Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Julie Morgan AS

Mynychwyr allanol

  • Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cynorthwyol Cyffredinol y Cyngor Mwslimiaid
  • Shavanah Taj, Cyngres yr Undebau Llafur
  • Y Parchedig Andy John, Archesgob Cymru
  • Tom Lee, Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant
  • Paul Slevin, Siambrau Cymru

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, IGC
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Y Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Ailgychwyn ac Adfer
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)
  • James Burgess, Dirprwy Gyfarwyddwr dros dro, Costau Byw
  • Christopher Morgan, Y Tîm Costau Byw

Eitem 1: Diweddariad gan bartneriaid cymdeithasol am yr ymatebion sy’n cael eu paratoi i’r heriau costau byw a wynebir gan gymunedau

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog bawb i’r cyfarfod gan wahodd partneriaid i wneud cyflwyniad i'r grŵp.

1.2 Dywedwyd bod adborth gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol yn cyfeirio at y ffaith bod grwpiau penodol sydd â nodweddion gwarchodedig yn dioddef effeithiau heriol yn sgil yr argyfwng costau byw.

1.3 Er enghraifft, gallai rhywun sydd â nam ar y golwg fod yn 73% yn fwy tebygol o ddioddef oherwydd yr argyfwng, o gymharu â phobl sydd heb nam ar y golwg.

1.4 Hefyd, roedd 50% o bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a gafodd eu hatgyfeirio i gael cyngor ynghylch incwm yn dioddef cyllidebau negyddol, lle nad oedd incwm yn cyfateb i alldaliadau rheolaidd.

1.5 Dywedwyd bod angen gwneud rhagor o waith ar ffynonellau data er mwyn darparu darlun cyflawn o’r effeithiau ar draws y grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, ac y byddai unedau cydraddoldeb a data’r Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid i wella’r dangosfwrdd data ar-lein a rennir â phartneriaid.

1.6 Nododd y Pwyllgor bod cymunedau gwledig yn wynebu costau cynyddol oherwydd eu daearyddiaeth, megis trafnidiaeth, cynnydd mewn costau ynni i’r rheini nad ydynt ar y grid, a’r ffaith ei bod yn ymddangos bod diffyg tai fforddiadwy ar gael i’w rhentu mewn cymunedau llai o faint, sef rhywbeth a oedd yn arwain yn ei dro at gynnydd mewn costau rhentu tŷ.

1.7 Dywedwyd bod y modd yr ymgysylltir â defnyddwyr drwy fanciau bwyd a chanolfannau clyd, ac â’r rheini a oedd yn defnyddio gwasanaethau cymorth ynni, wedi gwella, ac y dylid parhau i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn fel porth at ystod o fudd-daliadau a chyngor cymorth ehangach. Ochr yn ochr â hyn, gallai cwmnïau ynni fanteisio mwy ar y cyfle i ddefnyddio’r math hwn o ymgysylltu â chwsmeriaid, a’r cysylltiadau sydd wedi eu creu â sefydliadau megis Gofal a Thrwsio Cymru.

1.8 Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r rôl gydlynu sy’n cael ei chyflawni gan CGGC a Chynghorau Gwirfoddol Sirol, sy’n pontio’r bwlch rhwng gwasanaethau gwirfoddol a’r ddarpariaeth statudol gan awdurdodau lleol.

1.9 O ran y Gymuned Fwslimaidd, roedd adborth wedi tynnu sylw at broblemau yn sgil y llif arian yn crebachu oherwydd y cynnydd yng nghostau bwyd a biliau eraill, ac roedd tystiolaeth bod cynilion pobl yn mynd yn llai ac yn llai wrth iddynt geisio ymdopi â’r argyfwng. Roedd hyn yn fwy o broblem i deuluoedd iau, gan fod eu cynilion yn fwy tebygol o fod yn gyfyngedig.

1.10 Roedd CLlLC yn adrodd bod y canolfannau clyd, a sefydlwyd ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn dod â buddion a bod y lleoedd hyn wedi cael eu defnyddio’n rheolaidd a’u croesawu gan gymunedau. Awgrymwyd y gellid gwneud mwy i ddarparu gwasanaethau cynghori holistaidd drwy’r pwyntiau cyswllt cyntaf hyn. Roedd tystiolaeth anecdotaidd fod rhai canolfannau clyd yng Nghaerdydd ar agor am lai o oriau ac ar lai o ddiwrnodau’r wythnos nag y bwriedid yn wreiddiol, a byddai hyn yn cael ei wirio.

1.11    Roedd y pwyllgor yn gofyn i bartneriaid ddefnyddio eu holl rwydweithiau a chysylltiadau, gan gynnwys defnyddio’r canolfannau clyd a gwasanaethau cynghori eraill i annog pobl i fanteisio ar Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi £200 i aelwydydd cymwys, sef cynllun llwyddiannus iawn gyda chanran o 72% yn cael mantais ohono. Byddai’r cymorth hwn yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn ariannol.

