Grant i gefnogi datblygu capasiti o fewn y gweithlu addysg Gymraeg a dwyieithog.
Dogfennau
Grant datblygu capasiti’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg: ffurflen mynegi diddordeb , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 19 KB
Manylion
Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer gwlad lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, yn ogystal â chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae angen gweithlu medrus arnom. Mae Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg yn amlinellu’r camau y byddwn yn cymryd mewn partneriaeth â nifer o randdeiliaid i gynyddu nifer yr athrawon, cynorthwywyr ac arweinwyr ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg.
Yn 2022 i 2023 fel gweithred tymor byr, er mwyn cefnogi datblygiad capasiti rhai rhannau o’r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, fe wnaethom sefydlu cynllun grant er mwyn i ysgolion fedru datblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o’r heriau o ran recriwtio gweithlu.
Bydd y grant yn 2023 i 2024 yn cael ei strwythuro i feysydd allweddol er mwyn galluogi ysgolion i adeiladu ar y prosiectau a ddatblygwyd yn ystod 2022 i 2023.
Proses ymgeisio
Dylid llenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb a’i danfon trwy e-bost i athrawoncc.wmteachers@gov.wales erbyn 5 Mai.
Dylid hefyd rannu copi o'ch ffurflen Mynegi Diddordeb gyda thîm y Gymraeg mewn addysg yn y consortia rhanbarthol neu'r awdurdod lleol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r grant ewch i'r adran Datblygu'r Gymraeg o fewn eich ysgol ar Hwb.