Yn ystod ymweliad tri diwrnod â Ffrainc, bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Pharis i gwrdd â chwmnïau ynni a diwydiannol sy’n buddsoddi yng Nghymru.
Bydd Mark Drakeford hefyd yn cynnal derbyniad i nodi dechrau Cymru yn Ffrainc, sef dathliad blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon, gyda’r nod o gryfhau’r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddwy wlad, a chreu rhai newydd.
Mae Ffrainc yn bartner pwysig i Gymru wrth inni anelu at barhau i gryfhau ein perthnasau â gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau Ewrop.
Mae gan oddeutu 80 o fusnesau Ffrengig swyddfeydd yng Nghymru, ac maen nhw’n cyflogi tua 10,000 o bobl.
Ar ôl yr Almaen, Ffrainc yw’r ail gyrchfan mwyaf ar gyfer allforion o Gymru, ac yn 2020 roedd yr allforion i Ffrainc yn werth ychydig dros £1.8 biliwn.
Mae hefyd yn farchnad bwysig ar gyfer y celfyddydau, diwydiannau creadigol a sefydliadau addysgol.
Yn ystod ei amser ym Mharis, bydd y Prif Weinidog yn ymweld ag Archif Genedlaethol Ffrainc i weld Llythyr Pennal, a gafodd ei anfon gan Owain Glyndŵr at Frenin Siarl VI, brenin Ffrainc, yn 1406, yn gofyn iddo gefnogi ei wrthryfel yn erbyn rheolaeth Lloegr.
Wedi’i gyfansoddi yn ystod un o synodau Eglwys Cymru ym Mhennal, mae’r llythyr yn cynnig cipolwg ar weledigaeth Owain ar gyfer dyfodol Cymru.
Bydd y Prif Weinidog yn arwain dirprwyaeth o sefydliadau Cymreig i gwrdd â swyddogion UNESCO yn y pencadlys ym Mharis, a bydd yn cwrdd â chynrychiolwyr i ddathlu’r berthynas unigryw sydd gan Gymru â Llydaw.
Mae hefyd wedi cael gwahoddiad gan Ffederasiwn Rygbi Ffrainc i wylio gêm olaf Cymru yng ngornest y Chwe Gwlad, yn erbyn tîm Ffrainc, yn y Stade de France.
Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:
“Rwy’n hynod falch o lansio ein blwyddyn Cymru yn Ffrainc, yng nghanol Paris.
“Mae’r cysylltiadau cryf rhwng y ddwy wlad wedi’u gwreiddio yn yr hanes a’r diwylliant rydyn ni’n eu rhannu.
“Mae Ffrainc ymhlith y gwledydd sydd agosaf inni yn Ewrop, ac mae’r cyfleoedd sy’n cael eu datblygu rhwng busnesau yng Nghymru a Ffrainc yn drawiadol ac uchelgeisiol.“Mae ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, y pandemig, yr argyfwng costau byw ac ymosodiad disymbyliad Rwsia ar Wcráin yn golygu, nawr mwy nag erioed, ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn sefyll ac yn gweithio gyda’n gilydd.
“Mae Cymru yn wlad Ewropeaidd sydd wedi ymrwymo i ddatblygu byd cynaliadwy, tecach a mwy cydweithredol.”