1.12 Hefyd, roedd y Sefydliad Banc Tanwydd yn rhoi talebau i gwsmeriaid meteri talu ymlaen llaw, a dylid annog unrhyw un nad oedd yn manteisio ar y cymorth eisoes i wneud hynny. Nodwyd bod 97% o osodiadau meteri talu ymlaen llaw wedi eu newid yn ôl ar ôl i bobl eu herio, a dylid sôn am hynny wrth y rheini sy’n ei chael yn anodd talu biliau ynni.

1.13 Pwysleisiwyd y ffaith bod y gwaith o wneud cynlluniau taliadau cymorth yn awtomatig yn mynd rhagddo ar draws awdurdodau lleol, a chytunodd yr holl bartneriaid i godi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau drwy’r canolfannau clyd, gan sicrhau hefyd bod y canolfannau’n gweithredu yn ôl oriau agor cytûn.

1.14 Trafodwyd materion yn ymwneud â thlodi cudd, ac roedd tystiolaeth gan y Resolution Foundation yn cyfeirio at nifer o anawsterau yn y maes hwn, gan gynnwys pobl yn ymestyn dyledion drwy naill ai fethu taliadau ar wahanol filiau mewn gwahanol fisoedd; dihysbyddu eu cynilion; neu gael cyllid o werthu neu wystlo eitemau’r aelwyd; neu beidio â gwneud taliadau penodol yn y tymor byr, megis taliadau pensiwn neu yswiriant. Roedd y rhain yn arwyddion o straen a thrallod nad oedd yn hawdd eu hadnabod, ond a allai arwain at broblemau mwy tymor hir.

1.15 Roedd enghreifftiau o ysgolion yn ymyrryd i helpu rhieni mewn unrhyw ffordd y gallent i ymdopi â’r cynnydd parhaus mewn costau byw, gan gynnwys gosod peiriannau golchi i’w rhannu. Roedd tystiolaeth bod iechyd meddwl a llesiant yn gwaethygu’n sylweddol ymhlith yr aelwydydd ar y cyflogau isaf.

1.16 Er gwaethaf y ffaith bod cyfraddau tlodi cymharol wedi gostwng, roedd hyn yn erbyn cefndir mai’r bobl dlotaf yn aml sydd â’r cyfraddau chwyddiant personol uchaf.

1.17 Roedd gwaith da wedi cael ei gyflawni gan yr Eglwys yng Nghymru yn gweithio gydag archfarchnadoedd i gefnogi banciau bwyd, ac roedd oddeutu 10,000 o focsys hylendid wedi cael eu darparu drwy rwydweithiau, er y cydnabyddir bod angen gwneud mwy i roi sylw i broblemau tlodi isorweddol.

1.18 O ran hyder busnesau, roedd rhywfaint o optimistiaeth y gallai ail hanner y flwyddyn wella, yn amodol bod cyfraddau llog a chwyddiant yn gostwng. Fodd bynnag, roedd pryderon sylweddol gan fusnesau yng Nghymru ynghylch y gostyngiad mewn cymorth gan y Cynllun Cymorth Ynni, gyda rhai busnesau lletygarwch yn debygol o gael dim ond degfed ran o’r cymorth presennol o fis Ebrill ymlaen, a byddai biliau’n codi eto. Roedd 47% o fusnesau wedi dweud y byddent yn ei chael yn anodd iawn talu’r costau uwch.

1.19 Dywedwyd bod busnesau wedi gwneud eu gorau i gefnogi eu gweithwyr drwy ddarparu taliadau ychwanegol a hyblygrwydd, ond roedd hynny wedi cael rhai canlyniadau na fwriedid drwy fod rhai pobl wedi gadael cyflogaeth sgiliau uchel er mwyn cael cyflogau gwell mewn swyddi sgiliau is. Roedd rhywfaint o bryder ynghylch y dystiolaeth a oedd yn dod i’r golwg bod nifer yr achosion o ansolfedd personol yn codi, gyda menywod rhwng 24-40 oed yn cael eu heffeithio waethaf.

1.20 Nododd y Pwyllgor fod cyfraddau’r bobl yng Nghymru a oedd yn manteisio ar gredyd pensiwn ymysg yr isaf a bod y llywodraeth a phartneriaid yn gweithio gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn i roi sylw i hynny.

1.21 Diolchodd y Prif Weinidog i bartneriaid am eu cyflwyniadau a’u dadansoddiadau, gan grynhoi’r themâu a nodi bod yr argyfwng costau byw yn bell o fod drosodd a bod yr angen i barhau i ymgysylltu â’r rheini sydd â’r angen mwyaf yn dal i fod yn hollbwysig.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2023