Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Thema’r Diwrnod Gweithredu ar gyfer Gofalwyr Ifanc eleni yw Gwnewch Amser i Ofalwyr Ifanc. Y nod yw annog mwy o weithwyr proffesiynol i wrando ar yr heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu. Byddaf yn gwneud amser ar 16 Mawrth i gwrdd â grŵp o ofalwyr ifanc i glywed sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu anawsterau wrth geisio cael cydbwysedd rhwng eu hamser addysg, hamdden a’u cyfrifoldebau gofalu.
Mae’r prosiect cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc yn yr ysgol, mewn lleoliadau iechyd, ac yn y gymuned. Cafodd £600,000 ei fuddsoddi yn y prosiect, ac mae awdurdodau lleol yn gweithio i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gwybod am fanteision y cerdyn ac yn eu hannog i’w ddefnyddio. Rwy’n awyddus i weld cynnydd rhagorol y blynyddoedd diwethaf yn parhau, wrth inni adeiladu ar ein llwyddiannau.
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dal i roi o’n hamser i wrando ar farn gofalwyr ifanc a chlywed am eu profiadau, rydym yn darparu cyllid i Plant yng Nghymru ar gyfer sefydlu Bwrdd Cynghori ar gyfer Gofalwyr Ifanc. Bydd y bwrdd hwn yn rhan annatod o’n gwaith ymgysylltu ehangach, a bydd yn ein helpu i weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau sy’n galluogi gofalwyr ifanc i wireddu eu potensial.
Wedi llwyddiant mawr digwyddiad y llynedd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ail ŵyl i ofalwyr ifanc a gynhelir ym mis Awst. Wrth fynychu’r ŵyl y llynedd, cefais gyfle i weld sut yr oedd y digwyddiad yn rhoi amser gwerthfawr i’r gofalwyr ifanc fwynhau eu hunain, yn ogystal â rhoi cyfle iddynt siarad â gweithwyr proffesiynol am eu profiadau. Roedd yn brofiad gwerth chweil i bawb a gymerodd ran, ac rwy’n edrych ymlaen at wneud amser i fynychu’r digwyddiad eto eleni.
Heddiw, rydym hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar hynt y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a’i chynllun gweithredu ategol, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae’r dogfennau hyn yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cymryd camau pendant i wella bywydau gofalwyr di-dâl o bob oed.
Mae llawer iawn wedi cael ei gyflawni ers lansio’r Strategaeth yn 2021. Fel rhan o’n buddsoddiad o £9m mewn Cronfa Seibiannau Byr, mae cyllid wedi cael ei roi i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu cyfleoedd arloesol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cynnig seibiannau i ofalwyr di-dâl. Hefyd, cafodd cynllun grant trydydd sector, Amser, ei lansio ym mis Ionawr 2023. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn symud yn nes tuag at gyflawni nodau uchelgeisiol y Strategaeth. Mae hyn yn cynnwys aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl sydd wedi helpu i gynllunio’r Gronfa Seibiannau Byr, ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sef y corff cydgysylltu cenedlaethol ar gyfer y prosiect.
Yn olaf, rydym yn bwrw ymlaen â’n cynlluniau i gyflwyno cofrestr genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae swyddogion wedi ysgrifennu i fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i goladu rhestr o gysylltiadau proffesiynol a fyddai’n gallu anfon gwybodaeth at ofalwyr di-dâl ar fyr rybudd. Rydym hefyd yn gweithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer gweinyddu cofrestr, a sut y gallai honno fod o fudd i ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Ein huchelgais yw sicrhau bod y gofrestr yn gweithredu fel adnodd i ddosbarthu negeseuon clir gan Lywodraeth Cymru yn gyflym ac yn uniongyrchol i ofalwyr di-dâl.
Mae’n bwysig oedi am eiliad i asesu’r sefyllfa bresennol i weld pa mor bell yr ydym wedi teithio, ond mae’n hanfodol hefyd edrych i’r dyfodol i weld faint yn rhagor y gallwn ei wneud i sicrhau bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn cael y cymorth y mae ei angen i flaenoriaethu eu hiechyd a’u llesiant eu hunain ochr yn ochr â’u gweithgarwch gofalu. Rwy’n hyderus y gallwn gyflawni hyn drwy wneud amser i wrando ar ofalwyr di-dâl o bob oed.