Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yfory, bydd Canghellor y Trysorlys yn cyflwyno ei Gyllideb i Senedd y DU. Yn sgil y streiciau arfaethedig yng Nghomisiwn y Senedd a’r Gwasanaeth Sifil, byddaf yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn nodi’r goblygiadau i Gymru ddydd Iau 16 Mawrth yn hytrach nag ar ddiwrnod cyhoeddi’r Gyllideb.
Mae’r Datganiad hwn yn nodi tair blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb y DU: mwy o gymorth ar gyfer aelwydydd yn ystod yr argyfwng costau byw; mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus; a buddsoddi i hybu twf yn yr economi ledled y DU.
Mae’r sefyllfa economaidd yn y DU yn parhau i fod yn heriol iawn. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud mwy i liniaru sefyllfaoedd ariannol aelwydydd sy’n gwaethygu o ganlyniad i’r argyfwng costau byw parhaus. Mae’r argyfwng yn cael effaith anghymesur ar bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, menywod, gofalwyr a’r rheini sydd â phlant ifanc.
O ganlyniad i’r ffaith bod y cymorth ar gyfer costau ynni bellach yn llawer is na’r disgwyl, dylai’r Canghellor sicrhau bod y Warant Pris Ynni o £2,500 yn cael ei chynnal o fis Ebrill ymlaen. Dylai hefyd adolygu’r dreth ffawdelw er mwyn dileu bylchau yn y ddeddfwriaeth fel nad yw cwmnïau sy’n cynhyrchu ynni yn gallu cadw cymaint o’u helw digynsail.
Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ymarferol pellach i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rheini sy’n dioddef waethaf. Er bod y Canghellor wedi datgan terfyn ar y ‘gosb ragdalu’, dylai fynd ymhellach yn ei Gyllideb drwy geisio diddymu taliadau sefydlog ar fesuryddion rhagdalu yn ogystal â chynyddu cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a chyllid ar gyfer Taliadau Disgresiwn ar Gostau Tai, a darparu cymorth ar gyfer undebau credyd. Ochr yn ochr â’r camau hyn, dylai Llywodraeth y DU weithredu taliad untro ychwanegol ar gyfer pawb sy’n derbyn budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd er mwyn lliniaru yn erbyn costau sy’n cynyddu’n barhaus. Dylai hefyd ddiddymu’r cap ar fudd-daliadau a’r terfyn dau blentyn yn ogystal â gwneud newidiadau i’r polisi ar ddidyniadau’r Credyd Cynhwysol er mwyn lleddfu’r pwysau ar yr aelwydydd hynny sydd yn y perygl ariannol mwyaf.
Yn ogystal â chymryd camau i gefnogi aelwydydd, dylai’r Canghellor fanteisio ar y cyfle hwn i gynyddu gwariant cyhoeddus er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn cael cyflog teg a bod gwasanaethau’n gallu ymateb yn well i’r pwysau yn sgil pandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw.
Mae angen i’r Gyllideb hefyd ganolbwyntio ar hybu twf ar draws y DU. Mae cyfoeth o gyfleoedd ar gael yng Nghymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi er mwyn cefnogi menter a chynhyrchiant, gan gynnwys ym meysydd rheilffyrdd, ynni adnewyddadwy ac ymchwil a datblygu. Dylai Llywodraeth y DU fuddsoddi mewn rhaglenni arloesol sy’n helpu i leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil cymaint â phosibl a chyfrannu tuag at ein huchelgeisiau sero net, megis ym meysydd ynni’r llanw, ynni gwynt ar y môr ac ynni niwclear yn ogystal â darparu cymorth er mwyn datgarboneiddio’r diwydiant dur. Dylai hefyd ystyried buddsoddi mewn cyfleoedd a allai gyfrannu at dwf economaidd a’r targed sero net drwy’r sector ymchwil a datblygu, megis ym maes lled-ddargludyddion, radiodiagnosteg a radiofeddyginiaethau, a allai helpu i leihau amseroedd aros yn y GIG hefyd.
Dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i gwblhau gwaith trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd rhwng Caerdydd ac Abertawe – gan gynnwys rheilffyrdd Bro Morgannwg. Dylai hyn fod yn rhan o raglen dreigl o drydaneiddio ledled Cymru. Mae’r oedi ar yr unig ran o brosiect HS2 a fyddai wedi cynyddu’r cysylltedd â Chymru yn atgyfnerthu’r canfyddiad mai prosiect i Loegr yn unig yw hwn nad yw’n fuddiol i Gymru. Rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i adolygu’r penderfyniad i glustnodi’r buddsoddiad hwn, sy’n werth £100 biliwn, yn brosiect i Gymru a Lloegr, a darparu’r £5 biliwn o gyllid canlyniadol sy’n ddyledus i Lywodraeth Cymru.