddir wybod i'ch lleoliad gofal plant fod eich cytundeb yn dod i ben 4 wythnos cyn i'r cyllid ddod i ben. Nid yw'r hysbysiad hwnnw yn disodli unrhyw gyfnod hysbysu yr ydych yn gyfrifol amdano o dan eich contract gyda'r lleoliad. Gwiriwch eich contract i gadarnhau a oes angen cyfnod hysbysu ar eich lleoliad i ddod â'ch cytundeb gyda nhw i ben.