Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol
Roedd y cyfnod Ebrill - Mehefin 2022 ar ddiwedd cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, mae cymariaethau hanesyddol wedi eu heffeithio gan bandemig COVID-19, ac felly mae cymariaethau cyn y pandemig hefyd wedi'u cynnwys.
Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).
Prif bwyntiau (data dros dro)
Gorffennaf 2021 i Fehefin 2022
- Cafodd 65.5% o wastraff ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, gostyngiad bach o’i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mehefin 2021 (y ffigwr 12 mis uchaf sydd wedi ei gofnodi).
Ebrill i Fehefin 2022
- Cafodd 67% o wastraff trefol ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio, cynnydd o 1 pwynt canran ar y chwarter cyfatebol yn 2021 a’r un ganran â'r chwarter yn 2019.
- Cynhyrchwyd 370,000 tunnell o wastraff trefol, gostyngiad o 10% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2021 a gostyngiad o 8% o’i gymharu â’r chwarter cyfatebol yn 2019.
Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.
Nodiadau
Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.
Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.